top of page

Cymuned | Dal Ati i Wenu

Cymuned | Dal Ati i Wenu

Gyda Hanna Evans

Wel dyma gyfnod rhyfedd, a dweud y lleiaf! Dim ysgol, dim trefn, dim partis, dim gweld ffrindiau. Does 'na ddim byd wedi bod yn hawdd - heb sôn am orfod delio gydag dysgu o adref. Ond mae pawb yn yr un cwch - a dyna sydd yn rhoi cysur i mi bellach. Dwi am rannu gyda chi ychydig o fy mhrofiadau i mewn gobaith o helpu rhywun mewn unrhyw ffordd posib - boed cymryd ychydig ‘tips’, sylweddoli nad ydych chi ar eich ben eich hun neu hyd yn oed rhoi gwên ar yr wyneb pert yna.

Dysgu ar-lein
Sawl un ohonoch chi sydd yn teimlo bo’ chi nawr yn byw a bod o flaen y sgrin? Dwi’n sicr yn teimlo fy mod i, ond dyna sut mae’r gymdeithas wedi datblygu. Dydw i ddim yn dweud am un funud nad ydy’n beth bositif, ond rhaid i ni gymryd mantais o hyn a’i ddefnyddio mewn ffordd gall; oherwydd sawl un ohonoch chi sydd yn cwyno eich bod yn gorfod eistedd o flaen sgrin yr ysgol am hydoedd, ac yna’n mynd i sgrolio trwy TikTok yn eich amser rhydd?
Fe wna i gyfaddef, rydw i yn sicr yn gwneud hyn... ond y peth pwysicaf i gofio yw peidio â theimlo’n euog. Yn lle, dysgwch o’r sefyllfa! Y tro nesaf rydych chi’n sylwi eich bod yn sgrolio’n ddibwrpas ar eich ffôn, ewch i ddarllen llyfr, mynd am dro tu allan, siaradwch gyda ffrind neu aelod o deulu neu hyd yn oed gwneud ychydig o ymarfer corff, yoga neu rywbeth o’r fath. Mae hyn yn rhoi amser i chi, ganolbwyntio arnoch CHI!

Siarad, siarad, siarad
Mae dysgu ar-lein yn gadael nifer yn teimlo o dan y don neu yn methu ymdopi gyda’r llwyth gwaith. Y peth cyntaf i sylweddoli yw bod pob un yn yr un sefyllfa! Os ydych chi’n teimlo fel bod angen i chi rhannu’r pryderon yma, yn sicr gwnewch hynny. Ni fydd neb byth yn dweud wrthoch chi eich bod yn ddwl, ni fydd neb byth yn edrych arnoch chi’n wahanol am ddweud. Yn y pendraw, mae’n cymryd bwcedi a whilberi o gryfder i rannu a dechrau yw’r peth anoddaf - ond mae gennych chi i gyd y gallu i wneud newid i’ch bywyd chi ac eraill. Siaradwch gyda’ch ffrindiau, dewch o hyd i fideos neu luniau doniol i rannu yn y group chat gan fod pawb yn hoffi bach o sbort (dyma’n sicr beth dwi wedi bod yn neud i fy ffrindiau i - a dwi’n hoffi meddwl ei bod nhw’n ei fwynhau hefyd). Dewch o hyd i rywbeth sydd yn eich siwtio chi.
Un peth yn sicr sydd wedi fy helpu i yw cadw strwythur da i fy niwrnod. Yn amlwg doedd e ddim yn bosib cadw'r un fath o drefn ag yr oeddwn i yn yr ysgol. Felly roedd dod o hyd i drefn oedd yn siwtio fi i’r dim wedi gwneud y cyfnodau clo llawer rhwyddach. Mae hyna’n cynnwys deffro o gwmpas yr un amser yn ddyddiol, mynd i gysgu'r un amser, gwneud ymarfer corff, cerdded y ci a mynd allan i’r fferm o gwmpas yr un amser pob dydd. Dwi’n berson sydd yn hoffi strwythur pendant i fy niwrnod felly roedd gwneud hyn wedi helpu’r cyfnod clo pasio ychydig yn gynt, a pheidio teimlo fel jymbl mawr o ddydd a nos!
Rhywbeth arall sydd hefyd wedi helpu fi yn yr agwedd o gadw trefn yw cadw dyddiadur o’r fath. Dydw i ddim yn un am ysgrifennu fy nghyfrinachau i gyd lawr mewn llyfr o gwbwl. Felly llyfr ydyw i greu rhestr o bethau sydd angen i mi gyflawni yn y diwrnod, pethau pwysig i gofio a to-do lists bach. Mae hyn yn help mi gadw fy meddyliau ychydig yn dawelach gan nad oes angen iddyn nhw gofio am yr holl dasgau sydd angen gwneud. Ond ar ddechrau 2021 roeddem ni i gyd mewn cyfnod clo felly doedd dim ffordd o ddod i afael mewn dyddiadur bach felly gymres i’r dasg ymlaen o greu un fy hun! Y dyddiadur mwya’ blêr ac unigryw welsoch chi erioed ond mae e dal i fod yn ciwt!

Ffyrdd i’ch helpu trwy’r diwrnodau diddiwedd
Y ffordd orau o gynhorthwyo chi trwy’r diwrnodau anodd a bach mwy hawdd yn ystod y pandemig yma yw magu hobïau ac arferion rydych chi’n mwynhau. Does wir ddim byd negyddol am ddatblygu arferion newydd, ceisio prosiectau neu sgiliau newydd - ac yn ffordd wych o stopio’r sgrolio dibwrpas yna ar eich ffonau. Cyn y pandemig yma, roeddwn i’n mwynhau gwnïo a gwneud prosiectau bach fel yna (er, yn edrych yn ôl nawr, doeddwn i ddim mor dda â hynny yn anffodus). Felly roedd cyfnodau clo a gweithio o adref yn amser perffaith i mi weithio ar y sgiliau yna. Fe ddysgodd fy mam-gu i i mi sut i greu masgiau ar gyfer gwisgo o ddydd i ddydd a mwyafrif o fy sgiliau creu, ffordd arbennig o basio amser ond yn rhoi yn ôl i’r gymdeithas yr un pryd, ac yn bennaf fy mod i’n mwynhau gwneud nhw. Fe ddechreuais i grosio hefyd yn y cyfnod clo cyntaf, ac yn awr yn rhedeg busnes bach ar Instagram yn gwerthu fy ngwaith crosio, masgiau a phrosiectau bach gwau roeddwn i’n ei greu.
Rhywbeth arall sydd at ddant llawer yw dianc i fyd arall trwy lyfrau. Ffordd mor hawdd ond mor effeithiol o ehangu’ch gallu a gwybodaeth yn bellach. Canu neu ddysgu offeryn yn syniad da hefyd - mae digon o fideos ac yn y blaen ar YouTube i’ch helpu. Beth am ddechrau coginio? Creu tudalen eich hun ar Instagram sydd yn dilyn eich bywyd yng ngholur, dawnsio, ffermio, celf, unrhyw beth?! Neu hyd yn oed dechrau gwneud ymarfer corff rheolaidd. Dyma rywbeth wnes i ddechrau yn y cyfnod clo cyntaf ac fe ddyweda i mor onest ag y medra i, dydw i ddim yn difaru o gwbwl. Mae gwelliant yn fy iechyd corfforol wedi bod ers y cyfnod clo yma bydd yn fantais wych i mi wrth ddychwelyd yn ôl i fy chwaraeon rheolaidd o hoci a nofio, ond yn bennaf, mae e wedi gwella fy iechyd meddwl. Yn sicr mae’r cyfnod clo wedi helpu mi i ddiolch a pharchu'r pethau lleiaf a newid fy nghanfyddiad ar fywyd am y gorau.
A’r syniad olaf hoffwn i rannu yw gwneud y fwyaf o’r natur o’ch cwmpas. Mae cerdded yn fath o ymarfer corff mor hawdd, ond y mwyaf effeithiol credwch e neu beidio! Rydw i yn ddigon ffodus i fyw mewn ardal cefn gwlad gyda digon o lwybrau cerdded hardd ar fferm. Felly mae’r fferm wedi bod yn ffordd i ddianc i mi, i anghofio am y drwg sydd yn y byd a threulio amser gyda’r anifeiliaid a theimlo ffresni’r byd ar fy mochau. Mae bod allan yn yr awyr agored yn cerdded, rhedeg, eistedd yn gwrando ar gerddoriaeth, darllen, neu unrhyw beth yr hoffech o gwbwl, yn sicr yn rhywbeth bydden i’n argymell i bob un ohonoch chi geisio gwneud mwy ohono.
Dwi’n wir obeithio felly fy mod i wedi ysbrydoli rhai ohonoch chi i ddechrau gwneud rhywbeth newydd, wedi lleddfu’ch poenau a phryderon chi ychydig ynglŷn ag ysgol neu helpu chi sylweddoli nad ydych chi ar ben eich hun yn y sefyllfa yma. Cofiwch eich bod chi gwmws lle’r ydych i fod nawr yn eich bywyd. Cofiwch eich bod yn gryfach na beth rydych chi’n ei feddwl. A chofiwch fod 'na rhywun yna i wrando arnoch chi drwy’r amser. Chi’n gwneud yn anhygoel!

Hanna x

Cymuned | Dal Ati i Wenu
bottom of page