top of page

Cymuned | Ewfforia'r Eisteddfod!

Cymuned | Ewfforia'r Eisteddfod!

Dyma flog buddugol Eisteddfod Llandyfaelog – ysgrifennwyd y darn ym mis Tachwedd 2019, yn dilyn buddugoliaeth Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian yn Eisteddfod Ceredigion. Rebecca Rees, disgybl ym mlwyddyn 10, Ysgol Bro Teifi sy’n rhannu hynt a helynt y diwrnod…
Wel, am ddiwrnod i’r brenin! O’r diwedd! Yn sicr, tyfodd ysblennydd allan o’r ymarferion; ymhelaethodd godidogrwydd allan o wreiddiau ein llwyddiant ar y llwyfan. Ffynnodd ffawd ein clwb allan ar ganghennau a llewyrchodd o ganlyniad ein buddugoliaeth fythgofiadwy yn Eisteddfod CFfI Ceredigion 2019. Os ydych bellach eisiau i mi roi’r gorau ar fy nhrosiad lliwgar, ac wedi cael digon o fy nisgrifiad lluniaidd, yn llythrennol... NI ENILLODD! (On’d ydy’r byd yn edrych mor ddaionus pan chi yw’r rhai campus?)
I mi, cychwynnodd y cystadlu gyda Chlwb Caerwedros yn cwestiynu fy newisiadau dillad: sanau pinc, jîns ac esgidiau ysgol heb lasys i’w cynnal. Mae angen cyfaddef, nid yr ystod fwyaf addas o eitemau wrth geisio datblygu delwedd y clwb, ond roedd fy nghrys triw Pontsian yn ymddangos gyda balchder ar fy nghorff blinedig (rhyw awr ynghynt roeddwn wedi agor fy llygaid, i fod yn deg). Ymarferion ar frys dilynodd y cipolwg cyflym ar lyfrau lloffion gelynion Pontsian (yn sylfaenol, Llanwenog), ac yna brasgamu i’r llwyfan gyda pice ar y man yn fy mhoced (cefais ddim cyfle i’w fwyta!) gyda fy mol yn wag a fy mhen heb glem am eiriau’r darn cyd-adrodd. Ond trwy lwc a bendith, daethom yn y drydydd safle gyda - wrth gwrs - Llanwenog.
Felly, tra roedd y coroni a chadeirio yn carlamu yn eu blaenau (mor gyflym a fedrir coroni a chadeirio garlamu) taranais i gegin Cegin Gwennog am sglodion a selsig fach slei. Ond cyn i mi fedru cael llwnc o fy nghoffi du - hwn yw eich awgrym i ddechrau canu’r alaw ... draw daeth arweinydd y parti deusain i fy ngorymdeithio i gefn llwyfan er mwyn cael ymarfer cyn y gystadleuaeth (serch roedd pum eitem i fynd tan hynny. Pump!). Wel, gadewch i mi ddweud, doeddwn ddim dros fy mhen a’n clustiau gyda’r adroddiad yna.
Ymlwybrais yn fy mlaen i gefn llwyfan, a chefais fy nghroesawu gyda chnewyllyn o wynebau swrth, yn dal i larpio sglodion ar hast o amgylch y piano. Felly, yn fwy chwerw na fy nghoffi, llyncais yr hylif berwedig mewn un i sefyll yng nghanol y parti deusain. Yn dilyn casgliad o nodau safonol o’r cyfeilydd a nodau simsan cyson y parti (iawn , fi yn bennaf), roedd yn amser i gamu gyda choesau jeli (poeni dim am y canu oeddwn i, ond roedd fy mol yn dechrau cystadlu gyda ni o blegid prinder bwyd), ymlaen i’r llwyfan a ni, gyda’r golau yn fy nallu a’r sŵn yn fy myddaru. Ar ôl gorffen ar ymdrech o A (yn ogystal â’r nodyn) taranu yn ôl i gefn y llwyfan oedd y drefn i ymarfer y gystadleuaeth olaf: y côr.

French Fries
Heb os nac oni bai, chwyddodd balchder fel balŵn yn fy nghalon wrth i hanner cant o aelodau a chyn-aelodau Clwb Pontsian mynegi pob mymryn i’r achos. Pontsian oedd yn drydydd ymlaen (ond gweddïo oeddynt mai dim y drydydd safle byddent yn cael ein gwobrwyo). Roedd yr aer yn ddwys gydag emosiynau wedi eu huwcholeuo a phawb ar binnau wrth i bawb croesi eu bysedd am y wobr gyntaf am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Ac yna, daeth y foment fawr. Yr eiliad roedd pawb wedi gweithio amdani (wel, ond am un neu ddau o denoriaid); y terfyn o bedair wythnos o ymarferion lawr i bedair munud. Nosweithiau llawn canu (yn amlwg), gweiddi (disgwyliedig), chwerthin (syndod) a (tamaid dros ben llestri) dagrau. Y diwedd i ewfforia yr Eisteddfod am flwyddyn arall.
Anghywir, pobol bach y byd! Cipion ni’r cyntaf! HWRÊ! Roedd pawb ar ben eu digon. Nesaf, roedd y canlyniadau terfynol. Roedd Pontsian dal mewn syndod ein bod wedi bachu’r fuddugoliaeth o dan drwyn Felinfach (ymddiheuriadau), ond gyda phob tarian enillom, y tystysgrifau derbyniom a gwobr cipiom, roedd lefelau ein llawenydd yn cynyddu, yn ogystal â chyfradd calon y gadeiryddes wrth iddi wibio lan a lawr y llwyfan. Ond y goron ar y noson (roedd yn debycach i fore dydd Sul erbyn hynny) oedd y darian, y safle, y wobr o ddod yn GYNTAF DROS YR EISTEDDFOD GYFAN!!!
Felly, dyna chi. Digwyddodd tipyn mewn amser cryno. Clwb Pontsian cafodd y clean sweep (sef y darian llwyfan, ysgafn a gwaith cartref). Bellach, rydym yn ymarfer ar gyfer ein taith i gopa Cymru - Wrecsam - gydag amryw o eitemau. Rydym dal i ddathlu, ond efallai dim mor lliwgar â bore dydd Sul (peidiwch á gofyn, ond cewch a fflach lamp os chi’n bwriadu mynd tu allan am bedwar y gloch y bore yng nghanol tymor yr Hydref), ond mae hynny’n stori arall. Felly hwyl am y tro, cyfeillion! (O, a chlywoch? Pontsian enillodd yr Eisteddfod!)

Rebecca x

Cymuned | Ewfforia'r Eisteddfod!
bottom of page