Adloniant | Ar y Sîn gyda Rhys Gwynfor
Mae’n Ddydd Miwsig Cymru ar y 7fed Chwefror - diwrnod i ddathlu pob math o gerddoriaeth a miwsig Cymraeg. Nos Wener yma, bydd Mudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn lansio fersiwn o sengl yr artist Rhys Gwynfor, Bydd Wych – a bydd canran o elw’r sengl yn mynd tuag at elusen iechyd meddwl, meddwl.org. Dewch i ddysgu rhagor am Rhys...
Ers faint wyt ti'n perfformio a beth oedd y sbardun i gychwyn?
Wnes i gychwyn perfformio gyntaf yn 2012 efo’r band Jessop a’r Sgweiri, a dwi wedi bod yn gwneud am gyfnodau byr yma ac acw ers hynny, ac wedi ail afael ynddi yn ddiweddar ers cael fy arwyddo i label Recordiau Cosh. Yr ysgogiad i wneud gyntaf oedd treulio lot o amser gyda fy ffrindiau o'r band Candelas. Fe astudiodd Ifan Jones, gitarydd Candelas, am radd mewn technoleg sain ac mi roedden ni’n chwarae o gwmpas yn ei stiwdio adre. Wnaeth hyn arwain at recordio caneuon newydd.
Disgrifia ‘steil’ dy ganeuon arferol…
Mae’n siŵr mai pop ydi’r gair gorau i ddisgrifio’r gerddoriaeth, dyna fyswn i'n licio'i feddwl beth bynnag. Pop wedi ei gymysgu gydag ychydig o roc meddal, glam rock a stadium rock. Dwi’n trio cael sŵn gwahanol yn fy nghaneuon yn lle setlo i un arddull felly dwi’n siŵr mai pop ydi’r ymbarél sy’n gorchuddio’r cyfan.
Sut wyt ti'n mynd ati i gyfansoddi a chreu cerddoriaeth?
Mae’r broses yn amrywio ond gan amlaf dwi’n meddwl am un neu ddwy linell o lyrics ac yn mynd at y piano i ddechrau cyfansoddi. Fel dwi’n deud, mae o’n amrywio, er enghraifft, ar hyn o bryd mae gen i gân wedi ei chwblhau o ran alaw ond does gen i ddim un gair o lyric iddi eto! Mi ddaw gobeithio, ond mae’n gallu bod yn broses reit lafurus sy’n cymryd misoedd. Mae deadline recordio yn help mawr i orffen lyrics mewn pryd felly mi fydd yn rhaid i mi drefnu amser yn y stiwdio i gwblhau hon efallai!
Pa gân wyt ti'n hoffi ei pherfformio?
Fy hoff gân i’w pherfformio’n fyw ar hyn o bryd ydi 10,000 Folt Trydan, cyfyr o gân Steve Eaves. Mae jyst yn gân wych, mae yna fynd da ynddi a ‘den ni gyd fel band yn ei mwynhau hi. Mae hi hefyd wedi ei gosod yng nghanol y set a honno ydi'r gân sy’n dechrau codi’r tempo a momentwm i gyrraedd diwedd y set a chael y gynulleidfa ar eu traed. O ran fy nghaneuon fy hun, dwi’n mwynhau Bydd Wych ac Esgyrn Eira ar hyn o bryd.
Pwy a beth sy’n dy ysbrydoli di?
Pob math o bethau a phobl. Wnes i glywed cân gan Billie Eilish ddoe ac mae honno wedi rhoi rhyw syniad bach i fi am y gân dwi’n ei sgwennu ar hyn o bryd, fydd honno ddim yn swnio’n ddim byd tebyg i Billie Eilish wrth gwrs, ond mae rhywun yn pigo rhyw bethau bach i fyny o dro i dro - ac yn eu dwyn nhw!
Beth yw’r highlight i ti fel artist hyd yn hyn?
Dwi ‘di cal lot o hwyl wrth greu a pherfformio cerddoriaeth efo ffrindiau gwych, er nad ydw i wedi gwneud cymaint â hynny pan mae rhywun yn meddwl am y peth. Un uchafbwynt oedd cael fy arwyddo i ryddhau cerddoriaeth ar label Recordiau Cosh, achos am y tro cyntaf mae gen i’r gefnogaeth y tu ôl i fi i wneud be dwi eisio’i wneud. Mae’r ffaith fod y Mudiad CFFI wedi dewis fy nghân, Bydd Wych, fel sengl Dydd Miwsig Cymru yn uchafbwynt ac yn anrhydedd hefyd.
Unrhyw straeon crinj wrth berfformio?
Mae'n siŵr bod, ond dwi’n ddiolchgar iawn i fy ymennydd am eu dileu nhw. Wedi deud hynny dwi’n cofio anghofio geiriau cân mewn gig unwaith a gorfod gwneud rhai i fyny drwy enwi pethau o’n i’n eu gweld yn y gynulleidfa. Dwi’n cofio ‘mod i wedi odli Geraint Iwan hefo Spiderman, mi oedd y ddau yn digwydd bod yn y gig.
Y sengl Mudiad CFfI - dwed yr hanes y tu ôl i'r gân...
Cafodd y gân ei rhyddhau ym mis Medi'r flwyddyn ddiwethaf gen i ac fe ddewisodd y Mudiad hi eleni i wneud ail recordiad, neu gyfyr ohoni fel eu sengl Dydd Miwsig Cymru. Mae’r gân am fy ewyrth o Glanyrafon, Yncl Evan, neu Evan y Fet i drigolion y Bala a’r dalgylch. Mi oedd o’n filfeddyg yn y Bala am flynyddoedd lawer ac mi oedd o’n gymeriad mawr a phoblogaidd iawn yn yr ardal. Mi fyddai wastad yn dweud “Bydd wych!” wrth ffarwelio. Dyn diwylliedig iawn, ac un fu’n gweithio ym myd amaeth drwy ei fywyd felly mae’r gân yn ddewis addas iawn gan y Mudiad!
Mae rhan o'r elw yn mynd i’r elusen iechyd meddwl, meddwl.org - pa mor bwysig yw cefnogi mentrau fel hyn a pam?
Pwysig iawn. Dwi wedi clywed am waith arbennig meddwl.org droeon, maen nhw’n gwneud gwaith gwych ac yn fenter a gwasanaeth sydd yn amhrisiadwy i ni. Dwi’n edmygu’r gwaith caled sydd yn cael ei wneud ganddyn nhw ac yn falch iawn fod fy nghân wedi ei dewis yn rhan o’r ymgyrch yma.
Dydd Miwsig Cymru - peth da i'r Sin Roc Gymraeg?
Mae cyfle i roi chwydd wydr ar y sin yn beth da a dyna mae Dydd Miwsig Cymru yn ei wneud. Mae cymaint yn cael ei drefnu ac mae o’n ysgogiad mawr i sefydliadau a mudiadau fel y CFFI i fuddsoddi mewn cerddoriaeth Gymraeg.
Pa fandiau o'r SRG sy'n dy gyffroi di ar hyn o bryd?
Dwi’n gwrando ar lot o Serol Serol a dwi'n edrych ymlaen at weld be fydd yn dod nesa ganddyn nhw. Mae pob dim am Serol Serol mor cŵl, y caneuon, y lleisiau, y cynhyrchu...
Beth sydd ar y gweill gyda ti dros y misoedd nesaf?
Gorffen sgwennu’r batch yma o ganeuon wedyn eu recordio nhw a mynd gam yn nes eto at gwblhau’r albwm! Chydig o gigs ar y gweill hefyd, fel noson lansio sengl CFFI yn Aberystwyth ddydd Gwener yma, y 7fed o Chwefror, Dydd Miwsig Cymru.
Enw llawn?
Rhys Gwynfor.
Oed?
29
Byw?
Caerdydd.
Hoff fwyd a chas fwyd?
Hoff fwyd - chwaden.
Cas fwyd - dwi methu meddwl am gas fwyd ar hyn o bryd ond dwi wedi stopio bwyta bananas ers tro ac wedi perswadio fy hun mod i’n eu casáu nhw, ond mi o’n i’n eu bwyta nhw rial boi pan o’n i’n hogyn bach felly mae’n siŵr baswn i dal yn eu hoffi nhw rŵan, ond dwi’m awydd un.
Hoff gân?
Yr eiliad yma, In My Life gan y Beatles.
Hoff le yng Nghymru?
Glanyrafon - ymddiheuriadau am yr ateb amlwg ond Glanyrafon ydi adre a does nunlle tebyg.
Disgrifia dy hun mewn tri gair!
Plentynnaidd, tal, diog.
Mae gen ti un dymuniad. Beth yw e?
Fy mod i ddim mor ddiog â be ydw i.
Hoff emoji?
😳
Y boi bach yma, dwi’n ei ddefnyddio fo sawl gwaith mewn diwrnod. Mae o’n un bach doniol dydi?
Pe baet ti’n rheoli’r byd, be fyddai’r un peth y byddet ti’n ei orchymyn?
Heblaw am drio datrys holl broblemau’r ddynoliaeth ac achub y byd, yn ail agos iawn at hynny fyddai rhywbeth diflas fel bod yn rhaid i olau dip pob car fod yn lot is na maen nhw ar hyn o bryd. Dwi 'di cal llond bol ar gael fy nallu pan fyddai’n dreifio’n y nos.
Ble fyddi di mewn 20 mlynedd?
Cwstiwn da, a does gen i ddim ffordd o ateb. Fydda i byth yn edrych ymlaen, dim ond yn ôl, sef y ffordd anghywir i’w gwneud hi dwi’n meddwl. Gobeithio bydda i’n hapus ac yn llwyddo i wneud pobl eraill yn hapus hefyd.
Bydd fersiwn CFfI Cymru o gân Rhys Gwynfor 'Bydd Wych' ar gael i'w lawrlwytho ar iTunes ac Amazon Music o'r 7fed o Chwefror.