Adloniant | Mari'n Mwydro! - Bydda'n Ffeind
Ysgrifennwyd y golofn hon dros fis yn ôl, ond mae’r neges yr un mor berthnasol ag erioed wrth i ni ddod at ein gilydd drwy fod ar wahân.
Dwi am ddechrau drwy rannu fy statws Facebook sy’n dyddio nôl i fis Chwefror ‘leni:
Ma’r newyddion erchyll o drist am Caroline Flack wedi gneud i fi feddwl. Dan ni’n byw mewn oes lle dan ni’n cadw cysylltiad mwy nag erioed - ond yn aml drwy sgrîn dim wyneb yn wyneb. Ma pobol *angen* cysylltiad go iawn. Dan ni’n ddrwg am ddeud yn onest sut dan ni’n teimlo wrth ffrindia - ddim isho bobl feddwl bo ni’n wan, neu ddim isho bod yn fwrn. Dwi jyst isho deud fyswn i BYTH yn gweld ffrind sy’n sdryglo yn fwrn nac yn faich. Gawn ni gyd neud ymdrech i fod yn fwy onest, ac i rili gweld ein gilydd. Ac i wastad fod yn ffeind x
Dwi wedi bod yn meddwl lot mwy am y peth ers hynny. Sut allwn ni fod yn ffrindia gwell i’n gilydd? Sut fedran ni stopio’r bobl dan ni’n ei garu i ffeindio’i hunain mewn lle mor afiach, nes eu bod nhw’n teimlo fod yna ddim ffordd allan. Mae ’na lot yn beio’r cyfryngau am be ddigwyddodd i Caroline Flack, ac er bod ’na elfen gref o wirionedd yn hynny, oes yna fwy o’i le ar y byd dan ni’n byw ynddo fo na hynny?
Fedra i ddim helpu teimlo bod technoleg lot i wneud efo hyn eto. Y negeseuon Whatsapp, a’r emojis calon – dyma sut dan ni’n cyfathrebu erbyn hyn sy’n ei gwneud hi’n lot anoddach i weld os oes gyda ni ffrind sy wir yn sdryglo. Dan ni’n mynd yn fwy a mwy awkward wrth gael sgyrsiau sensitif, anodd, gan fod neges llawn emojis yn gwneud y job yn gymaint haws. Rydan ni’n llongyfarch, yn cydymdeimlo, yn gyrru cariad – ond yn amlach na pheidio, drwy sgrîn. Dyma un o’r pethau olaf i Caroline Flack rannu ar ei ffrwd Instagram:
Dwi’n meddwl bydd lot ohonom ni’n gallu uniaethu efo hyn. Prin ydi’r cyfleoedd i gael sgyrsiau go iawn am deimladau. Does yna neb eisio teimlo fel eu bod nhw’n ‘gwneud ffys’, yn ‘ddramatic’ neu’n ‘fwrn’. Be sy’n fy nychryn i ydi unwaith mae rhywun wirioneddol yn isel, mae’n dod yn anoddach cyfathrebu. Mae pobl hefyd mor dda am guddio sut maen nhw’n teimlo – ac mai’n haws nac erioed i guddio tu ôl i filters a GIFs. Ddylai neb deimlo’n fwrn am estyn allan am help. Yndi, mae bywydau pawb yn hectic, ond byth rhy hectic i helpu ffrind mewn angen.
Wnes i ddechrau meddwl bod angen i fi ffonio a gweld fy ffrindiau’n amlach, ond fedrwn ni ddim poeni am bawb arall o hyd – mae hynny’n hollol anymarferol ac overwhelming. Be dwi’n meddwl y gallwn ni gyd wneud ydi gneud yn siŵr ein bod ni’n edrych ar ôl ein hunan yn iawn. Peidio anwybyddu symptomau sydd ynghlwm ag iechyd meddwl – o fethu cysgu i deimlo’n ddi-egni, i symptomau mwy difrifol fel anxiety neu iselder. Mae angen trin y symptomau yma yn union yr un fath ac unrhyw anhwylder corfforol arall fysa’n gneud i chi weld doctor/arbenigwr neu dreulio ddiwrnod yn eich gwely yn gorffwys. Mae hi hefyd yn bwysig gofyn y cwestiwn - pam eich bod chi’n teimlo fel hyn yn y lle cyntaf? Mae’r corff yn glyfar ac yn rhoi arwyddion os nad ydan ni’n edrych ar ôl ein hunain yn iawn. Mae’r holl bethau boring yn helpu i gadw corff a meddwl iach. Dwi’n caru’r dyfyniad yma gan Jim Carey:
"I believe depression is legitimate. But I also believe that if you don't exercise, eat nutritious foods, get sunlight, get enough sleep, consume positive material [and] surround yourself with support, then you aren't giving yourself a fighting chance."
Dwi’n pregethu wrth fy ffrindiau o hyd am y busnes self care yma, ond mae o mor bwysig! Gwnewch amser i wneud be bynnag sydd angen ei wneud i fwydo’ch enaid – ac ma hynny’n wahanol iawn o berson i berson. You do you. Heb deimlo’n euog, nac yn hunanol. Os wnewch chi gadw’ch hun yn hapus, fydd pob perthynas yn eich bywyd yn elwa.
Er mor bwysig ydi edrych ar ôl no 1, dan ni gyd angen ffrind hefyd, neu rywun i rannu gofidiau â nhw. Mae rhannu problem wir yn helpu – a dydach chi ddim angen llwyth o ffrindiau – mae un y gallwch eu trystio i wrando heb farnu yn hen ddigon. Rhannwch efo nhw. Yn onest. Gewch chi weld fod be bynnag dach chi’n ei deimlo ddim mor ddrwg â hynny. A dydach chi ddim yn fwrn!! Mae pobl sy’n eich caru chi eisio’ch helpu chi. Yn union fel fysech chi eisiau eu helpu nhw.
I orffen dyma grynodeb o sut dan ni am newid y byd un cam bach ar y tro
• Edrych ar ôl ein hunain
• Pwyso ar deulu/ffrindiau pan fo angen heb deimlo fel ein bod ni’n fwrn
• Wastad bod yn barod i wrando ar ffrind sy’n sdryglo
• Bod yn ffeind
Dyna ni! DO IT.
Mari x