top of page

Cymuned | Cerdd: Wcráin

Cymuned | Cerdd: Wcráin

Mae’n anodd iawn i bawb ddirnad yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd. Mae Tegwen Bruce-Deans, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, wedi rhoi ei theimladau ar bapur, a chyfansoddi cerdd. Dyma hi i egluro ymhellach...

Mae barddoniaeth i mi yn rhywbeth dwi'n dueddol o droi ati mewn cyfyng gyngor; ffordd o allu prosesu pethau anodd sy'n digwydd yn y byd pan fo bob dim arall yn teimlo'n annigonol.

Roeddwn i wedi teimlo ers ychydig 'mod i ag awydd i sgrifennu cerdd am yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd, a roddodd y dasg o lunio portffolio o farddoniaeth ar gyfer modiwl yn y brifysgol (Bangor) gyfle gwych i wneud hynny.

Daeth glywed y ffeithiau moel a'r erchylltra annealladwy yn ormod i mi allu gwneud synnwyr ohono'n iawn yn fy mhen, felly penderfynais i ddychwelyd at y berthynas greiddiol o fam a phlentyn er mwyn gallu cyfleu'r dorcalon roeddwn i'n teimlo dros ddinasyddion gwlad dan warchae.

Personoli'r ddelwedd o famwlad sydd yma, delwedd sydd ar yr un pryd mor agos i'n calonnau ni fel Cymry ac eto mor ddieithr yng nghyd-destun profiad Wcráin yn y ffordd y mae pobl yn cael eu herlid o'u cynefin heb ddewis.

I gyd-fynd â'r syniad o allu uniaethu â delwedd y famwlad, daeth yn naturiol wedyn i gynnwys iaith y wlad fel rhan o'r gerdd ei hun hefyd. Yn y bôn, ymdriniaeth seml o destun dwys ydyw, ac weithiau dyma yw'r hyn sydd ei hangen er mwyn gallu dirnad difrifoldeb sefyllfa yn iawn.

Wcráin

Rhywle, heddiw,
mae ’na famwlad
yn cydio mewn baban,
ei lapio’n dynn mewn mwslin
i lenwi gwagle coflaid,
a hithau’n ei ddal
yn agos i’w bron,
ei breichiau’n wag
heblaw am ei gilydd,
cwsg, cwsg,
fy solnce annwyl,
cwsg nes dyfod
y nos i’n hiachau
a’i hwyneb yn lliwgar
fel eirin ’di gollwng,
y cleisiau’n amgáu
nes clytweithio’n
dywyllwch ddi-seren,
a’r famwlad
nad yw’n famwlad
bellach yn amddifad.

Tegwen Bruce-Deans

*‘solnce’ [sɔnsə] yw’r gair Wcrainaidd am ‘heulwen’, term o anwyldeb a ddefnyddir yn aml ar gyfer plant

Cymuned | Cerdd: Wcráin
bottom of page