top of page

Ar Dy Ben i Yrfa

Home Desk

Wyt ti’n teimlo dy fod wedi cael dy daflu i mewn i fyd y gyrfaoedd ar dy ben, i’r pen dwfn a hynny heb fath o arm band? Fel tasa’r holl “baratoi” ar hyd dy ddyddiau ysgol wedi bod yn ddibwys? Efallai byddi di wedi siomi ychydig gyda gyrfa sydd ddim cweit yn beth oeddet ti’n disgwyl, a hynny wedi blynyddoedd o waith caled er mwyn cyflawni dy freuddwyd.

Does dim canllaw cadarn i’w ddilyn bob tro, gan fod bob gyrfa a hyd yn oed bob gweithle yn gwbl wahanol. Felly, dyma lond llaw o reolau euraidd i’w cofio am y siwrnai sydd i ddod.


Dwyt ti ddim yn bwysig...

... i’r cwmni, hynny yw! Rwyt ti’n holl bwysig i dy deulu ac i dy ffrindiau, ond y gwir amdani yw bod cwmni yn gallu dod o hyd i rywun i lenwi dy esgidiau. I dy deulu a dy ffrindiau, mae dod o hyd i rywun i gymryd dy le yn gwbl amhosib. Bydden nhw ar goll! Os fyddi di’n teimlo pwysau gwaith yn drwm, cofia hyn! Mae iechyd yn dod yn gyntaf, yn feddyliol ac yn gorfforol.
 

Rhwydweithio, rhwydweithio, rhwydweithio...

Dyma air sy’n anfon ias oer lawr sawl asgwrn cefn. Mae rhwydweithio yn gofyn am lot o ymarfer a cham mawr allan o unrhyw comfort zone, ond mae’r buddion o wneud yn gallu trechu unrhyw letchwithdod cymdeithasol! Drwy rwydweithio, rwyt ti’n agor sawl drws - drws dysg, drws cysylltiadau, drws sy’n arwain ar gyfleoedd gwbl annisgwyl. Mae’n bwysig cofio, waeth pa faes a gyrfa, dwyt ti byth yn rhoi’r gorau i ddysgu. Pwy a ŵyr, efallai wnei di ddarganfod rhywbeth, neu rywun, sy’n newid dy ffordd di o weithio am y gorau!

Dydi hi byth rhy hwyr...

Oes rhywbeth gwaeth ‘na rhoi dy fywyd i yrfa am flynyddoedd ar ôl buddsoddi gymaint o amser mewn addysg ddrud, cyn sylweddoli nad wyt ti’n joio bellach? Mae hyn yn deimlad sy’n gyfarwydd i nifer ac mae’n gofyn am lot fawr o hyder i newid llwybr yn gyfan gwbl. Gwna ychydig o waith ymchwil i mewn i faesydd gwahanol a phan fyddi di’n barod, cer amdani!

​

Business Conference
Curriculum Vitae

Bydda’n garedig...

Rheol sylfaenol, ond pwysig! Mae gormod o bobl yn anghofio hyn, ond mae bod yn garedig yn gallu dy gario di’n bell. Mae nifer yn camddeall caredigrwydd fel rhyw wendid a’r awydd i blesio eraill, ond y gwirionedd yw bod caredigrwydd yn arwydd o drugaredd a chryfder. Mae’n dangos bod ots a pharch gen ti tuag at dy gyd-weithwyr, ac mae hynny’n hynod o werthfawr.

Dathla bob llwyddiant!

Cofia ddathlu dy lwyddiannau, waeth pa mor fawr neu fach! Wrth i ti anelu am y llwyddiannau mawr, rhaid dathlu’r llwyddiannau bach hefyd. Wnes di lwyddo i glirio dy flwch e-bost? Rwyt ti’n haeddu paned! Wnes di fynd i gyfarfod ac aros yn effro drwy’r cyfan? Wel, rhaid cael cacen gyda’r baned! O ddifrif, os wyt ti’n gwneud rhywbeth sy’n teimlo fel llwyddiant bach i ti, mae hynny’n haeddu dathliad bach. A chofia ddathlu llwyddiannau dy gyd-ferched yn y gweithle, hefyd. Mae ambell i faes yn gallu bod yn llefydd digon heriol i ferched, felly cefnogwch eich gilydd!

​

bottom of page