top of page

Adloniant | Troelli Tiwns, a Bys ar Byls y Bîts

Adloniant | Troelli Tiwns, a Bys ar Byls y Bîts

Sgwrs gyda DJ Stacey Alford

Wedi perfformio ar lwyfannau mwyaf cydnabyddus Cymru a’r byd, mae Stacey Alford yn DJ dawnus gydag angerdd annatod tuag at gerddoriaeth a’r sîn yng Nghaerdydd. Yn DJ preswyl yng Nghlwb Ifor Bach, mae Stacey wedi perfformio i ddegau o filoedd o bobl, gan gynnwys gig yn cefnogi neb llai na Anne Marie, ac mae ei chariad tuag at ei gwaith yn disgleirio.

Holodd Lysh am ei hanes, o’r cychwyn i’r dyfodol delfrydol, cyn holi am gyngor i’r DJs ymhlith darllenwyr Lysh.

Ei chariad cyntaf
Syrthiodd Stacey mewn cariad gyda cherddoriaeth yn ei phlentyndod wedi i gig seren go enwog yn ei ysbrydoli.

“Fy nghariad cyntaf i oedd wastad cerddoriaeth. Roedd miwsig yn cael ei chwarae yn y tŷ pan oeddwn i’n tyfu fyny a dwi wedi bod yn mynd i sioeau ers oeddwn i’n bedair oed. Es i gyda Mam i weld Michael Jackson yn perfformio ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd,” meddai, yn brolio hapus am ei phrofiad cyntaf o gerddoriaeth. “Doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau gwneud ar ôl tyfu fyny, ond roeddwn i yn bendant gwybod mai ym myd cerddoriaeth roeddwn i am fod.”

Dod i hyd i’r llwybr
Wrth iddi geisio dod o hyd i’w llwybr cerddorol, eglurodd Stacey sut iddi syrthio ar ddamwain a hap i mewn i fyd y DJs.

“I fod yn onest, damwain llwyr oedd o, ond dwi’n meddwl mai fel hyn mae’r pethau gorau yn digwydd! Wedi i mi gwblhau fy Lefel A, wnes i fynd i weithio mewn siop miwsig ac roeddwn i’n mynd i sioeau bron bob nos.”

Roedd ei sefyllfa yn golygu fod ganddi gasgliad go fawr o recordiau a dealltwriaeth dda o gerddoriaeth a’r sin miwsig yng Nghaerdydd. Wrth weithio yn y maes, roedd gwneud ffrindiau a chysylltiadau o fudd mawr.

“Roedd hen gyd-weithiwr i mi, Ben, yn trefnu digwyddiad a gofynnodd i mi ddod draw i chwarae cwpwl o ganeuon un nos Wener a dyna fo! Oeddwn i yno bob wythnos! Dwi dal i DJio efo Ben yng Nghlwb Ifor Bach yn wythnosol!

Er bod ffrindiau a chysylltiadau yn y maes yn fuddiol, mae rhaid rhoi bob ymdrech i geisio llwyddo.

“I weithio fel DJ llawn amser mae rhaid i chi fod wedi ymrwymo i’r swydd a thaflu’ch hun i mewn i’r rôl,” meddai. “Dwi wedi gweithio’n galed am flynyddoedd ond dwi’n falch iawn o le ydw i heddiw. Mae’n gwneud i mi chwerthin, oherwydd mae pobl yn meddwl fod bod yn DJ yn yrfa crand a chain, ond dydyn nhw ddim yn gweld y teithio am oriau a gorfod newid mewn portalŵs!”

Perfformio i’r miloedd
Wrth baru ei dawn naturiol gyda gwaith caled ac ymrwymiad, mae Stacey wedi perfformio i ddim llai ‘na 22,000 o bobl!

“Wnes i gefnogi Gerry Cinnamon ym Mharc Singleton eleni gyda chynulleidfa o 22,000 o bobl,” meddai’n llawn balchder. “Roedd hynny’n brofiad anhygoel, ond y gigs mwyaf emosiynol oedd y gigs cyntaf wedi i’r clybiau ail-agor ar ôl y pandemig. Wnes i chwarae yn noson ail-agoriadol Clwb Ifor Bach. Roedd gymaint o amser wedi mynd heibio, roedd fy nghalon yn fy ngwddf a dagrau yn llifo drwy’r rhan fwyaf o’r set!”

Mae Stacey wedi perfformio ar lwyfannau mwyaf adnabyddus Cymru a thu hwnt, ond tybed lle yw ei llwyfan delfrydol i berfformio?

“Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn... Dwi wedi perfformio ar lwyfan Ministry of Sound yn Llundain (profiad arbennig fel DJ!) a dwi wedi bod yn lwcus iawn i fod yn DJ preswyl mewn ambell le ac i fod wedi perfformio mawr sawl lleoliad a gŵyl yng Nghymru,” meddai. “Dwi’n meddwl yr un nesaf hoffwn i dicio ar fy rhestr o lwyfannau delfrydol ydi yn Ibiza. Mae fy ffrind yn DJio yno yn aml, ac mae’n le enwog gyda hanes arbennig.”

Merched yn DJio
Mae’n hynod o flinedig fel merched ein bod ni’n tueddu i orfod gweithio’n fwy caled i gymharu gyda bechgyn ond eglura Stacey fod y sefyllfa o gydraddoldeb wedi gwella ond fod dal gwaith i’w wneud.

“Dwi’n meddwl ein bod ni’n lwcus fod yna gymaint o ferched talentog yng Nghaerdydd. Mae pobl fel Bethan Elfyn a Vinyl Vendettas wedi cerfio llwybr i ni, felly does dim problem wedi bod i ni yma yn lleol. Yn genedlaethol, mae’r sefyllfa lot gwell nag oedd o ond mae’n debyg fod pethau yn newid a hyd yn oed yn y pum mlynedd diwethaf mae’r maes yn un fwy teg.”

Cyngor Cerddorol
Gyda gyrfa arbennig a phrofiadau lu, mae’n debyg fod gan Stacey le cadarn i gynnig cymorth a chyngor i bobl ifanc fyddai’n dymuno dilyn dull y DJ.

“Adnabod dy fiwsig yn dda, bydda’n chdi dy hun ac os wnei di drin DJio fel swydd, yna fydd o’n swydd yn y pen draw,” sonia, cyn mynd ati i argymell DJs y dyfodol i rwydweithio.

“Paid â bod ofn i holi DJs eraill am gyngor. Rhwydweithio ydi hanner y swydd a dyma sut mae dod o hyd i swyddi felly cysyllta efo gymaint o bobl ac sy’n bosib.”

Adloniant | Troelli Tiwns, a Bys ar Byls y Bîts
bottom of page