Adloniant | Insta-LOL 'da Lisa Angharad
Cyflwynydd, cantores a chwaer sy’n ddigon plaen ei thafod!
Instagram: App sy’n gallu gwneud i ti deimlo fel Zoella am 7:00 i Donna Direidi erbyn 7:05.
Ma hi’n 7 o’r gloch, ti yn dy byjamas gorau/hylla’, y rhai ges di Nadolig pan oeddet ti’n 9, ond ma’ nhw mor feddal a lysh… Ma ‘da ti sudocrem ar dy spots a ti’n trio esgus nad oes darn anferth o waith cartref ‘da ti ei wneud.
Ti bach yn bored felly ti’n postio selfie ar insta, ti ‘di trio pob un ffilter arno fe dair gwaith, a ma’ fe ‘di bod yn barod i fynd yn y drafft folder ers y penwythnos. Ma hi’n nos Fercher a ti ‘di cal detention gan Mr Chambers Maths, cwmpo mas da BFF ti Nansi am beidio tecsto ti nol tair gwaith, a ti ffansi codi calon dy hun drwy gal cheeky 100 👍.
Ma fe di bod lan ers 4 munud ac mae ‘di cal 7 👍.
7?! Oh my god, is that it? Be sy’n bod arno fe? Yn syth ti’n difaru dewis y ffilter yna. Ti ‘di mynd am y dog filter achos mae’n gwneud i cheekbones ti edrych yn amazing ac mae bron a bod yn cuddio’r spot anferth sydd ar dy dalcen di.
Mae’r holl adrenalin ges di o roi’r llun lan 5 munud yn ôl ‘di diflannu ac yn sydyn reit ti’n teimlo’n hollol flat, yn hyll ac yn unig.
Ma’r 👍 yn dal i ffiltro mewn yn araf ond ti’n teimlo’n unig, a ma’ ffrind ti’n rhoi llun lan ohoni hi a’i ffrind arall ar y traeth ‘da machlud anhygoel. Ti’n gwbod bod hwnnw o’r weekend, a bod hi actually adre’n binge fwyta cacen ac yn gwylio Ru Paul’s Drag Race ond bydd y 50 person sydd wedi 👍 fe’n barod ddim.
Ti'n commento ar y llun yn gweud ‘Hun, please 😍!’ ond tu fewn ti bach yn grac ‘da hi am wneud i dy lun di edrych mor crap mewn cymhariaeth, a dyw hi heb hyd yn oed 👍 un ti eto, a ti’n gwbod bod hi ar ei ffôn hi! Ti di absolutely 👍 pob un llun ma’ hi ‘di rhoi lan. Ti’n dechrau meddwl bod hi ddim hyd yn oed yn licio ti ddim mwy, achos bo ti just ddim digon cool.
Ti’n meddwl bo hi’n edrych yn amazing yn y llun ond fel quick fix i wneud dy hunan deimlo’n well ti’n tecsto ffrind arall ‘da screenshot o’r llun ac yn dweud ‘dewis diddorol o bikini 👙 How many filters?!’ a ma hi’n tecsto nol syth yn dweud ‘that top’s defo padded though... She aint foolin me!’
A ti’n teimlo bach yn well achos ti di dechrau sgwrs a galli di fod ar whatsapp am tamed bach yn hytrach na syllu’n siomedig a hunanddinistriol ar dy instagram.
’Ma hi’n 7:15. Ma’r llun ‘di bod lan ers chwarter awr a ma’r sbectrwm o emosiynau ti ‘di teimlo yn anferth, intense, ac yn beryglus. Ti ‘di mynd o hyderus i self-loathing i baranoia i deimlo’n unig i fod yn bach o swigw er mwyn gwneud dy hunan i deimlo’n well.
Ma bod yn berson ifanc heddi mor anodd, a’r cwbl sydd ‘da fi i’w ddweud yw hyn. Ma rhaid i ti wneud be sy’n gwneud i ti deimlo’n hapus tu fewn. Os taw Instagram cyfan o selfies pouty sy’n neud ti deimlo’n dda, gwna hynna a phaid cymryd eiliad o sylw o’r rheini sy’n dy farnu di am ei wneud e. Dwed wrthyn nhw’n garedig i dy ddad-ddilyn di os yw e’n effeithio nhw.
Os taw postio be ti’n cal i swper bod dydd sy’n gwneud ti’n hapus, gwna hynna. You filter that smashed avocado honey!
OND, os yw bod ar Instagram yn neud ti deimlo bach yn rubbish ti angen stopio nawr cyn iddo fe fynd yn rhy bell. Os ti ‘di trio llunie sexy, golygfeydd pert, llun o dy gi yn cal nap, wedi trio bod yn fashion forward, a ma popeth yn neud i ti deimlo’n hollol horrible a anxious ac fel methiant, PLIS gwasga delete ar Instagram. Ma fe mor niweidiol i ti’n feddyliol ac yn mynd a chymaint o dy amser di. Cer am dro yn lle.
Cer i weld dy ffrind, cer i’r traeth a sgwenna rhywbeth, unrhyw beth, meddylia am be sy’n neud ti’n hapus, coginia rhywbeth neis i swper, cer i’r stafell fyw at dy rieni a dechreua sgwrs am eu plentyndod nhw, cer i neud 100 o ab crunches yn yr ardd, cer i neud rhywbeth sy’n mynd i ryddhau endorphins yn hytrach na gwneud i ti deimlo’n inadequate drwy’r amser.
Y peth mwyaf ffasiynol i’w wneud ar hyn o bryd yw bod yn garedig, a beth ma rhan fwyaf ohonom ni’n methu gwneud yw bod yn garedig i ni’n hunan. Mis ma gwna ffafr â fi, trïa rhywbeth gwahanol. Treulia hanner awr bob dydd yn bod yn garedig, boed e’n rhoi’r ffôn i lawr er mwyn cal sgwrs hollol focused ‘da rhywun, neu hanner awr o ddarllen llyfr, neu hanner awr o fath heb ffôn.
Fi ‘di sgwennu hwn mewn caffi, ar y laptop a’r ffôn bob yn ail, ambell waith y ddau’r un pryd, yn instagrammo coffi fi ac yn bod yn anxious am y ffaith bo fi’n neud yn union be fi’n cynghori chi i beidio neud, a dyma pam fi’n sgwennu’r blog ma. Peidiwch â bod yn fi!
Plîs 👍 y blog ma. Angen cyrraedd 1000 👍 erbyn diwedd y mis!
Lisa x