top of page
Alis Glyn:
Brenhines Jazz Pop

Yn tarddu o Gaernarfon, mae Alis Glyn yn enw cyfarwydd ar lwyfannau ledled Cymru. Gyda’r band Jazz-Pop, sydd yn cynnwys Nel, Sioned a Cat, mae’r artist ifanc yn adrodd hanesion yn ei chaneuon, y straeon y gweddu i greu delwedd swynol.
Yn dilyn llwyddiant ei sengl ddiweddaraf, Rhosyn Pinc, bachodd Lysh ar y cyfle i holi Alis yn dwll am ei gyrfa gerddorol.
Lysh Cymru: Beth sydd yn dy ysbrydoli di pan ti'n cyfansoddi? A be sy'n dueddol o ddod gyntaf i ti, y geiriau neu'r alawon?
Alis Glyn: Dwi’n hoffi cyfansoddi am brofiadau dwi’n cael bob dydd, wrth neud hynny mae o’n haws dod o hyd i eiria! Gan amlaf yr alaw dwi’n cael gyntaf neu batrwm o gordiau dwi’n hoffi.
LC: Oes gen ti fand neu artist sydd yn dy ysbrydoli?
AG: Dwi’n hoff iawn o Olivia Dean, Martha Elen, Mared Williams a Jackie Evans! Dwi wrth fy modd efo steil eu caneuon nhw a’r ffordd maen nhw’n neud i fi ymlacio yn llwyr :)
LC: Oes gen ti hoff le i ymarfer?
AG: Yn bersonol, dwi’n hoffi cael llonydd pan dwi’n ymarfer a gan amlaf yn y stafell fyw dwi’n hoffi bod wrth y piano. Dwi’n hoffi edrych allan drwy’r ffenest i gael ysbrydoliaeth wrth sgwennu rhai caneuon hefyd!
LC: Mae rhyddhau cerddoriaeth, neu unrhyw waith creadigol i ddweud y gwir, yn gallu bod yn brofiad reit bersonol, dydi? Sut brofiad ydi o i ti i ryddhau cerddoriaeth i'r byd?
AG: Dwi wrth fy modd yn rhyddhau caneuon! Er bod o’n gallu bod yn eithaf dychrynllyd weithiau dwi’n hoffi gweld faint dwi wedi datblygu fel artist fesul cân! Dwi hefyd yn hoffi bod recordio a rhyddhau caneuon yn dangos fy ngwaith caled i berffeithio’r gân a’i chreu hi!


LC: Pa gân ydi dy hoff gân yn y byd?
AG: Un o fy hoff ganeuon i ydi ‘And I love you so’ gan Don McLean. Wnes i ddotio at y gân yma y tro gyntaf i mi wrando arni! Mae hi mor hyfryd o syml a dwi byth yn diflasu arni!
LC: Mae dy ganeuon yn glir yn perthyn i’r genre Jazz Pop, gyda naws ymlaciol lyfli. Beth sydd yn dy ddenu di i'r genre yma?
​
AG: Dwi’n rili mwynhau gwrando ar ganeuon Jazz Pop a’r rhythmau maen nhw’n defnyddio! Dwi’n teimlo bod y caneuon mor hawdd i wrando arnyn nhw a bod y ‘feel good vibe’ yno o hyd.
LC: Oes gen ti gigs neu gynlluniau cyffrous ar y gweill?
AG: Dwi newydd ddechrau astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ac wrth fy modd yn dysgu am gyfansoddi a phob math o arddulliau gwahanol. Dwi’n edrych 'mlaen at gig sgen i wythnos nesaf yn ‘Paradise Garden’ yn y Rhath ac wedyn gig yng Nghonwy yn cefnogi Mared Williams ar Ragfyr y 5ed.
bottom of page







