top of page
Annibyniaeth ar Gyllideb
Wel, dyma ni wedi cychwyn ar dymor yr Hydref!
Yn ôl chi’r ddarllenwyr, mae nifer fawr ohonoch yn mentro oddi gartref am y tro cyntaf eleni, boed hynny i’r brifysgol neu i’r coleg, neu’n edrych ymlaen at fwy o annibyniaeth ariannol mewn ffordd wahanol. Gyda hynny daw cyffro, ond mae’n gallu bod yn gyfnod reit heriol. Sut mae mynd o ddibynnu ar eraill, bron heb sylwi, i orfod rheoli eich gwariant a’ch cyllideb eich hunain?!

1. Gosod dy gyllideb
Dyma ddwy dasg anodd iawn - gosod cyllideb ac yna cadw ar y gyllideb yn gyson! Mae llunio cyllideb yn syniad synhwyrol ac mae ei osod yn gallu bod llawer fwy o hwyl ‘na chadw o fewn y cyfyngiadau. Tebygol iawn ydi mynd dros y gyllideb ambell i waith, yn arbennig wrth i ti arfer ar y cychwyn, ond fyddi di’n siŵr o ffeindio dy draed mewn da bryd.
Mae sawl ffordd i greu cyllideb, gyda rhai un ffafrio cynllunio mewn dyddiadur neu lyfr nodiadau tra bod eraill yn ffans mawr o dechnoleg a thaenlenni. Does dim ateb cywir, dim ond yr hyn sydd yn teimlo’n well i ti!
2. Edrycha ar bopeth
Wrth i ti fynd ati i greu dy gyllideb, mae’n bwysig dy fod yn ystyried popeth sy’n dod i mewn ac allan o dy gyfrif. Fel hyn, fyddi di ddim yn cael dy frathu gan bil annisgwyl! Cofia nodi’r holl hanfodion bydd yn rhaid i ti wario arnynt, fel bwyd, rhent, offer a llyfrau, nwyddau hylendid, ac ambell i dêc-awê bob hyn a hyn. Os wyt ti’n gyrru, efallai bydd rhaid i ti gynnwys y costau cysylltiedig neu gostau dy ffôn lôn, a phaid anghofio am unrhyw danysgrifiadau!
3. Coginio
Dyma ble fydd y rhan fwyaf o dy wariant yn digwydd! Mae bwyd yn gostus, yn ddrytach nag erioed bellach ac os wyt ti’n mwynhau rhyddid ariannol am y tro cyntaf, yna mae trefnu bwyd a choginio yn gallu dy faglu. Tra bod têc-awês yn ddeniadol dros ben, maen nhw hefyd yn gostus a pethau-bob-hyn-a-hyn ydyn nhw - os wyt ti eisiau aros o fewn dy gyllideb, hynny yw!
Cyn mynd i siopa am fwyd, ymchwilia i mewn i’r ryseitiau rwyt ti awydd eu coginio. Does dim byd gwaeth ‘na mynd i siopa heb restr a phrynu gymaint o fwyd hollol random ble does dim modd eu coginio mewn un rysáit iachus! Mae rhestr gall yn dy roi ar ben ffordd, ond mae o hefyd yn rhoi mwy o amser i ti feddwl am y gost a chymharu prisiau cynnyrch. Os wyt ti’n hynod, hynod o drefnus fedri di amcangyfrif y pris o flaen llaw drwy edrych ar-lein, ond mae rhestr fel arfer yn ddigon i dy gadw ar y trywydd cywir.
4. Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Wyt ti’n gymwys am arian ychwanegol, a’r cyfan sydd rhaid i ti wneud ydi llenwi ffurflen a’i yrru? Wyt ti wedi bod yn meddwl am wneud ers tro, ond mae rhywbeth arall wastad yn codi ei ben? Wel, mae hen bryd i ti rhoi cynnig arni! Pwy â ŵyr, efallai daw’r arian yna yn handi iawn pan fyddi di wedi gwario gormod ar têc-awês hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!


5. Gweithgareddau am ddim
Os wyt ti mewn ardal newydd sbon, efallai byddi di’n awyddus i archwilio dy ardal leol newydd. Cychwynna gyda’r hyn sydd am ddim - mynd i’r parc gwledig lleol, ymweld ag amgueddfa neu oriel... Does dim rhaid i ti wario er mwyn joio!
Mae gymaint o bethau ar gael i ti am ddim, ac mae hynny’n cynnwys llyfrgelloedd. Os wyt ti angen llyfr penodol ar gyfer astudio dros gyfnod o flynyddoedd, mae’n gwneud syniad i ystyried buddsoddi mewn copi personol. Os felly, chwilia am un ail law yn gyntaf! Ond, os wyt ti angen llyfr dros dro am brosiect penodol, mae’r llyfrgell yn opsiwn gwych ar gyfer arbed arian - a lle i storio’r holl lyfrau! Mae’n le da hefyd i astudio os wyt ti angen newid golygfa newydd am ychydig oriau, ac yn llawer gwell ‘na chaffi ble rwyt ti’n cael dy ddenu gan goffis drud!
Oes gen ti syniadau i’w rannu? Anfona dy awgrymiadau a wnawn ni eu rhannu ar ein cyfrifon cymdeithasol.
bottom of page







