top of page

Anghofia’r Addewidion!

Sawl person sydd wedi holi ti am dy addewidion yn barod eleni, a hithau ond yn ail ddiwrnod 2026?

Wel, os nad wyt ti wir eisiau gosod adduned, paid! Os wyt ti eisiau dewis adduned i gau ceg y rhai sy’n holi, dewisa un o’r detholiad isod:

 

New Year

1. Paid â gosod adduned does dim posib i ti ei gadw. Dwyt ti ddim angen y straen!
2. Osgoi gwastraff bwyd - bwyta’r paced cyfan o fisgedi.
3. Os wyt ti’n cychwyn talu bob mis i fynd i’r gym, rho atgoffwr yn dy ffôn i’w ganslo pan nad yda chi’n mynd ymhen ychydig wythnosau.
4. Gwertha’r esgidiau anghyfforddus... Ia, y rhai dwyt ti byth yn gwisgo ond yn eu cadw rhag ofn.
5. Gwertha’r esgidiau anghyfforddus... Ia, y rhai dwyt ti byth yn gwisgo ond yn eu cadw rhag ofn.
6. Dad-ddilyn pobl dwyt ti ddim gwirioneddol eisiau dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
7. Trio têc-awê newydd y penwythnos nesaf.
8. Taflu’r bocs pan wyt ti’n cael ffôn lôn newydd.
9. Tynnu hunlun bob dydd.
10. Darllen mwy (o erthyglau Lysh).

 

11. Darllen mwy (mynd a llyfr am dro yn y bag ac anghofio ei ddarllen).
12. Prynu’n ail law (a brolio’n ddiddiwedd bod dy wisg newydd yn ail law).
13. Ond yfed coffi ar ddyddiau sy’n cychwyn gyda “Dydd”.
14. Mynd allan o’r tÅ· yn fwy aml.
15. Ymchwilio ryseitiau ceirch dros nos. Gwneud ceirch dros nos. Anghofio bob dim am y ceirch dros nos.
16. Ymarfer dweud “na” i bethau dwyt ti ddim eisiau gwneud.
17. Hawlio dy le.
18. Deffro’n gynt.
19. Deffro’n hwyrach.
20. Torri bob addewid cyn diwedd y mis.

 

New Year Countdown

Felly, cer amdani i ddewis addewid hollol boncyrs. Wedi’r cyfan, mae’r syniad o addewidion yn boncyrs yn ei hun, dydi?!
 

bottom of page