Adloniant | Ynys Alys: Genod Gefn Llwyfan
Bywyd tu ôl i'r llen gyda Gwenno a Martha
Yn dawel bach tu ôl i llen llwyfannau mae haid o gyfeillion creadigol yn gweithio’n galed i wireddu sioeau a dramâu ar hyd a lled y wlad. Er bod timau technegol theatrau yn gweithio’n dawel heb i ni eu gweld nhw, mae eu gwaith yn hanfodol... Heb eu gwaith, fydd y sioeau ddim yn bodoli!
Dwy sydd wrthi gefn llwyfan ar gynhyrchiad Ynys Alys gan Gwmni Frân Wen ydi Gwenno Parry a Martha Davies ac aeth Lysh Cymru i’w holi am eu gwaith tu ôl i’r llen a sut wnaethon nhw gyrraedd eu swyddi heddiw.
Technegydd sain yw Gwenno, sy’n gyfrifol am weithredu systemau sain y cynhyrchiad, tra bod Martha yn rheolwr llwyfan ac yn gweithio’n agos gyda phawb yn y cynhyrchiad.
Diwrnod Arferol
Sut olwg sydd ar eu diwrnod arferol? Fel arfer, Martha yw’r cyntaf i’r fei.
“Mae fy niwrnod i yn cychwyn awr yn gynt na phawb arall er mwyn gallu paratoi’r gofod,” meddai.
“I gychwyn, dan ni’n darllen y sgript ac yn mynd drwyddi, wedyn mae wythnosau o ymarfer. Ar ôl hynny mae wythnos tech, a dyna pryd mae petha’n prysuro go iawn!”
Dyma pryd mae swydd Gwenno yn prysuro hefyd, wrth iddi ymuno efo’r ymarferion a sicrhau bod y systemau sain yn gweithio efo’r cynhyrchiad.
Sut wnaethon nhw ddechrau?
Cychwynnodd taith y ddwy mewn ffyrdd gwahanol. Actio oedd prif ddiddordeb Martha, ac wedi gadael yr ysgol aeth hi ymlaen i astudio actio ymhellach yn y Brifysgol. Meddai Martha, “Roeddwn i’n ffodus iawn i allu mynd ar brofiad gwaith efo’r cwrs, ac ar brofiad gwaith ges i flas ar wahanol rolau gefn llwyfan.”
Roedd Gwenno, ar y llaw arall, yn gwybod mai gwaith technegol oedd ei llwybr hi wrth iddi fagu profiad technegol yn yr ysgol. Dywedodd Gwenno, “Nes i gymryd rhan yn y radio ysgol, a dyna ni wedyn! On i wrth fy modd.” Aeth Gwenno ymlaen i astudio sain yn y brifysgol.
Merched a’r theatr
Ym myd y theatrau, yn arbennig gefn llwyfan, mae canran uchel o rolau fel arfer yn cael eu gwneud gan ddynion. Mewn archwiliad gan yr European Theatre Convention, darganfyddir fod oddeutu 65% o reolwyr llwyfan, fel Martha, yn ddynion a bod dros 55% o rolau technegol, fel Gwenno, yn ddynion.
Ydyn nhw’n teimlo bod eu diwylliant yn cael ei ddominyddu gan ddynion?
“Pan o’n i’n astudio sain, allan o dri deg oedd ar y cwrs dim ond tair ohonom oedd yn genod,” soniodd Gwenno, cyn mynd ymlaen i son nad ydi pawb yn sylwi ei bod hi’n rhan o’r tîm technegol. “Dwi’n berson reit glam, felly dydi pobl ddim yn rili disgwyl ‘mod i’n dechnegydd. Wnes i gyrraedd y stiwdio unwaith, a toeddan nhw ddim yn dallt pam o’n i yna ac yn dallt y termau technegol. Fi ydi’r technegydd sain!”
Er bod mwy o ddynion yn y rolau technegol a chefn llwyfan yn stategol, dywed Martha nad ydi hyn yn rheswm i ferched beidio mynd amdani. “Mae yna lot fawr o bobl isho cefnogi genod!” meddai.
Gair o Gyngor
Tybed oes ganddyn nhw air o gyngor i ferched ifanc fyddai’n hoffi dilyn trywydd technegol neu rolau eraill gefn llwyfan?
Creda Gwenno fod siarad a holi eraill yn y diwydiant yn gallu fod o gymorth. “Mae rhwydweithio bendant yn helpu.”
“Cer amdani!” meddai Martha. “A paid â bod ofn gofyn os dwyt ti ddim yn dallt rhwbath. Ella bo chdi’n meddwl fod o’n gwestiwn stiwpid, ond dydi o wir ddim. Os dydach chi ddim isho perfformio, mae yna dal lle i chi yn y cyfryngau. Mae pob dim mae pobl yn neud cefn llwyfan yn cyfrannu at y sioe.”
Pob lwc, genod! Bydd cyfweliad arbennig gyda Becca Naiga, un o’r actorion, ar Lysh Cymru cyn diwedd yr wythnos.
Ynys Alys, ar daith
Mae theatr, cerddoriaeth bop a rap yn gwrthdaro yn y cynhyrchiad Cymraeg hwn sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth.
Mae’n bryd i Alys ddechrau byw ei bywyd gorau. Ond caiff ei chaethiwo mewn hen hunlle’ cyfarwydd, anghyfarwydd.
All hi goncro ei hofnau? All hi fod yr Alys y mae hi eisiau bod?
Mae Ynys Alys yn archwilio pwy yda ni mewn adegau o newid a’r hyn ‘da ni wir yn gobeithio dal gafael arno mewn byd newydd.
Yn teithio rhwng 17 Mawrth a 9 Ebrill, bydd Ynys Alys yn perfformio ym Mangor, Pwllheli, Rhosllannerchrugog, Aberystwyth, Caernarfon, Merthyr Tudful, Llanelli a Caerdydd.