Cymuned | Llwyfan llenyddol: Llais gan Twm Ebbsworth
Enillydd Cadair Eisteddfod CFfI Cymru 2019 yw Twm Ebbsworth, o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, Ceredigion. Dyma ei gerdd fuddugol, sy’n sôn am y ffoadur, Mohamad Karkoubi, wnaeth ffoi o Aleppo, Syria i Gymru gyda’i deulu ifanc. Mae e bellach yn gweithio fel gof yn Nhregaron...
Llais
(I Mohamad Karkoubi)
Aleppo
Tawch o lwch,
a muriau hynafol yn sibrwd eu siom.
Ofer yw grym Gweddi a Gair,
bwledi yn ddefod beunyddiol.
Dwrn gofid sy'n gafael ynot,
yn crafangu
gwead dy fod.
Ffoi, i fynnu gwell,
hawlio byw.
A'r coed olewydd
yn wylo'u hiraeth.
Tregaron
Cyhwfan barcud
sy'n dy hebrwng yma,
a gwreichion gweithdy
yn cydio, a chynnu fflam.
Ffrindiau'n cymell dy eiriau herc,
a'th "amser te" trwsgwl
yn barch o baned,
yn estyn llaw at y lle hwn.
Mowldio bywyd o'r newydd,
ac egin gobaith yn cyniwair,
yn codi'n hyder tawel.
Fesul gair,
fe ddest ti'n nes.