top of page

Ara Deg:

Ffasiwn Ail-law... ac Arlein!

Stacked Folded Clothes

Oes gen ti wyliau ar y gwell eleni? Neu gynlluniau lleol sydd yn haeddu gwisg newydd sbon? Er bod treulio ychydig o oriau ar y stryd fawr yn cydlynu gwisgoedd yn ddeniadol iawn, mae rhoi gwisg ail law at ei gilydd yn llawer mwy boddhaol, yr aros am barsel yn gyffrous ac arbed arian yn eisin ar y cyfan!

Y gwir amdani ydi, does dim modd siopa'n ail law yn yr un modd â siopa ar y stryd fawr. Ac, yn hynny o beth, fedri di ddim siopa ail law ar-lein yn yr un modd â siopa mewn siop elusen!

Sut mae mynd ati i siopa'n effeithiol? Wel...

 

Magu Algorithm

Mae'n debyg y byddi di'n hen gyfarwydd gyda'r term algorithm. Yr hen beth cas 'na sydd wedi cael ei ddylunio i'n cadw ni'n gaeth i'r cyfryngau cymdeithasol! Wyddost di fod modd dysgu algorithm i fod o fydd i ni, yn cwtogi'r amser mae'n cymryd er mwyn darganfod bargen?

Ar apiau siopa ail law, mae'r dudalen flaen fel arfer yn ffrwd o ddillad mae'r ap yn meddwl bydd o ddiddordeb i ti - sy'n handi iawn er mwyn sbario chwilota! Mae'r elfen yma yn hyd yn oed mwy handi pan fyddi di wedi cymryd yr amser i ddysgu'r ap beth yn union sydd o ddiddordeb i ti.

Pan gen ti eiliad, cer am sbec a thara "hoffi" ar yr eitemau sy'n bachu dy sylw. Boed hynny'n frand penodol neu'n steil arbennig, pan fyddi di'n ymwneud ag eitem drwy glicio arni neu yn ei "hoffi", mae'n rhoi gwybod i'r dechnoleg dy fod eisiau gweld mwy o bethau tebyg.

Online shopping
Clothing Products Packaging

Brand

Un elfen o siopa ar-lein ac ail law sy'n gallu gwneud i rywun deimlo'n anghyffyrddus ydi'r ffaith nad oes addewid bod yr eitem yn mynd i fod o'r safon orau neu bydd o ddim yn dy ffitio di - a does dim modd ei anfon yn ôl am y rheswm olaf, chwaith!

Ffordd dda o gwmpas hynny ydi aros gyda brandiau sy'n gyfarwydd i ti. Hynny yw, os wyt ti'n gwybod beth yw dy faint di mewn siop benodol (gan fod meintiau pawb yn wahanol mewn gwahanol siopau, ond araith am ddiwrnod arall yw hwnnw!) mae'n helpu rhoi ychydig bach fwy o hyder i ti wrth brynu eitem ail law, yn arbennig gan nad wyt ti'n gallu gweld, cyffwrdd 'na theimlo'r eitem cyn ei brynu!

Mae'r un peth yn wir o ran safon. Os oes gen ti ddillad gan un brand a dy fod yn fodlon iawn gyda'r safon, yna fedri di ymddiried ychydig bach mwy yn dy wariant.


Adolygiadau

Os wyt ti dal i deimlo ychydig yn wyliadwrus am brynu, yna cer i ddarllen adolygiadau'r gwerthwr. Er bod y rhan helaeth o werthwyr yn tueddu i fod yn wych, mae yna wastad drwg ym mhob caws! Mae sbec sydyn ar yr adolygiadau yn gallu talu ar ei ganfed...

bottom of page