top of page

Adloniant | Hudlath Hypnotig Hudolus

Adloniant | Hudlath Hypnotig Hudolus

Draw yn Llundain, mae meistr miwsig, Gwenno Morgan, wrthi’n brysur yn cyfansoddi darnau gyda’i hudlath hypnotig hudolus. Wrth iddi ryddhau ei chyfansoddiad diweddaraf, Soar, roedd Lysh Cymru wedi ein swyno’n llwyr gan sain y gân ac yn ysu eisiau gwybod mwy am y gyfansoddwraig ifanc a’r darn arbennig sydd wedi cael ei ysbrydoli gan gapel bychan yng nghefn gwlad Cymru.

Wrth ddarllen am hanes Gwenno, cliciwch i chwarae ei darn, Soar: https://soundcloud.com/gwenno-morgan/soar

Pryd wnaeth dy ddiddordeb mewn cerddoriaeth ddechrau?
Mi wnes i ddechrau cael gwersi piano pan oeddwn i’n saith oed, a heb rili stopio ers hynny! Dwi’n gwybod oedd mam-gu a dad-cu yn bobl gerddorol, ac mae Dad wastad wedi (trio) dysgu'r darnau piano dwi wedi bod yn chwarae dros y blynyddoedd. Mae gen i chwiorydd hynod o gerddorol hefyd. Mae Medi’n bianydd ac yn sacsoffonydd ac mae Lisa’n chwarae’r trombôn a’r piano yn anhygoel.

Beth wnaeth i ti astudio cerddoriaeth ymhellach?
I fi, dyna’r peth oeddwn i’n ei fwynhau wrth adael ysgol ac yn teimlo mai dyma oedd fy strong point. Wnes i benderfynu gwneud cwrs Meistr i drio gwella fy sgiliau cyfansoddi a chynhyrchu. Roedd e hefyd yn gyfle grêt i symud i Lundain!

Wnes di gyfansoddi’r darn arbennig ‘Soar’, cân wedi ei ysbrydoli gan eglwys Soar-y-Mynydd yng Ngheredigion. Dwed mwy am y darn...
Mae’r darn yn ganlyniad o brosiect ymchwil wnes i ar gyfer fy nghwrs Meistr. Roeddwn i’n ymchwilio’r cysylltiad rhwng technegau miwsig minimalistig a reduced listening. Mae llawer o ysbrydoliaeth y gerddoriaeth yn dod gan yr artist Jez Riley French a’r cyfansoddwr Max Richter. Mae Soar yn ddarn minimalistig 30 munud o hyd. Wnes i gael fy ffrindiau o’r brifysgol i recordio’r rhannau ffliwt, llais a thelyn sydd i’w clywed. Mae’r delyn, sy’n cael ei chwarae gan yr anhygoel Cerys Hafana, yn dod a’r elfen Gymreig i’r darn. Wnes i recordio a chymysgu’r miwsig i gyd. Roedd proses creu’r darn wedi cymryd tua 4 mis!

Gyda Soar, rwyt ti wedi creu rhywbeth sy’n swyno i’r byw yn y fan a’r lle, ond ar yr un pryd mae’n ddarn sy’n cipio chi i Soar-y-Mynydd a rhoi darlun cyflawn o’r lle... Ydi huna’n gwneud synnwyr? Y cwestiwn ydi, sut wyt ti’n gwneud hynny?!
Diolch o galon - dyna’r disgrifiad gorau roeddwn i’n gobeithio byddai rhywun yn gallu dweud wrth wrando ar y gwaith! I fod yn onest, dwi’n meddwl fod y gallu i roi lle mewn cân i’w wneud gyda’r gwaith celf a chefndir y gwaith.
Dwi’n cael fy ysbrydoli lot gan wahanol ardaloedd a thirweddau dwi wedi ymweld â nhw. Pan es i i ymweld â Soar-y-Mynydd ym mynyddoedd Elenydd, doedd bron dim pobl o gwmpas a ges i’r teimlad mawr yma o allu ymollwng yn y dyffryn - rhyw deimlad eithaf afreal ac arallfydol. Felly, wnes i drio cyfleu hynny yn y gerddoriaeth gyda synau hypnotig a gan gymysgu synau electronig ac acwstig.

Felly, wedi cwblhau dy radd feistr, beth sydd nesa?
Dwi’n mynd i barhau i fyw yn Llundain ar y funud, a gweld beth a ddaw! Dwi wedi bod yn gweithio ar sgorio ffilm gan gyfarwyddwr o Sbaen sy’n dilyn stori ffoadur, a fydd allan yn yr Hydref. Dyma’n union beth fyswn i’n caru gallu parhau i’w wneud! Byddai gallu cydweithio gyda chrëwr ffilmiau yn hir dymor yn freuddwyd, yn bendant!

Beth yw dy hoff offeryn di, boed ti’n gallu ei chwarae hi neu beidio?
Sacsoffon, yn bendant! Dwi’n genfigennus iawn o fy chwaer sy’n gallu chwarae mor dda. Dwi wedi ystyried cael go arni fy hun...

Pwy fyddet ti’n licio cydweithio efo ym myd cerddoriaeth Cymraeg?
Gormod o bobl! Mae Owain Llwyd yn rhywun dwi’n ei edmygu, felly gobeithio cawn ni wneud rhywbeth yn y dyfodol agos!

Pam wyt ti’n meddwl bod cerddoriaeth yn bwysig i bobl ifanc?
Mae dysgu offeryn yn ddisgyblaeth sy’n gallu agor cymaint o ddrysau i blant a phobl ifanc. Nid yn unig mae’n dod a phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd, ond mae’n rhywbeth sy’n gallu datblygu hyder ac agor yn nychymyg rhywun. Pe bawn i’n gallu, byswn i’n galluogi pob un plentyn i allu cael mynediad i wersi offerynnol am ddim!

Beth ydych chi’n meddwl am Soar? Ydych chi’n gallu clywed yr ailadrodd hypnotig?
Sut ydych chi’n ei deimlo wrth wrando? Rhowch wybod i ni!

Adloniant | Hudlath Hypnotig Hudolus
bottom of page