Adloniant | Ynys Alys: Becca Naiga
Seren ifanc o dan y sbotolau
Wedi cyfnod o drwmgwsg, mae byd y theatrau araf ddeffro.
Un o sêr diweddaraf byd celfyddydau Cymru ydi Becca Naiga. Mae Becca yn actio yn Ynys Alys, cynhyrchiad newydd gan Gwmni Frân Wen. Mae’r sioe yn argoeli i fod yn un arbennig iawn wrth gyfuno sgiliau amryw o unigolion creadigol i greu un sioe wych.
Cafodd Lysh Cymru gyfle i sgwrsio efo Becca am ei gyrfa, stori Ynys Alys yn fras a’i rôl hi yn y sioe...
Becca Naiga: Fi yw Alys ac mae’r sioe am rywun sy’n mynd allan i ffeindio annibyniaeth a thrio ffeindio allan pwy ydyn nhw a beth yw annibyniaeth. Mae o’n mynd trwy storis pobl eraill ac yn cysylltu efo stori fi, sef Alys. Yn y sioe mae miwsig a theatr yn dod at ei gilydd. Casi Wyn a Lemarl Freckleton sydd yn gwneud y gerddoriaeth a Gareth Evans-Jones sydd wedi sgwennu’r ddrama. Mae o’n actually anhygoel, os dach chi’n cal y siawns dewch i watshad o achos fyddwch chi’n cael eich tywys i le gwbl wahanol, i fyd hollol wahanol!
Lysh Cymru: Dyma dy gynhyrchiad proffesiynol cyntaf! Sut wyt ti’n teimlo?
BN: Mae’n anhygoel i fod yn onest. Mae cael y profiad a’r cyfle i wneud rhywbeth dwi’n caru neud ac isho neud yn amazing i fi. Dwi’n teimlo’n rili lwcus i fod yn rhan o hwn, dwi’n shocked fod o’n digwydd i fi, a bod yn onest!
LC: Ai perfformio’n broffesiynol oedd dy freuddwyd di?
BN: Pan o’n i’n tyfu fyny o’n i bob tro isho actio. Mae cal y siawns i neud o efo Frân Wen yn anhygoel. Dwi mor hapus i fod yn neud o.
LC: Wnes di gychwyn efo Frân Wen yng nghlwb Cwmni’r Ifanc Frân Wen. Sut brofiad oedd hynny?
BN: Do, nesh i ddechra yn 2015. Oeddwn i’n meddwl ar y pryd mai diddordeb oedd actio, rhywbeth i wneud yn fy amser rhydd, ond rŵan dwi’n actio fel gwaith! Mae’n neis eu bod nhw wedi gofyn i fi ddod nôl i wneud rôl broffesiynol!
LC: Pa mor bwysig ydi cyfleon fel hyn ym myd y celfyddydau i bobl ifanc?
BN: Dwi’n meddwl fod o’n bwysig iawn, oherwydd pan o’n i’n tyfu fyny oeddwn i wastad yn meddwl byddwn i’n gorfod symud i Fanceinion neu i Lundain i gael siawns i wneud be oeddwn i isho wneud. Mae cael cwmni fel Cwmni Frân Wen, sy’n gallu helpu pobl ifanc i ddarganfod be maen nhw isho neud, mor bwysig. Heb Frân Wen, fyswn i wedi rhoi give up a neud job normal arall. Mae o’n bwysig iawn i estyn i ochr greadigol pobl ifanc.
LC: Oes gen ti gyngor i ferched ifanc Cymru sydd efo diddordeb mewn perfformio’n broffesiynnol?
BN: Ceisia weld os mae ‘na gwmnïau drama lleol i ti, fel Cwmni Frân Wen sydd ym Mhorthaethwy. Cysyllta efo llefydd fel ‘na. Os ydach chi isho neud rhywbeth, go for it a paid â bod ofn! Mae gwaith caled yn talu a paid byth a meddwl ‘Dwi’m yn ddigon da’. Os ydach chi angen help, gofynnwch am help. Mae ‘na bob tro rhywun sy’n gallu helpu, fel athrawon drama. Wnaeth fy athrawes drama i helpu fi lot.
Dwi dal yn meddwl, ‘ai breuddwyd ydi hyn?’ Mae o wedi cymryd sawl blwyddyn i gyrraedd lle ydw i, ond dim ond y cychwyn yw hyn!
Pob hwyl Becca, torra goes! Mae Ynys Alys yn cychwyn heno ac yn perfformio ym Mangor, Pwllheli, Rhosllannerchrugog, Aberystwyth, Caernarfon, Merthyr Tudful, Llanelli a Caerdydd tan y 9fed o Ebrill.