top of page

Amser Ti

Woman Reading Notebook

Amser i ti dy hun... Dydi o ddim yn dod yn aml, a phan ddaw'r cyfle i wneud rhywbeth i ti dy hun mae’n anodd dewis beth i wneud yn gyntaf!

‘Da ni’n byw mewn oes ble mae pawb a phopeth yn mynnu dy sylw. Os nad oes traethawd i’w gwblhau, mae golchi i’w wneud - a phaid â sôn am y negeseuon sy’n aros yn eiddgar i ti eu hateb. Mae pawb angen popeth ddoe, ond weithiau mae’n rhaid cau'r drws ar y byd a chanolbwyntio ar y peth mwyaf pwysig, sef ti.

Pan ddaw’r amser i ymlacio, hawdd iawn ydi mynd i deimlo’n euog, gyda’r holl jobsys bach yn pigo dy gydwybod yn ddistaw bach. Ond, wyddost ti, mae cael ychydig o amser i ti dy hun yr un mor gynhyrchiol ‘na gwneud yr holl bethau ar y rhestr tŵ-dŵ? I ddweud y gwir, mae cymryd saib mwy ‘na thebyg yn mynd i dy helpu di i weithio trwy’r rhestr llawer cynt!

 

Rhedeg heb betrol

Fysa ti ddim yn rhedeg car heb betrol (neu disel, neu drydan...), na fysat? Wel, mae amser i ti dy hun er mwyn edrych ar ôl dy hun (bwyta bwyd da, cysgu, ychydig o gelf os wyt ti ffansi) yn danwydd i dy gorff, felly mae’n gwneud sens i lenwi dy danc, dydi?

Does dim byd hunanol am warchod dy amser personol di - mae’n beth iach a llesol i wneud, yn union fel mynd i’r gampfa a gwneud yn siŵr dy fod yn bwyta’r pethau cywir. Mae’n hawdd teimlo’n euog drwy warchod y llinell derfyn hynny, neu dweud “na” wrth gyfle i gymdeithasu er mwyn bod ar dy hun yn ymlacio, ond ar ôl ychydig o ymarfer bydd adnabod pryd wyt ti wirioneddol angen saib yn dod yn haws.


Sŵn

Mae’r byd yn gallu bod reit swnllyd weithiau, ac efallai nad wyt ti’n sylweddoli hynny bob tro. Weithiau, pan fyddi di’n cael distawrwydd a llonyddwch am y tro cyntaf ers sbel, ti’n dod i sylweddoli pa mor swnllyd oedd pethau!
 

Listening to Music_edited.jpg
Reading While Relaxing

Mae’r distawrwydd hynny’n bwysig, gan ei fod yn rhoi amser i ti feddwl, ac mae meddwl yn gallu cryn dipyn o amser. Er nad yda ni o reidrwydd yn “gwneud” unrhyw beth wrth feddwl, mae pylu ychydig o’r sŵn o’n cwmpas (yr hysbysiadau ar y ffôn, clebran y teledu, gwaith ac ati) yn rhoi cyfle i ti feddwl am bethau sydd wir yn haeddu dy sylw.

Amser ti... ti!

Does dim ffordd gywir o dreulio dy amser personol di - ti sy’n gwybod beth sy’n gweithio orau i dy helpu i ymlacio!

Fydd rhai yn hoff iawn o ddarllen, ac yn treulio oriau mewn bydoedd gwahanol cyn dychwelyd ar ôl pennod (neu chwech). Fydd eraill yn estyn am y gwau, neu’n tanio’r cyfrifiadur i chwarae gêm. Does dim angen i ti feddwl am ddim byd mawr i wneud pan fyddi di’n dod o hyd i boced o amser rhydd, dim ond gwneud yr hyn rwyt ti’n ei fwynhau.

 

bottom of page