top of page

Cymuned | Gofalwyr Ifanc: Dyma Fi

Cymuned | Gofalwyr Ifanc: Dyma Fi

Maen nhw’n dweud nad ydych chi’n gwybod hanes neb wrth edrych arnyn nhw’n unig, ac mae hynny yn arbennig o wir pan mae’n dod at ofalwyr ifanc. Er mwyn rhoi blas ar y math o waith mae gofalwyr ifanc yn eu gwneud, cafodd ffilm fer bwerus Dyma Fi gan Gwmni Theatr Arad Goch ei chreu.

Beth yw gofalwr ifanc?

Yn y ffilm fer Dyma Fi, nodir fod oddeutu 800,000 o ofalwyr ifanc rhwng 5 a 17 oed yn y Deyrnas Unedig sy’n edrych ar ôl oedolyn neu aelod o’u teulu. Mae dyletswyddau gofalwr ifanc yn amrywio, o siopa bwyd i roi meddyginiaeth.

Tydi ystyr y rôl o ofalwr ifanc ddim yr un peth i bawb. Mae rhai gofalwyr ifanc yn gwarchod brodyr a chwiorydd bach, tra bod gofalwyr ifanc eraill yn edrych ar ôl teulu sydd ag anableddau cymhleth. Fydd rhai yn paratoi prydau o fwyd i’w neiniau neu deidiau tra bod eraill yn rhoi cymorth i riant sy’n camddefnyddio sylweddau. Yn ôl Carwyn Blayney, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yng Nghwmni Theatr Arad Goch, dyma oedden nhw a llond llaw o ofalwyr ifanc Ceredigion eisiau dangos i ni gyd:

“Roedd y gofalwyr ifanc ynghlwm â ffilm Dyma Fi yn awyddus i ddangos nifer o agweddau o fywyd gofalwyr ifanc, ond un o brif nodau’r ffilm oedd dangos fod pob sefyllfa yn wahanol - dyw profiad un gofalwr ifanc ddim yr union yr un peth â’r person nesaf.”

Dyma Fi
Mae’r ffilm yn cychwyn gyda pherson yn rhedeg ar frys i gyrraedd yr ysgol ar amser ar ôl treulio’r bore yn edrych ar ôl eraill yn ei gartref. Mae hyn yn cyfleu’n berffaith y ffaith fod gan ofalwyr ifanc lot fawr o waith, felly mae’n amlwg fod dod o hyd i’r amser i helpu creu’r ffilm fer Dyma Fi wedi bod yn heriol. “Trwy gyfarfodydd ar lein a diwrnod llawn dop o ffilmio, fe lwyddodd yr ofalwyr ifanc i ddod o hyd i amser yn eu bywydau prysur tu hwnt i weithio ar y ffilm hon. Diolch yn fawr iddyn nhw am yr holl waith arbennig!”

Nodir yn y ffilm fod y profiad o fod yn ofalwr ifanc yn siapio’r unigolion ac yn gyfle i fagu sgiliau gwahanol. “Mae gofalu dros eraill yn amazing!” dywed un cymeriad.

Mae gofalwyr ifanc wir yn bobl arbennig. Maen nhw’n gofalu am eraill heb ddisgwyl dim byd yn ôl. Tydi nifer o’r bobl ifanc yma ddim hyd yn oed yn sylwi eu bod yn ofalwyr ifanc!

“Mae yna nifer o bobl sydd ddim hyd yn oed yn sylwi eu bod nhw’n ofalwyr ifanc,” meddai Carwyn. Dyma wnaeth ysgogi Carwyn i greu ffilm oedd yn rhoi sylw i’r ystyr eang o brofiadau gofalwyr ifanc. “Roeddwn i’n awyddus i ddangos nifer o straeon byrion, er mwyn pwysleisio pa mor eang yw’r pwnc.”

Cymorth
Mae nifer o ofalwyr ifanc yn gwneud y job heb siw na miw, heb yn wybod i neb. Mewn nifer o achosion mae hynny’n iawn, gan fod y profiad yn gallu bod yn un hapus. Fodd bynnag, mae bod yn ofalwr ifanc yn gallu fod yn heriol. Gall cyfrifoldebau gofalu cael dylanwad negatif, drwy arwain at fethu allan ar addysg neu fethu allan ar dreulio amser efo ffrindiau. Mae’n gallu bod yn brofiad unig, felly mae’n bwysig gwybod lle i fynd am gymorth os bydd angen.

Yng Nghymru, mae nifer o elusennau sy’n barod i helpu. Gallwch gysylltu efo’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen sy’n gweithio’n galed i gefnogi gofalwyr a hefyd addysgu’r cyhoedd am brofiadau gofalwyr.

Mewn rhai mannau yng Nghymru, mae Barnardos yn gweithredu i gefnogi gofalwyr ifanc. Maen nhw’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gael saib o’u cyfrifoldebau a chyfle i ofalwyr ifanc allu rhannu profiadau. Yn Dyma Fi, dywed un cymeriad: “Mae pawb angen brêc. Mae pawb angen amser i ymlacio.”

Mae’n bwysig iawn edrych ar ôl eich hun hefyd, yn arbennig eich iechyd meddwl. Mae elusen Young Minds yn barod i helpu gyda hyn ac maen nhw’n nodi ei bod hi’n bwysig i dderbyn cefnogaeth a chymorth gan eraill sy’n deall eich sefyllfa, hyd yn oed os nad oes gennych broblem gyda’ch cyfrifoldebau gofalu. Mae haneru’r baich yn gwneud byd o les.

Cymuned | Gofalwyr Ifanc: Dyma Fi
bottom of page