top of page

Cymuned | Llwyfan llenyddol: CFfI Cymru

Cymuned | Llwyfan llenyddol: CFfI Cymru

Enillydd Coron Eisteddfod CFfI Cymru 2019 yw Sion Jenkins, o Glwb Ffermwyr Ifanc Clunderwen, Sir Benfro. Dyma ei stori fer fuddugol…
*Rhybudd - iaith anweddus ar brydiau ac o natur rywiol

Yfory
(Mab a Thad)

“Why did he kill himself, Daddy?”
“I don’t know, Nick. He couldn’t stand things, I guess.”

…Dylen i?…
Gorweddai Dafydd yn ei wely gyda’i law chwith wrth ei ochr a’i law dde rhwng ei goesau.
…Na… …Dim really… …Ond ‘se’n wastraff ‘sen i ddim…
Gwyddai na ddylai, o ystyried yr amgylchiadau, ond roedd yr awch yn ormod a’r ysfa’n gyffrous. Syllodd ar batrymau nadreddog y nenfwd. Pwysodd a mesurodd…
…Fuck it!…
…cyn gafael yn ei hun a chwblhau’r arfer boreol.
Roedd yn difaru gwneud bron ar unwaith. Estynnodd y rôl o bapur toiled a gadwai wrth ochr ei wely a sychu’i hun. Fel bob tro arall, teimlai’n wag, teimlai’n bathetig. Cywilyddiodd am ildio i’r cyffro ffug a’i adael i’w dwyllo unwaith yn rhagor.
…Teimlad digon tebyg i’r un ar ôl pennu ‘sgrifennu rhywbeth…
Piffiodd.
Cododd a throdd i eistedd ar ochr ei wely. Cododd yn rhy gyflym. Roedd y wal o’i flaen wedi troi’n llechen ddu â blotiau coch ac oren yn fflachio’n wyllt arni. Caeodd ei lygaid a rhwbio’i dalcen â’i fysedd. Agorodd ei lygaid eto i weld y niwl meddyliol yn cilio’n araf i gorneli’i olwg. Edrychodd i gyfeiriad y ffenest. Roedd y bore wedi paentio’r ystafell yn felyn gwelw, afiach, ac edrychai’r llenni fel pe baent ar fin ildio i wres yr haul a’i adael i ffrwydro drwyddynt a llosgi’r lle yn un fflam euraidd. Cydiodd yn ei ffôn ac edrych ar y sgrîn.

07:56
Saturday 25 May
Beca D
Snapchat
Dyfed
Ti adre’n iawn ‘to?
Dad
Missed Call (3)

Gollyngodd y ffôn wrth ei ochr. Rhedodd ei fysedd drwy ei wallt trwchus cyn codi ar ei draed a gwegian gerdded tua’r sinc yng nghornel yr ystafell.
Roedd y dyrneidiau o ddŵr yn falm i’w wyneb. Poerodd i’r sinc, cododd ei ben, a syllodd ar ei adlewyrchiad yn y drych. Ymdebygai ei farf i hadau bychain yn ceisio blaguro’n gnydau ffrwythlon. Roedd ei wefusau fel dau stribedyn gwaedlyd ar gynfas llaith, ac roedd ei lygaid wedi’u plannu’n ddwfn yn ei ben a berai i’w aeliau daflu cysgod bygythiol drostynt. Cwympai ddiferion ysbeidiol o ddŵr o’i drwyn a’i ên i’r sinc, a gwibiai ei lygaid o lygad i lygad i drwyn i geg i ên i wallt i lygad i lygad. Sychodd ei wyneb â thywel a throdd i agor y llenni.
Daeth gwres yr haul fel ergyd ysgafn i’w groen. Safodd yn y ffenest ac edrychodd allan dros y clos. Gwelodd ei dad yn sefyll ar dop y feidr – edrychai fel meistr yn hawlio’i eiddo. Sylwodd fod Dyfed yn sefyll ychydig gamau y tu ôl i’w dad. Syllodd ef arnyn nhw a syllon nhw arno ef. Gwyliodd ei dad yn troi ei ben yn ôl yn araf tuag at Dyfed. Trodd i ffwrdd o’r ffenest.
Roedd drws yr ystafell wedi cael ei wthio ar agor, ac yno’n gwylio Dafydd oedd un o’r cŵn – Jemeima. Pwysodd ei phen i’r ochr fel petai hi wedi’i chyfareddu ganddo. Roedd ei chwt ar i fyny ond yn llonydd. Gollyngodd Dafydd y tywel ar y llawr ac estyn ei ŵn gwisgo. Gwisgodd y gŵn amdano heb ei glymu a cherdded heibio’r ci heb ei chydnabod.

Roedd hi’n llonydd ar y clos – fel petai pob dim wedi ufuddhau i ddymuniadau sibrydol y bore. Sisialai’r awel rhwng canghennau’r coed, brefai ambell i ddafad mewn cae cyfagos, a gellid clywed llif y nant rhwng cerrig y cloddiau, ond deuai’r synau hynny i gyfannu tawelwch y tir.
Roedd Dylan yn hoff o lonydd, ac roedd llonyddwch y ffarm y bore hwnnw’n lonyddwch perffaith. Llonyddwch iasol. Llonyddwch byw. Safai ar dop y feidr yn wynebu’r tŷ fel brenin yn edmygu’i gastell a’i dir. Teimlai ei gorff yn mygu o dan ei ddillad godro. Cododd ei ben yn bwyllog i’r awyr cyn dychwelyd at y darlun o’i flaen. Roedd tanbeidrwydd yr haul wedi llwyddo i sgwrio’r clos yn lân, nes bod ei holl ddiffygion wedi’u caboli a’u hadfer yn fanylion annatod o’r olygfa – o’r tolciau yn y ddaear, i’r creigiau yn y walydd, i’r chwyn yn y cloddiau. Fel tapestri wedi’i bwytho ar frys. Roedd amherffeithrwydd y clos yn berffeithrwydd iddo ef. Teimlodd gorneli’i wefusau’n ceisio ffurfio gwên, ond llwyddodd i’w cadw’n wastad.
“Wela’i chi ‘fory, Mr Davies.”
Daeth y llais annisgwyl o’r tu ôl iddo.
“‘Na ti, Dyfed. Diolch i ti, boi.” Atebodd heb droi i gyfeiriad y llais.
Roedd ei sylw bellach wedi’i hoelio ar ffenest chwith ucha’r tŷ. Roedd llenni’r ffenest wedi’u cau.
…Ma’r bastard dal yn cysgu…
Agorwyd y llenni yn sydyn. Gwelodd ei fab yn sefyll yno â golwg newydd ddeffro arno. Er oedd e’n bell i ffwrdd, gallai weld i fyw ei lygaid tywyll. Syllodd arno. Ysgubodd awel gryfach dros y clos. Teimlai Dylan bresenoldeb y tu ôl iddo o hyd. Trodd ei ben i’r ochr, tua’i ysgwydd chwith, a chrwydrodd ei lygaid i’w corneli. Arhosodd. Yna clywodd Dyfed yn troi ar ei sawdl ac yn gwneud ei ffordd i lawr y feidr. Trodd ei ben yn ôl i gyfeiriad y ffenest. Roedd hi’n wag, a’r corff main wedi diflannu. Crychodd ei lygaid ac anadlodd aer y ffarm yn ddwfn i’w ysgyfaint.
“Dere ‘mla’n, Jâms.”
Rhedodd ei gi yn ei flaen – ei gyfarthiad yn treiddio i’r llonyddwch fel llafn.

Er oedd e’n fore cynnes, roedd llawr y gegin yn oer dan draed Dafydd, â chymysgedd o lwch a hen friwsion yn pigo’i sodlau wrth iddo wneud ei ffordd i’r sinc. Cydiodd mewn gwydryn o bentwr o lestri heb eu golchi a’i lenwi â dŵr o’r tap. Medrai deimlo’r hylif ar ei daith yn llithro’n araf i lawr ei wddf cyn glanio’n faethlon yn ei grombil.
Gwichiodd ddrws y cefn ar agor gan adael pelydr o heulwen i saethu ar draws ford y gegin – yr ystafell yn ymbil am ychydig o ddaioni’r bore. Gorchuddid y ford dan frodwaith o amlenni a phapurau, gyda phowlen o ffrwythau pydredig yn ganolbwynt pitw. Roedd yr awyrlun o’r ffarm wedi pylu gydag amser, nes bod lliwiau’r caeau yr un mor llwydaidd â’r wal y tu ôl i’r ffrâm, ond hongiai’n fawreddog uwch yr hen sedd gapel o hyd. Cymerodd Dafydd lymaid arall o ddŵr heb symud ei lygaid oddi ar y llun.
Aeth i’r cwpwrdd i hôl powlen. Roedd y cwpwrdd yn wag, felly dychwelodd at y llestri ger y sinc a dewis un o’r fan yna. Arllwysodd llaeth dros ei Corn Flakes cyn eu gorchuddio dan flanced drwchus o siwgir. Eisteddodd wrth y ford. Cwympodd gylchgrawn i’r llawr â chlec. Parhaodd Dafydd i fwyta’i frecwast.
Daeth sŵn cyfarth yn grescendo o’r clos.
…Co fe’n dod…
Gwibiodd Jâms dros y trothwy ac anelu’n syth am ei le arferol o flaen yr AGA. Cafodd ei ddilyn gan sŵn camau bras ac anadlu trwm.
Doedd Dylan ddim yn disgwyl gweld ei fab yno. Safodd yn ffrâm y drws am ychydig yn ymgyfarwyddo â’r olygfa o’i flaen. Crensiai a slyrpiai Dafydd ei frecwast tra’n darllen cefn y bocs Corn Flakes. Daeth Jemeima i’r gegin ac aeth i orwedd ar bwys Jâms gydag ebychiad anfoddog. Aeth Dylan i’r sinc i olchi ei ddwylo a gwneud dishgled o goffi. Chwyrlïodd ychydig o ddŵr mewn mẁg a llenwodd y tecil a’i osod ar ei blatfform. Pigwyd ffroenau Dafydd gan arogl ei dad. Er oedd e’n hen gyfarwydd â’r cymysgedd hwnnw o gachu, chwys a llaeth sur, roedd y drewdod yr un mor ffiaidd bob tro.
Hisiodd y tecil.
“Be’ o’t ti’n ‘neud mas mor hwyr neith’wr, de?” gofynnodd Dylan yn ddig. “Gorfodd Dyfed a fi ‘neud y cwbwl blydi lot bore ‘ma! Wedes i wrthot ti dwê byse angen help arna’i. Os wyt ti moy-”
“Ti’n mynd i’r fynwent heddi?”
Doedd Dylan ddim yn disgwyl y cwestiwn.
“Wdw. Bwriadu mynd nes ‘mla’n.”
“Da’i ‘da ti, de.”
Cododd Dafydd o’r ford a gosod ei bowlen wag yn ôl ar bwys y sinc. Cydiodd yn ei lased o ddŵr ac aeth allan o’r gegin ac i fyny’r grisiau. Safodd Dylan yn stond – ei lygaid yn chwilio drwy’r gwacter o’i flaen. Yna sylwodd fod y Farmers Weekly diweddaraf wedi cwympo i’r llawr. Gafaelodd yn ei gloriau sgleiniog a’i osod yn ôl ar y ford.

* * * * * *

“Do many men kill themselves, Daddy?”
“Not very many, Nick.”
“Do many women?”
“Hardly ever.”
“Don’t they ever?”
“Oh, yes. They do sometimes.”
Roedd e’n ddiwrnod annymunol o gynnes – yn llawer rhy heulog am achlysur mor dywyll. Suai’r gwenyn yn y gwres a gogleisiai’r awel y clytiau o borfa a oedd ychydig yn rhy hir. Ymestynai frigau’r coed o’r wybren a phlygent yn llipa uwchben y dorf druenus – fel pe bai nhw eu hunain yn cynnig eu cydymdeimladau. Roedd arogl y pridd yn llethol, ond yn gysurlon.
Ni wrandawai Dafydd ar yr un gair gâi ei ynganu gan y parchedig. Roedd ei lygaid wedi’u sodro ar ei harch drwy gydol y bregeth; yr arch a lenwai’r ddaear yn llawer rhy gysurus. Roedd y cyfan yn rhy berffaith rhywsut, yn rhy slic. Fel petai pob un ond ef wedi gweld y sgript o flaen llaw ac wedi ymarfer yr union olygfa sawl tro o’r blaen. Fel petai pawb wedi bod yn paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw ers tro. Fel petai ei marw’n ifanc yn anochel. Gorchuddiwyd yr arch yn ddidrugaredd gan y pridd.
Roedd Dafydd wedi llwyddo i beidio â llefen ers ei marwolaeth. Darllenodd ei gerdd yn ystod y gwasanaeth heb ollwng yr un deigryn, er nad oedd neb wedi’i deall yn iawn, mae’n siŵr.
…Falle na fydde Mam wedi’i deall hi ‘chwaith… …Ond oleia’ bydde hi ‘di’i gwerthfawrogi hi…
Ond nawr, yng ngostegrwydd y car, wedi cau’r drws yn glep ar ei bywyd, daeth y dagrau.
Gwyddai Dafydd mai’r un hen gwestiwn oedd gan bawb ar eu meddyliau a’u gwefusau – i be’ wnaeth hi farw? Roedd eu twptra yn ei frifo i’r byw. Onid oedd cwestiwn llawer mwy pwysig? Cwestiwn yr oedd e wedi bod yn gofyn iddo’i hun dro ar ôl tro. I be’ wnaeth hi fyw? Nid oedd ganddo ateb.
Gwyliodd Dylan ei fab yn llusgo’i hun i faes parcio’r fynwent. Gwthiodd ei ddwylo’n ddyfnach i bocedi’i drowser ac anelu am y car. Sylwodd fod Dafydd yn llefen. Stopiodd yn y fan a’r lle. Trodd yn ôl i gyfeiriad y fynwent.

* * * * * *

Gyrrai Dylan ar hyd y filltir droellog a gysylltai’r ffarm â phrif hewl y pentref. Roedd y blodau yr oedd ef wedi cadw mewn bwced tu fas y gegin wedi’u gosod yn ofalus ar sedd gefn y Land Rover. Aeth ymlaen o dan y coed a oedd mor gyfarwydd iddo erbyn hyn; mor gyfarwydd nes eu bod yn rhan o’i galon yn ogystal â’i gynefin. Adwaenai bob tolc a phob troad yn yr hewl, fel ei fod yn gwybod yn union lle i arafu cyn iddi gulhau ac yn union lle i gyflymu cyn iddi ymestyn yn syth ac yn glir o’i flaen. Pan yrrai ar hyd un o’r darnau syth a chlir hynny, gadawai ei lygaid i grwydro ac astudiai’r caeau o’i gwmpas i weld pa ffermydd oedd wedi dechrau ar eu silwair a pha rai oedd yn aros cwpl o wythnosau eto cyn eu toriad cyntaf.
“Bois Brynaeron heb ddechre ‘to…” meddai dan ei anadl.
“Be’?” gofynnodd Dafydd yn swrth.
“Dim byd.”
Eisteddai Dafydd wrth ochr ei dad gydag amlen wen yn ei law. Gwyliai’r cloddiau yn gwibio o flaen ei lygaid fel tâp ffilm yn cael ei droi’n rhy gyflym, a diawlai’r coed am rwystro’r haul rhag rhannu’i gyfrinach â’r tir. Roedd Dafydd yn casáu teithio yn y Land Rover. Rhwng defnydd dieithr y seddi a bigai gefn ei goesau a gyrru gwyllt ei dad a berai i’w berfedd godi i’w wddf, roedd y profiad bob tro yn un annifyr. Rhedodd ei fysedd ar hyd ochrau’r amlen a gwthio’i chorneli dan ewin ei fys bawd nes ei fod yn profi poen boddhaol.
Roedd maes parcio’r fynwent yn wag, ond parciodd Dylan mor agos ag y gallai at yr iet a agorai i’r fynwent. Herciodd yr handbrêc i fyny a diffoddodd yr injan. Syllodd y ddau ar yr iet.
“Cer di gynta’, de,” meddai Dylan yn swta, heb droi at Dafydd.
Trodd Dafydd at ei dad. Syllodd Dylan yn syth o’i flaen. Dadwnaeth Dafydd ei wregus a chamodd allan o’r car.
Roedd y porfa yn rhy hir o hyd, yn enwedig wrth waelod ei bedd, ond roedd ei charreg yr un mor gain a glân ag y buodd hi pan y’i gosodwyd. Mor ddu â’r nos, a’r llythrennau aur fel sêr ar ei hwyneb, yn annigonol i adrodd ei stori. Roedd rhai yn amlwg wedi ymweld â hi’n barod y bore hwnnw, gyda dau dusw wedi’u dodi o dan ei henw. Plygodd Dafydd dros ei bedd a gosod yr amlen o flaen y blodau. Doedd dim angen yngan gair. Roedd y geiriau wedi’u dewis yn ofalus a chynnwys yr amlen yn dweud y cyfan oedd angen ei ddweud. Gwyrodd ei ben yn ymddiheurol.

* * * * * *

Roedd y tŷ’n orlawn. Llywiai Dafydd ei ffordd o gwmpas yr holl gyrff – pypedau cymdeithas a oedd wedi hawlio’i gartref yn lwyfan am y dydd – er mwyn osgoi dechrau sgyrsiau nad oedd ef eu heisiau nac eu hangen.
“Ma’r nifer sy’ ‘ma heddi yn deyrnged iddi…”
…Teyrnged?!… …Esgus… …‘Na beth yw hwn… …Esgus i weld ‘i gilydd… …(neu osgoi gweld ‘i gilydd nes ‘mla’n yn yr w’thnos!)… …cyn ca’l ‘u hatgoffa bod bywyd Rhian yr un mor ddiflas â bywyd Siân… …a bywyd Ann… …a bywyd Catrin… …a gorfod wynebu’r ffaith bo’u bywyde nhw i gyd yr un mor crap â’i gilydd…
“Wêdd hi’n golygu cyment i bob un o ni…”
…Esgus i safio’u hunen rhag gorfod ‘neud rhywbeth mowr i swper… …(er bod y sandwiches tiwna a chiwcymbyr bach yn sych a’r crisps ‘mond yn rhai Ready Salted)… …Neu esgus i drafod ‘u gwylie… …a shwt ma’ marwolaeth Mam yn profi mai ‘mond un siot sy’ ar fywyd… …felly rhaid ‘neud y gore o bob cyfle… …a “joio byw”…
Ceisiodd Dafydd ddod o hyd i lecyn diogel i gysgodi rhag y siarad wast. Yna gwelodd Janet Pencnwc – y fenyw gyntaf i gyrraedd y capel y bore hwnnw a’r un a gasglai llyfrynnau ‘Trefn y Gwasanaeth’ fel papurau dyddiol. Dyma iâr o fenyw: ei thrwyn fel pig, ei cherddediad yn herciog, a’i gwddf yn ymestyn wrth i’w phen droi’n sydyn o’r dde i’r chwith ac o’r chwith i’r dde. Cadwai ei llygaid led y pen ar agor wrth iddi chwilio am ei thargedau nesaf, ac wedi’u dal gyda’i chlwcian byddarol, dodwyai wŷ o suon a chelwyddau o’u blaenau a’i wylio’n deor yn gymen, cyn symud at yr anffodusion nesaf i’w holi’n dwll am ryw si glywodd hi tra’n gwneud ei rhifau Lottery yn Londis yr wythnos ddiwethaf.
“Wel, ma’ nhw’n dweud mai…”
…Un o gwestiyne mawr ein hoes… …‘Pwy ffyc yw’r “nhw” elusive ‘ma?’… …Gwastraff aer… …Gwastraff croen…
Roedd llawer o’r rheiny a oedd yn bresennol yn athrawon; athrawon a oedd yn casáu Dafydd, ond nawr yn teimlo’n euog am hynny wedi colli’u ffrind.
“Atgoffa fi – i ba brifysgol wyt ti am fynd, Daf?”
…Dau beth… …Paid byth â ‘ngalw i’n “Daf”… …Dafydd fues i i ti erio’d… …(os nad “Dafydd Davies”!)… …A fel wyt ti’n gw’bod yn iawn… …Sa’i ‘di pennu arholiade Lefel A fi ‘to… …Ma’ adolygu a’r gallu i ganolbwyntio yn gallu bod yn eitha’ ffycin anodd pan ma’ dy fam yn marw hanner ffordd drw’r holl beth…
“O, sai’n siŵr ‘to. Bydd rhaid fi bennu arholiade Lefel A fi gynta’, cofiwch.”
“O, wrth gwrs! Wel, ma’ Rhun wrth ‘i fodd yn Aberystwyth, cofia. ‘Se fe ‘di bod ‘ma heddi oni bai am…”
…Aberystwyth?… …Odi’r maenad ‘ma wir yn treial gwerthu Aber-ffycin-ystwyth i fi?… …Jesus wept…
“Greda’i ‘i fod e, Mrs Howells. Mae e i weld fel bod e’n joio mas draw o be’ fi’n gweld ar Facebook.”
“O, ma’ Ffêsbwc yn ddanjerys!”
“Odi, yn gallu bod!”
Gwenodd yn boenus cyn gadael y sgwrs.
“Un annwyl yw e yn y bôn…”
Teimlodd Dafydd eu sibrydion yn ei drywanu drwy’i gefn.

Eisteddai Dafydd ar yr hen sedd gapel yn y gegin. Medrai glywed y ffug-alarwyr olaf yn ffarwelio â’i dad ger y drws ffrynt. Pwysodd ei ben yn ôl yn erbyn y wal a chau ei lygaid. Roedd murmur y sgyrsiau yn dal i atseinio yn ei ben. Agorodd ei lygaid. Safai Dyfed o’i flaen. Sythodd ei gefn a syllu arno. Nid oeddent wedi siarad â’i gilydd drwy’r dydd. Syllodd Dyfed yn ôl ar Dafydd. Daeth Dylan i sefyll yn ffrâm y drws. Cliriodd ei wddf.
“Well i ti fynd, Dyfed. Ma’ llwyth ‘da ni i ‘neud ‘fory. Ishe ti ‘ma’n gynnar, boi.”
“Iawn, Mr Davies. Wela’i chi ‘fory.” Ymadawodd drwy ddrws y cefn.
Camodd Dylan i’r gegin a sefyll wrth y ford. Astudiodd yr hyn oedd yn weddill o’r bwyd gyda’i ddwylo ar ei gluniau.
“Wel, ‘na hwnna mas o’r ffordd.”
Piffiodd Dafydd dan ei anadl.
Trodd Dylan at un o’r cypyrddau ac estyn potel o Bell’s.
“Credu bo’ fi’n haeddu un neu ddou o rein ar ôl heddi.”
Arllwysodd hanner gwydraid iddo’i hun a thaflu’r cynnwys i mewn i’w geg. Caeodd ei lygaid a siglo’i ben cyn dal ei wynt ac eistedd wrth y ford.
Syllai Dafydd ar y dyn o’i flaen; y dyn yr oedd ei waed yn rhedeg drwy ei wythiennau ef ei hun. Dilynodd bob symudiad ac osgo.
Tynnodd Dylan ei gadair yn nes at y ford. Pwysodd yn ôl ynddi cyn gosod ei ddwylo ar ei ben ac edrych i’r nenfwd.
…Na’th hi dy briodi di… …Y lle ‘ma… …‘Na’r gore wêdd hi’n haeddu?…
Trodd Dylan at ei fab. Edrychai’n uffernol o flinedig. Cydiodd yn y botel wisgi a’i dal i fyny.
“Ti moyn peth?”
Cododd Dafydd ar ei draed. Cerddodd heibio’i dad ac allan o’r gegin.
Gosododd Dylan y botel yn ôl ar y ford. Trodd i edrych ar yr awyrlun o’r ffarm a hongiai ar y wal i gusuro’i enaid. Pan astudiai’r llun yn fanwl, rhyfeddai bob tro at y ffordd fedrai ysblander mawr y ffarm gael ei ddal o ongl mor anghyfarwydd. Meddyliodd yn ôl i’r diwrnod y gosododd ei dad y llun yn ei le. Sythodd ei gefn yn ei gadair yn sydyn. Golchodd ryw chwithdod drosto fel ton. Am y tro cyntaf ers y gallai gofio, roedd arno ofn; ofn ei fod e byth, wir, yn mynd i fedru deall.

* * * * * *

Agorodd Dafydd ddrws y cefn a chamu dros y trothwy ac i mewn i’r gegin. Daeth Dylan ar ei ôl gan osod ei got ar fachyn tu cefn y drws a chodi’r bwced wag o’r llawr. Gwyliodd ei fab yn anelu am ddrws y gegin. Teimlai y dylai ddweud rhywbeth. Gwyddai y dylai ddweud rhywbeth. Agorodd ei geg. Daeth sŵn tila o waelod ei wddf. Trodd Dafydd yn ôl at ei dad. Tyrchodd Dylan ym mhellafion ei feddwl a chwiliodd ar hyd silffoedd ei gof am y geiriau. Am air. Syllai Dafydd ar ei dad ac arhosai am atodiad i’r crawc gychwynol. Ond crawc yn unig yr oedd hi i fod. Gwelodd y gwacter yn ei lygaid. Roedd mudandod ei dad wedi selio’r fargen a chadarnhau’r cwbl iddo. Nodiodd ei ben yn gydymdeimladol cyn troi i adael y gegin. Trodd Dylan i adael y tŷ.
Camodd Dafydd heibio’r tywel a oedd yn dal i fod ar y llawr. Nid oedd wedi trafferthu i wneud ei wely. Agorodd ddrâr a chydiodd mewn hen focs pren a’i osod ar ei ddesg. Aeth i’r ffenest ac edrych allan dros y clos. Roedd y machlud ar ddod – gorweddai’r llinyn orenbinc y tu ôl i’r caeau yn y pellter, ond roedd yr wybren yn dal i gydio’n dynn yn yr haul ac yn gwrthod ei ollwng cyn pryd. Tynnwyd llygaid Dafydd at ei dad yn crwydro ar draws y clos. Trodd Dylan yn ôl i wynebu’r tŷ. Cododd ei ben tua ffenest ei fab. Syllodd y tad a’r mab i fyw llygaid ei gilydd. Y foment honno, yn y pellter rhyngddynt, penderfynodd y naill y byddai bywyd y llall yn haws hebddo.
“Is dying hard, Daddy?”
“No, I think it’s pretty easy, Nick. It all depends.”

Cymuned | Llwyfan llenyddol: CFfI Cymru
bottom of page