Adloniant | Ar y Sîn Gyda Gwilym
Mae’r rhain yn dŵds, ac yn rocio. Pwy ydyn nhw? Wel dyma Lysh yn holi’r band Gwilym...
Pwy ‘di pwy?
Ifan, Llŷr, Llew a Rhys
Pwy ‘di Gwilym?
Criw o ffrindiau a oedd yn joio mynd i gigs a ffansi gwneud cerddoriaeth ein hunan. Fe wnaethon ni ffurfio yn Chwefror 2017 ar gyfer Brwydr y Bandiau Maes B fel band tri aelod, ac ymunodd Llew ar y bâs fis yn ddiweddarach.
Steil?
Indie pop hapus a hafaidd.
Pwy sy’n cyfansoddi?
Fel arfer, mae Llew, Rhys neu Ifan yn awgrymu riff, wedyn mae Ifan yn cyfansoddi alaw a byddwn yn gwneud demo ar iMac Llŷr ar gyfer mynd i’r stiwdio at Rich Roberts.
Pa gân ry’ch chi’n hoffi ei pherfformio a pam?
Mae’n braf cael newid o’r ‘hen’ ganeuon, felly ‘dan ni’n joio chwarae ein cân eithaf newydd, Tennyn, yn ddiweddar.
Ble ry’ch chi’n hoffi perfformio?
‘Da’n ni wastad yn joio chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, gan fod cyd-fyfyrwyr Llew yn dod yn eu dwsinau!
Ysbrydoliaeth?
Mae Yws (Gwynedd), rheolwr label Côsh, wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac mae cael gweithio ochr yn ochr efo fo a Rich yn bleser. O ran cerddorion tu allan i Gymru, ‘dan ni wastad wedi edmygu bandiau fel Tame Impala a Mac DeMarco.
Uchafbwynt?
Roedd curo pum gwobr yng Ngwobrau’r Selar (yn cynnwys y Band Gorau) yn anhygoel, ac mae gigs fel Dawns Rhyng-Gol 2018 yn aros yn y cof.
Embaras mwyaf?
Does ‘na ddim byd yn sefyll allan, ond ma gwneud camgymeriadau ar y llwyfan wastad yn embarrassing!
Beth nesaf?
Nôl i’r stiwdio i recordio a gobeithio rhyddhau rhywbeth swmpus o fewn y flwyddyn nesa!
Disgrifiwch y band mewn tri gair...
Licio gigio lot!
IFAN PRITCHARD
Oed?
19
Byw?
Yn Guildford ger Llundain
Hoff fwyd?
Lasagne
Cas fwyd?
Unrhyw beth efo tomatos amrwd
Hoff gân?
Mae’n newid bob dydd. Dwi wrthi’n gwrando lot ar Los Blancos, ac mae’r gân Cadi yn ffefryn
Hoff le yng Nghymru?
Biwmares, achos mae’r golygfeydd yn anhygoel, a dwi rŵan yn byw yna.
Mae gen ti un dymuniad. Beth yw e?
I gael y gallu i rhoi pause ar amser, pryd bynnag dwi eisio
Pe baet ti’n rheoli’r byd, be fyddai’r un peth y byddet ti’n ei orchymyn?
Bod pawb yn gorfod gwylio'r fideo o Dai Jones Llanilar yn disgyn dros ffens cyn mynd i’r gwely bob nos!
Ble fyddi di mewn 20 mlynedd?
Cyfansoddwr proffesiynol gobeithio!
LLEW GLYN
Oed?
19
Byw?
Dw i’n dod o’r Felinheli, ond yn y brifysgol yng Nghaerdydd.
Hoff fwyd?
Byrger
Cas fwyd?
Tomatos
Hoff gân?
Mae’n newid yn aml, ond ar y funud, ‘Mae’r Dyddiau Gwell i Ddod’ gan Papur Wal.
Hoff le yng Nghymru?
Y Felinheli, pentref gorau’r byd!
Mae gen ti un dymuniad. Beth yw e?
Y gallu i chwarae pob offeryn
Pe baet ti’n rheoli’r byd, be fyddai’r un peth y byddet ti’n ei orchymyn?
I bawb i ddysgu Cymraeg
Ble fyddi di mewn 20 mlynedd?
Dwn i ddim rili, job dda, a hapus gobeithio!
RHYS GRAIL
Oed?
20
Byw?
Gwryw
Hoff fwyd?
Yorkshire Pudding
Cas fwyd?
Turkish Delight
Hoff gân?
Knock Me Off My Feet - SOAK
Hoff le yng Nghymru?
Llyn Cefni - vibes neis
Mae gen ti un dymuniad. Beth yw e?
I gael Gibson ES 339
Pe baet ti’n rheoli’r byd, be fyddai’r un peth y byddet ti’n ei orchymyn?
Nandos am ddim i bawb
Ble fyddi di mewn 20 mlynedd?
Dal yn fyw gobeithio, efo fy dream job, gwerthu gwaith celf fy hyn am lwyth o bres!
LLYR JONES
Oed?
19
Byw?
Llangristiolus yn wreiddiol, ond yn y brifysgol yn Guildford
Hoff fwyd?
Brechdan parmesan
Cas fwyd?
Cyrri korma
Hoff gân?
Knock Me Off My Feet - SOAK
Hoff le yng Nghymru?
Caerdydd, atgofion melys o Eiseddfod Genedlaethol 2018
Mae gen ti un dymuniad. Beth yw e?
Y gallu siarad bob iaith
Pe baet ti’n rheoli’r byd, be fyddai’r un peth y byddet ti’n ei orchymyn?
I bawb i ddysgu sut i chwarae dryms.
Ble fyddi di mewn 20 mlynedd?
Cynhyrchydd cerddoriaeth enwog, gobeithio!
Dilyna'r band ar Instagram a Twitter - @_gwilym!