Cymuned | Codi Arian, Codi Gwên
Er gwaetha'r pandemig, mae Clwb Pêl-droed Merched Castell Caerffili wedi gweithio fel tîm - a hynny trwy godi arian at achos arbennig sy'n agos at y clwb. Dyma flog gan Bethan, un o'r chwaraewyr, yn arbennig i #LyshCymru i sôn am sut aeth pawb ati i godi arian tuag at Glefyd Motor Niwron.
Ar ddechrau'r pandemig pan chwythwyd y chwiban ar bêl-droed a phan daeth y gemau i stop adeg y clo mawr, cafodd un o'n chwaraewyr syniad i ddefnyddio ein hamser gartref yn ddoeth. Fel clwb, sy’n rhan o gymuned a thref wych, rydyn ni bob amser eisiau rhoi yn ôl i'r bobl sydd wedi ein cefnogi ar hyd y blynyddoedd. Rydyn ni'n teimlo cyfrifoldeb i helpu a chefnogi'r gymuned, yn enwedig ein chwaraewyr a'n gwirfoddolwyr. Mae ein clwb yn cynrychioli angerdd am dwf a datblygiad, rydyn ni am i ferched a menywod ifanc ddod yn hyderus nid yn unig mewn pêl-droed ond mewn bywyd. Mae gan ein tîm merched fond arbennig, tîm sydd wedi goresgyn trechu ac wedi gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein gilydd. Dyna pam roedd yr ymgyrch hon mor arbennig i ni.
Yn anffodus collodd un o'n chwaraewyr ei thad i Glefyd Motor Niwron. Roedd e’n angerddol am bêl-droed yn y gymuned, ac roedd yn ein cefnogi ni gant y cant. Cyn iddo farw roedd ei deulu'n codi arian ar gyfer ei driniaeth, ond yn anffodus bu farw cyn y gallai ei dderbyn. Gwnaeth y teulu rodd hael i'r clwb i ddathlu angerdd eu tad am bêl-droed.
Fel clwb rydyn ni am gefnogi a chodi arian ac ymwybyddiaeth i'r elusen hon gan ei bod mor arbennig i dad ein chwaraewr. Er mwyn codi arian ar gyfer Clefyd Motor Niwron fe wnaethon ni greu ymgyrch, un a oedd yn cynnwys tîm y merched a’r staff hyfforddi. Cymerodd hyd yn oed rhai o'n gwirfoddolwyr ran yn y digwyddiad.
Gofynnwyd i bob chwaraewr, hyfforddwr a gwirfoddolwr naill ai gerdded, loncian neu redeg 5k er mwyn codi arian. Rhoddodd chwaraewyr a gymerodd ran bob un £10 i elusen Clefyd Motor Niwron. Roedd hon yn ymgyrch wych i'r clwb ddod at ei gilydd a chefnogi ein chwaraewr a'i theulu. Roedd gennym darged o £500 a fyddai’n helpu i ariannu ymchwil a chodi ymwybyddiaeth i’r elusen.
Cawsom ein llorio gan faint o gefnogaeth a ddangoswyd i ni ar gyfer yr ymgyrch hon. Ar ôl dim ond pythefnos o lansio ein hymgyrch roeddem wedi chwalu ein targed o £500. Unwaith eto rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran ac a roddodd at achos mor anhygoel. Fe ddaethon ni i ben i godi £645 ar gyfer Clefyd Motor Niwron. Mae'r ymgyrch yn dal i fod yn weithredol ac ar-lein, os hoffech gyfrannu ewch i: http://uk.gofundme.com/f/5k-for-500