Cymuned | ‘Yn Berffaith o Amherffaith’
#Helynt ydy enillydd categori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2021, a dyma lythyr at ei hun yn 15 oed gan yr awdur, Rebecca Roberts, yn arbennig i Lysh Cymru.
Haia Rebecca,
Paid â dychryn ar ddarllen hwn. Fi sydd yma. Ti. Ni. Ond rŵan dwi’n 36, a dwi yma achos mae gen i gwpl o bethau hoffwn i ddweud wrthyt ti. Pethau na wnei di glywed am rai blynyddoedd eto, ond cyngor sy’n mynd i newid dy fywyd di.
Yn gyntaf, dwi’n gwybod rwyt ti wedi bod drwy gyfnod eithaf crap efo’r bwlio. Dwi’n cofio’u geiriau fel petawn i wedi’u clywed nhw ddoe. Fy mod i’n dew ac yn hyll, yn werth dim. Do the world a favour and kill yourself. You need a f*cking treadmill. I’ll smash your face in. Mae yna waeth o lawer na hynny, ond mae’n anodd i mi fod yn fregus ac yn hollol agored am ba mor erchyll oedd fy mhrofiadau, hyd heddiw. Mae rhywfaint o’r hen gywilydd yn dal i lercian, er fy mod i’n gwybod rŵan nid fi oedd ar fai am beth ddigwyddodd. Ond ydw, dwi’n cofio’r cywilydd, y bygythiadau, eistedd yn y dosbarth yn ceisio cuddio fy nagrau, cael llond ceg o boer yn fy wyneb a brechdan wedi ei rhwbio yn fy ngwallt.
A dwi’n cofio pa mor toxic oedd yr amgylchedd pryd hynny, yn enwedig i ferched. Doedd #BeKind na body positivity na #MeToo ddim yn bodoli. Cynrychiolaeth? Toxic Masculinity? Iechyd meddwl? Never heard of ‘em. Wrth dyfu, y neges sylfaenol gest ti o’r cyfryngau oedd mai’r bobl denau, ddel, rhywiol, deniadol a phoblogaidd oedd yn haeddu pethau gorau bywyd. Doedd gan bobl fel fi ddim hawl i hyd yn oed y pethau sylfaenol, fel parch na charedigrwydd. A thros amser, gwnaeth geiriau’r bwlis, fel gwenwyn, treiddio i fy enaid a dod yn rhan o fy isymwybod; a dyna pam wnes i dreulio’r degawd ar ôl gadael ysgol yn teimlo’n israddol, yn ddi-werth, yn anhaeddiannol, yn ymddiheuro dros fy modolaeth ac yn llawn cywilydd am lenwi croen fy hun.
O, Becca fach, pam na wnest ti erioed sôn wrth neb am sut oeddet ti’n teimlo? Pam na wnest ti ofyn am help? Pe bawn i ond wedi agor fy ngheg a dweud beth oedd yn digwydd… Roedd y cymorth wastad yna. Dim ond gofyn oedd rhaid. Ond yn lle gofyn am help, wnes i feio fi’n hun nes oedd fy hunanhyder a fy hunanwerth wedi eu chwalu’n rhacs, ac yna wnes i dreulio’r degawd nesaf yn brwydro i gael gwared ar yr iselder a’r intrusive thoughts a’r panic attacks. Degawd yn credu nad oeddwn i’n haeddu hapusrwydd; degawd yn credu byddwn i’n well berson pe bawn i’n pwyso stôn yn llai; degawd yn ymdrechu i fod yn berffaith ac yn crio dagrau chwerw ar fethu; degawd yn ceisio bod yn hoffus i bawb ac yn beio fy hun am bob ffrae neu air cas.
Dwi’n cofio sut brofiad oedd bod yn bymtheg, a medrwn i ddweud gyda sicrwydd mai nonsens llwyr oedd fy meddyliau yn bymtheg oed. Nid fy mod i’n beio ti am eiliad, Becca. Gest ti dy gyflyru i feddwl amdanat ti dy hun mewn ffordd negyddol. Ar hyn o bryd mae dy frên yn gawl meddyliol o hunan-gasineb a gorbryder a ddatblygodd yn sgil blynyddoedd o fwlio a diffyg negeseuon cadarnhaol.
Mae’n rhaid i ti anghofio popeth clywest ti gan Clive a Terry a Carla a Conrad a’r lleill.
Dyma’r hyn mae angen i ti wybod. Dyma’r gwirionedd:
1. Rwyt ti’n ddigon. Rwyt ti’n wych. Rwyt ti’n ôsym.
2. Dim ots fel beth wyt ti’n edrych, rwyt ti’n dal yn haeddiannol o barch.
3. Does gen neb yr hawl i dy frifo di, dy fychanu di na gwneud i ti deimlo’n israddol. NEB.
4. Mae’n iawn i beidio bod yn iawn. Mae’n iawn i drafod dy deimladau efo pobl eraill - dwyt ti ddim yn ‘niwsans’. Mae’n iawn i ofyn am help. Mae gofyn am gymorth yn beth dewr i wneud, yn arwydd o gryfder yn hytrach na wendid.
5. Mae gennyt ti’r hawl i ddweud ‘na’.
6. Mae yna bobl gas a chreulon yn y byd, ac weithiau, yn anffodus, mi wnei di ddod ar eu traws. Cofia - nhw sydd efo’r problemau, nid ti.
7. Fedri di ddim rheoli beth mae pobl eraill yn meddwl amdanat ti. Ceisia boeni llai am sut mae pobl eraill yn dy weld ti.
8. Mae bywyd yn fyr. Ceisia peidio â gwastraffu dy amser yn poeni’n ddiangen.
9. Bydd hyn yn dod yn hynod bwysig i ti o gwmpas 2014: ‘Don’t try to blend in, when you were born to stand out’. Plîs, plîs cofia hynny, a dysga sut i ddal dy ben yn uchel a serennu - achos rhyw ddydd byddet ti’n gorfod dysgu’r wers hon i rywun arall.
Heavy stuff, dwi’n gwybod. Ond rwyt ti ar fin darganfod hoffter o roc a metal, felly ddoi di i arfer efo’r stwff trwm!
Dwi’n gwybod dy fod di ar fin mynd drwy brofiad rîli anodd. Mae bywyd yn llawn o’r rheini, a’r unig beth fedrwn ni wneud ydi dysgu sut i ymdopi â nhw'r gorau gallwn ni. Bydd y blynyddoedd nesaf yn boenus i ti, ac mae’n ddrwg gen i am hynny.
Ond mae gen i newyddion da. (O’r diwedd!) Mae pethau’n dechrau gwella ar ôl i ti adael ysgol, ac ar ryw bwynt yn ganol dy ugeiniau rwyt ti’n dechrau talu mwy o sylw i dy iechyd meddwl a byddet ti’n dysgu llawer o wersi pwysig wneith byd o les i dy hyder a dy hunanwerth.
Wnei di briodi a chael dau o blant gorjys, a gwnei di ganfod gyrfa rwyt ti’n mwynhau’n arw. Dydi dy brofiadau efo’r bwlis ddim yn chwerwi ti fel person. Mae gennyt ti ffrindiau sy’n werth y byd, perthynas da efo dy deulu ac rwyt ti wirioneddol yn fodlon dy fyd. Dwi’n edrych yn y drych ac mae fy adlewyrchiad yn gwenu’n ôl. Dwi’n hoffi pwy ydw i, ac mi wna i roi llond ceg i unrhyw berson sy’n llai na charedig i fi a fy nheulu.
Un o’r pethau gorau am dyfu’n hŷn ydi’r ffaith fy mod i wedi llwyddo yn ein huchelgais i ddod yn awdur. Ydw. Wir yr. Un diwrnod, Becca fach, wnei di gerdded i siop lyfrau neu lyfrgell a gweld dy lyfrau (lluosog!) ar y silffoedd, a bydd yr holl eiriau creulon gan y bwlis am fod yn swot ac yn geek pathetig yn golygu dim - achos wnaeth dy holl waith caled dwyn ffrwyth.
Ac mae un o dy lyfrau, dy nofel gyntaf i oedolion ifanc, llyfr o’r enw #Helynt, yn gwneud yn dda iawn. Ac mi fyddet ti’n ridiculous o falch o dy lwyddiannau, achos mae #Helynt yn bwysig iawn i ni.
#Helynt oedd y llyfr oedd angen arna i yn bymtheg oed. #Helynt ydi fy llythyr caru i’r rhai sy’n cael eu bwlio a’u bychanu a’u brifo.
Y person yn syllu ar sgrin ei ffôn drwy amser cinio yn ceisio dod yn anweledig; yr un sy’n deffro yn y bore gan deimlo’n sâl efo ofn; yr un sy’n edrych yn y drych ac yn teimlo fel crio; pawb sy’n breuddwydio am ddiosg eu crwyn a dianc o’u bywydau; pawb sydd wedi gwrando ar ‘Raise Your Glass’ gan Pink (Dwi’n dangos fy oed rŵan, ond mae’n gân wych)... I’r rhai sy’n teimlo fel hoelion sgwâr yn ceisio ffitio i dyllau crwn, y rhai ar yr ymylon, y rhai sy’n edrych ac yn teimlo’n wahanol i bawb arall - ar eu cyfer nhw wnes i ysgrifennu #Helynt. Ac ar fy nghyfer i, hefyd.
Fedra i ddim gwirioneddol siarad efo fi’n hun yn bymtheg oed, felly does dim ffordd i mi gysuro Rebecca Davies dosbarth 10Y; ond mi fedra i ddal dweud wrth fy narllenwyr ifanc heddiw nad oes rhaid iddyn nhw ddioddef bwlio, a dylai neb arall cael diffinio pwy ydych chi, na gwneud i chi deimlo’n isel na’n ddiwerth.
Wnes i greu Rachel Ross yn berffaith o amherffaith er mwyn i fy narllenwyr gael clywed eu bod nhw, fel y mae hi, yn unigryw, yn wahanol, ac mae’n berffaith iawn i fod felly. Dim ots beth yw eich maint, rhyw, rhywioldeb, hil, lliw, anabledd, crefydd, cefndir... Dim ots beth mae’r bwlis a’r bobl bitchy a chas a chreulon yn dweud, rydych chi’n wych ac rydych chi’n haeddu byw bywyd hapus a llawn, heb deimlo’n ofnus na’n drist.
Dyna’r wers cymerodd degawd a mwy i mi ei dysgu. Cymerodd Rachel llai na blwyddyn i sylweddoli pa mor ffantastig o gryf a sbeshial ydi hi.
Dysgwch ganddi hi. Dysgwch yn gyflymach na wnes i.
Bydd wych.
Cariad mawr,
Rebecca