top of page

Cymuned | Hen Bryd am Addysg: It’s a Sin

Cymuned | Hen Bryd am Addysg: It’s a Sin

Adolygiad gan Lleucu Non

Yn y flwyddyn newydd, cafodd rhaglen It’s a Sin ei ryddhau ar Channel 4. Roedd cannoedd ar gannoedd o bobl wedi bod yn siarad am y rhaglen mewn sgyrsiau, ar y cyfryngau ac roedd rhaid i mi ei wylio! Penderfynais ei ail-wylio yn ystod mis Pride ac ysgrifennu adolygiad i rai sydd heb ei weld eto.

*RHYBUDD CYNNWYS*

Hoffwn ddweud o flaen llaw ei bod hi’n rhaglen aeddfed iawn; mae dipyn go lew o ryw, ymddygiad anfoesol tuag at gymdeithas LHDT+ a rhegi cyson. Felly byddwch yn ymwybodol o hyn os ydych chi’n ifanc ac yn penderfynu ei gwylio hi neu gofynnwch i riant am ganiatâd.

CEFNDIR
1980au. Llundain. Rydyn ni’n dilyn stori pum ffrind sy’n byw â’i gilydd mewn cyfnod brawychus ac annisgwyl pan ddaeth AIDS (Acquired Immunodeficiency Syndrome) i fodolaeth. Yn dilyn traddodiad anwybodaeth a chymdeithas styfnig, mae’r pump: Ritchie, Roscoe, Colin, Ash a Jill yn byw eu bywydau fel yr arfer tan mae’n dod i’r amlwg bod AIDS yn rhywbeth i’w ofni. Trwy gyfnod o bum pennod a degawd o stori, rydyn ni’n gweld sut mae’r pump yn cael eu heffeithio gan yr epidemig a’r hyn maen nhw’n ei wneud i ofalu ei gilydd mewn amser lle roedd cannoedd o bobl yn marw a fawr o neb yn gallu cynnig atebion.

Yn yr amser yma, roedd diffyg gwybodaeth am sawl blwyddyn, ac i gychwyn, roedd llawer o bobl, yn cynnwys Ritchie, yn credu mai celwyddau oedd y ‘feirws oedd ond yn targedu dynion hoyw’;

“Do you know what it really is? AIDS? It’s a racket. It’s a money-making scheme for drugs companies. Do you seriously think there’s an illness that only kills gay men?” - Ritchie, Pennod 2 It’s a Sin.

Roedd yr achosion cyntaf o AIDS wedi codi yn Los Angeles ym mis Mehefin 1981 pan gyhoeddwyd adroddiad meddygol yn adrodd achos 5 dyn a ddisgynnodd yn sâl efo Pneumocystis carinï pneumonia, haint ysgyfaint prin. Erbyn 3 Gorffennaf, roedd y term ‘cancr hoyw’ yng ngeirfa’r cyhoedd. Bu farw’r person cyntaf o AIDS yn y DU ar 12 Rhagfyr 1981.

Os doedd y bygythiad o ddal y feirws annifyr yma ddim yn ddigon, doedd y blaid Geidwadol a nifer fawr o’r boblogaeth ddim yn hoff iawn o’r gymdeithas LHDT+ ac yn gwrthod eu cefnogi neu eu hamddiffyn. Er enghraifft, roedd Adran 28 yn gyfraith a gafodd ei basio yn 1988 i rwystro cynghorau ac addysg rhag ‘hyrwyddo’ hoywder/cyfunrywiaeth ym mhobl. Diddymwyd Adran 28 yn 2003.

"Children who need to be taught to respect traditional moral values are being taught that they have an inalienable right to be gay. All of those children are being cheated of a sound start in life." - Margaret Thatcher, 1987

Y Cast Aruthrol

Olly Alexander - Ritchie Tozer
Omari Douglas - Roscoe Babatunde
Lydia West - Jill Baxter
Callum Scott Howells - Colin Morris-Jones
Nathaniel Curtis - Ash Mukherjee

Egyr y gyfres gyda’r bennod gyntaf yn cyflwyno’r cymeriadau i gyd ac yn dangos sut maen nhw’n dod at ei gilydd i ffurfio criw o ffrindiau agos. Gadael eu bywydau ceidwadol i fyw bywydau rhydd myfyrwyr mae tri o’r prif gymeriadau. Mae Ritchie yn gadael Ynys Wyth i astudio’r gyfraith cyn newid cwrs i Drama. Roscoe’n rhedeg i ffwrdd o’i deulu Nigeraidd sy’n andros o grefyddol fel maen nhw’n paratoi i’w yrru yn nôl i’r famwlad, lle y byddai’n cael ei arteithio am ei rywioldeb. Yna, mae Colin, sy’n Gymro, yn dod i adnabod ei fentor (sy’n cael ei chwarae gan Neil Patrick Harris), sy’n agored am ei rywioldeb yn y siop teiliwr lle mae’n gweithio.

Fel unrhyw griw o gymeriadau, mae elfen gan bob un sy’n cyfrannu i’r grŵp; mae gan Ritchie freuddwydion mawr, mae Colin yn ddiniwed iawn, mae Roscoe yn sassy, Jill yn barod i frwydro a gwarched ei ffrindiau ac Ash yn gariadus. Mae’r berthynas rhwng y cymeriadau a’r actorion yn gwbl organig, credadwy a theimladwy, ei fod yn braf i wylio.

“That’s what shame does. It makes him think he deserves it. The wards are full of men who think they deserve it. They are dying, and a little bit of them think, ‘yes, this is right. I brought this on myself, it’s my fault, because the sex I love is killing me.’ I mean it’s astonishing, the perfect virus came along to prove you right. So that’s what happened in your house. He died because of you. They all die because of you.” - Jill Baxter, Pennod 5, It’s a Sin

Mae unrhyw griw o actorion sy’n gallu gwneud i rywun wenu, chwerthin, crio, teimlo’n anghyfforddus ac ofnus o fewn ychydig funudau, os nad eiliadau, yn haeddu clod. Wrth gwrs, mae rhaid nodi bod perfformiadau Keeley Hawes, Shaun Dooley, Stephen Fry a Neil Patrick Harris wedi bod yn gyfraniadau allweddol i’r gyfres i gyd-fynd â’r brif stori.

Russell T. Davies a'r stori

Mae Russell T. Davies wedi bod yn sgriptiwr poblogaidd ers yr 1980au, yn enwedig fel y sgriptiwr a ailgychwynnodd Doctor Who yn 2005, ysgrifennodd a chynhyrchodd A Very English Scandal (2018) a Dark Season (1991). Wrth edrych ar y math o waith mae Russell T. Davies wedi bod yn ysgrifennu dros y degawdau diwethaf, mae’r pwnc o LHDT+ wedi codi’n gyson; a gweithredoedd teg hefyd! Er enghraifft, mae Queer as Folk (1999) yn stori am fywydau tri dyn hoyw ym Manceinion. Yn Bob and Rose (2001), stori Bob, sy’n hoyw ac yn disgyn mewn cariad â dynes o’r enw Rose sy’n cael ei hadrodd.

Cyfres bron cwbl hunangofiannol o fywyd y sgriptiwr fel dyn ifanc yn Llundain ydi It’s a Sin. Mae hynny’n glir o gyfweliadau mae wedi cymryd i hyrwyddo’r sioe ac mae teimlad personol iawn i’r gyfres. Er enghraifft, mae’r partïon a bywyd yn Pink Palace, cartref y pump, wedi’i selio ar fywyd myfyriwr y sgriptiwr o Abertawe. Cadarnhaodd Russell T. Davies nad ydi’r golygfeydd o’r partïon a’r bywyd cymdeithasol wedi’u gorliwio ar gyfer y sgrin ac mae hynny’n profi pa mor agored ydi Davies yn y gyfres. Mae’n addysgiadol ac yn deimladwy ar yr un pryd.

Nod clir sydd gan Russell T. Davies ar gyfer y gyfres; nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o AIDS, ond i godi ymwybyddiaeth o’r driniaeth roedd pobl cymuned LHDT+ yn ei dderbyn, ac yn parhau i dderbyn. Coda bwyntiau’n gyson am y bobl yma eisiau bod yn rhydd, ac maen nhw’n haeddu hynny. Am hyn, mae’r sgriptiwr yn haeddu clod am ysgrifennu cyfres amserol!

"And of course, it's not just about who you're boozing with. It's not just about who you're sleeping with. It's about being free. It's about being open and gay, or whatever sexuality you were in that flat. Finding yourself and being absolutely open and loud about it.” - Russell T. Davies

Ymateb cenedlaethol

Erbyn mis Mawrth, roedd 18.9 miliwn o bobl wedi gwylio’r gyfres, yn fyw ar y teledu ac ar All 4. Mae’r gyfres wedi ennill clod mawr gan llawer iawn o bobl! O selebs i aelodau o gymdeithas LHDT+, mae’r gyfres wedi cyffwrdd calonnau ar draws DU. Cynhyrchodd Philip Normal grys-T o’r slogan “La!”, sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson ar y gyfres. Helpodd y crys-T godi £100,000 Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Mae’r gyfres wedi ennill tair gwobr yn barod ac rydw i’n siŵr bod mwy ar y ffordd!

Cynhyrchodd Years & Years cover o gân Pet Shop Boys, It’s a Sin. Mae’n bosib i chi weld perfformiad o’r gân gan Olly Alexander ac Elton John yn y BRITs yn y ddolen isod:

https://www.youtube.com/watch?v=Hk4eMIswunQ

"Hats off to @russelltdavies63 on creating this moving testament to a pivotal and important moment in LGBTQ history. The cast are sublime. Congratulations all round. A TRIUMPH of creativity and humanity." - Elton John

"It’s A Sin is an incredibly moving account of the arrival of AIDS in the U.K. in the 1980’s. Watching it, so many sad and devastating memories came flooding back. Many people were callous, ignorant and cruel. Thank God we have come so far since then." - Elton John

'The best five hours of television I’ve seen in years. Your heart will be broken, warmed and lifted. Cast amazing. Soundtrack epic but most of all it’s about the genius and compassion of @russelldavies63.' - Graham Norton

Felly, mae It’s a Sin werth ei wylio ac yn bum awr o chwerthin, gwenu, crio, addysg a chydymdeimlad.

La!

Cymuned | Hen Bryd am Addysg: It’s a Sin
bottom of page