top of page

Adloniant | Eternals: Gall unrhywun fod yn archarwr!

Adloniant | Eternals: Gall unrhywun fod yn archarwr!

Adolygiad gan Lleucu Non

Daeth ffilm gyntaf Marvel Cinematic Universe (MCU), Iron Man yn 2008, a dyma ffilm rhif 26! Gorffennodd yr Infinity Saga wir ar nodyn da iawn, gan synnu a phlesio pawb. Rwy’n gobeithio bod Eternals yn mynd i wneud yr un peth. Dyma’r ffilm gyntaf i mi weld mewn sinema mewn 20 mis, ac am ffilm i ail-fyw'r fendith o fod mewn sinema! Dwi am drio fy ngorau i beidio difetha dim, mae cymaint i’w ddweud! Yma mae ffilm llawn brwydrau, emosiwn, comedi, gwrthdaro a chariad.

Cefndir
Hen iawn ydi stori’r Eternals sy’n deillio nôl i 5,000 Cyn Crist! Mae bod anferthol a phwerus o’r enw’r Prif Celestial, Arisham wedi creu’r Eternals a’u gyrru yma, i’r Ddaear i amddiffyn y bod dynol oddi wrth greaduriaid dychrynllyd o’r enw Devaints! Ond, yn dilyn cyfarwyddiadau Arisham, does gan yr Eternals ddim hawl i ymyrryd mewn unrhyw wrthdaro sydd rhwng bodau dynol, megis y rhyfeloedd byd, ac, ym myd yr MCU, gweithredoedd Thanos yn Avengers: Infinity War.
Ers canrifoedd, maen nhw wedi bod yn byw yn gyfrinachol yn ein mysg ni, bodau dynol. Roedden nhw’n meddwl eu bod wedi lladd yr holl Deviants ond mae mwy wedi dod ac mae’n rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i amddiffyn y Ddaear!
Mae sawl isblot yn y ffilm gan gynnwys y stori gariad gymhleth rhwng Ikaris, Sersi a Dane, y stori ddramatig am y teulu camweithredol, Thena’n dioddef o ryw fath o PTSD a’r gwahanol fathau o berthnasau mae pob Eternal wedi datblygu gyda dyniolaeth. Dyna lawer o faterion i gynnwys mewn un ffilm. Ond wrth feddwl, mae hyn yn dangos bod mwy i ffilm archarwr na brwydr â dwrn caead.
Wrth gwrs, mae mwy i ddweud ond byddai hynny’n difetha! Cofiwch, os ewch i weld y ffilm, arhoswch yn eich seddi tan y diwedd un! Mae dwy olygfa post-credit fel pob ffilm Marvel a’r ddwy wedi achosi i bawb ebychu yn y sinema.

Cast mwyaf amrywiaethol a fu?
Salma Hayek - Ajak
Gemma Chan - Sersi
Richard Madden - Ikaris
Kumail Nanjiali - Kingo
Angelina Jolie - Thena
Don Lee - Gilgamesh
Lia McHugh - Sprite
Brian Tyree Henry - Phastos
Lauren Ridloff - Makkari
Barry Keoghan - Druig
gyda
Kit Harrington - Dane Whitman

Yma, mae’r archarwr Coreaidd cyntaf, Gilgamesh (Don Lee) yr archarwr byddar cyntaf, Makkari (Lauren Ridloff) a’r archarwr De Asiaidd cyntaf, Kingo (Kumail Nanjiali) yn yr MCU. Yn wreiddiol yn y llyfrau comics, roedd cymeriad Makkari yn ddyn gwyn â chlyw. Mae cymeriadau’n cyfathrebu â Makkari drwy ASL, mae isdeitlau yn y ffilm ac mae Lauren Ridloff wedi mynegi pa mor bwysig ydi normaleiddio isdeitlo.
“So we did create this style, and in my mind, I was like, I’m going to run like a girl. I’m not going to run like the other speedsters in some of the other comic worlds because they have all been men, and it’s a very specific look. And so I really wanted to keep it relaxed.” - Lauren Ridloff
Gwelodd Nate Moore, gweithredwr Stiwdio Marvel, Eternals fel cyfle i ehangu sbectrwm demograffaidd yr MCU. Beth sy’n wych ydi nad cast amrywiaethol ydi bwriad y ffilm, fel yna mae’r cast a dyna fo! Sylwch fod y niferoedd o ddynion a merched yn hollol hafal.
Roedd cymeriadau Ajak a Sprite hefyd yn ddynion yn y llyfrau comics gwreiddiol. Mae’r Eternals yn dîm o ddeg, pump sy’n frwydrwyr a phump sy’n fwy o feddylwyr. Cefais y teimlad fod cymaint o bobl yn mynd i weld eu hunain yn y cymeriadau ac yn sicr gwelais mwy o gynrychiolaeth o gwahanol fathau o bobl o wahanol gefndiroedd na’r rhan helaeth o ffilmiau rydw i wedi gweld.
“For me, to be an Eternal has many different meanings. As the character, it gives me a sense of duty, because I am in charge of the mission. And personally, it gives me a sense of hope for change. I am Latina, and also Arab, and also in my 50s. It would have been almost unimagineable that I would become a superhero now.” - Salma Hayek

I’r rhai ohonoch sydd efallai heb glywed am Chloé Zhao, mae wedi cyfarwyddo pedair ffilm gan gynnwys Eternals ers 2015. Mae mwy na thebyg fwyaf adnabyddus am y ffilm Nomadland oherwydd mai hi oedd y ddynes Asiaidd gyntaf i ennill Golden Globe ac Oscar am y Cyfarwyddwr Gorau. O edrych ar ei gwaith hyd yma, mae Eternals yn gwbl wahanol, ond mae hi wedi llwyddo i gyfarwyddo ac ysgrifennu ffilm unigryw, uchelgeisiol a thlws mewn sawl ffordd.
“So my vision for the film is: ‘how can we capture something so epic and intimate at the same time and how to have these moments coexist in the film’... You want to see the character in relationship to the world behind them.” - Chloé Zhao
Roedd Zhao eisiau ffilmio mewn cymaint o leoliadau naturiol â phosib yn hytrach na gwneud popeth o flaen green screen. Mae hyn yn amlwg yn y ffilm ac mae’n gwneud gwahaniaeth, ac yn gwneud stori’r Eternals yn fwy byw a chredadwy, er mai ffantasi ydyw. Wrth gwrs, mae stori’r cymeriadau yn ymestyn dros 7,000 o flynyddoedd felly mae’r golygfeydd sy’n symud o’r presennol i’r gorffennol mor gyffrous ac yn rhoi naws un ai esmwythol neu ddwys. Mae’r golygfeydd mewn lleoliadau naturiol (gyda’r mymryn lleiaf o CGI) mor dlws i ddangos nid yn unig hanes yr Eternals fel teulu ond i ddangos sut maen nhw wedi siapio dynoliaeth. Mae Zhao wir wedi mynd i wraidd y stori, y cymeriadau a’r neges mae’n ei gyfleu.
“It’s definitely going to give the film a different kind of feel when you see those landscapes.” - Gemma Chan

Ymatebion negyddol
Rwy’n siomedig i glywed am wledydd sydd wedi gwrthod dangos y ffilm oherwydd bod cwpl hoyw yn cusanu! Dyma’r cwpl LHDT+ cyntaf yn yr MCU, ac mae cymeriad Brian Tyree Henry, Phastos, wedi cychwyn teulu â chymeriad Haaz Sleiman, Ben, ac mae ganddyn nhw fab. Nid yw hyn yn dderbyniol mewn gwledydd fel Saudi Arabia, Kuwait, Qatar, Bahrain ac Oman. Dwi’n flin i ddweud y lleiaf, ac yn anobeithio wrth feddwl bod pobl yn dal i wrthwynebu gwahanol fathau o gariad!
"I'm sad for those audiences. And I'm proud of Marvel for refusing to cut those scenes out. I still don't understand how we live in a world today where there's still people who would not see the family Phastos has and the beauty of that relationship and that love. How anybody is angry about it, threatened by it, doesn't approve or appreciate it is ignorant." - Angelina Jolie
Ar wahân am hyn, mae ymatebion negyddol eraill wedi bod tuag at y ffilm. Yn anffodus mae rhai pobl wedi gweld y ffilm fel un diflas a ddim y gorau o’r MCU. Yn bersonol, ro’n i’n meddwl ei fod yn andros o gyffrous, ond nid y CGI a’r golygfeydd oedd yn llawn mynd yn unig ond y stori a’r isblotiau. Roedd adegau yng nghanol y ffilm lle'r oedd yn symud ychydig yn rhy araf ond gwendid bychan yw hyn. Mae’r ffilm yn ddwy awr a hanner o hyd ac mae hynny’n amser hir; ond, mae stori fawr i’w adrodd.
Dywedodd un adolygydd bod y cast i gyd yn wych ond bod Gemma Chan “a bit wooden”; rwy’n cytuno i ryw raddau yma. Ond, dwi’n meddwl fod hyn yn rhan o ddatblygiad cymeriad Sersi. Fy marn i ydi fod pobl wedi ymateb fel hyn oherwydd bod Eternals mor wahanol i unrhyw ffilm arall gan Marvel ac nid yw hyn yn plesio. Mae’r ffilm yn mynd i blesio llawer, fel fi (oni bai fy mod i’n hawdd i blesio) ac mae rhai am anghytuno.

Dwi’n argymell y ffilm - wnes i wir fwynhau! Ffilm llawn merched cryf mewn cymaint o ffyrdd a ffilm sy’n dangos i chi gyd bod unrhyw un yn gallu bod yn archarwr!

Adloniant | Eternals: Gall unrhywun fod yn archarwr!
bottom of page