top of page
Ailosod dy Ofod

Gyda chyhydnos y Gwanwyn y tu ôl i ni bellach, mae'n amser dathlu'r dyddiau'n ymestyn! Cyfle i fynd am dro gyda'r nos, adar yn dy gyfarch wrth i ti ddeffro... Mae popeth i'w deimlo'n haws adeg yma'r flwyddyn, dydi?
Wyt ti wedi teimlo'r awydd i lanhau a sortio dy ofod yn ddiweddar? I rai, mae'r gwanwyn yn arwydd o flwyddyn newydd "go iawn", sef yr amser delfrydol i wneud yr addunedau ag addawyd ym mis oer a thywyll Ionawr. Wedi'r cyfan, mae'n haws rhoi cynlluniau ar waith pan fo'r amgylchiadau yn fwy ffafriol, dydi? Hynny yw, os wyt ti'n dewis gwella dy iechyd fel adduned, fysa'n well gen ti fynd i gerdded yn yr oerni (ar ôl chwilota am oriau am bâr call o fenyg) neu gychwyn ar y droed gywir o dan awyr las mis Mawrth?
Un arfer adeg yma'r flwyddyn sy'n gyfarwydd i nifer ydi glanhau, neu "spring cleaning". Mae rhai yn teimlo awydd llethol i lanhau a thacluso o dop i'r gwaelod, tra bod eraill yn chwilota'n bob man am yr amynedd i estyn yr offer glanhau! Sut bynnag berson wyt ti, mae un peth yn sicr - rwyt ti'n haeddu gofod sydd yn gwneud i ti deimlo'n ddiogel ac yn hapus!
Felly, oes wyt ti'n teimlo'r awydd i lanhau ac ailosod dy ofod, dyma gwpwl o syniadau ar sut i gyflawni dy glydfan berffaith!
Planhigion
Credai rhai bod planhigyn yn gallu trawsnewid ystafell, ond rhaid i ni dy rybuddio; mae prynu planhigion yn gallu bod yn beryg. Hawdd iawn ydi cychwyn gydag un planhigyn a diweddu gydag ystafell sy'n edrych fel canolfan arddio!
Gyda phlanhigion yn dy ofod, byddi di'n derbyn sawl budd. O ansawdd aer gwell i wella ansawdd cwsg, mae planhigion gwahanol yn cynnig buddion gwahanol. Heb anghofio eu bod nhw'n edrych yn lyfli!
Wyt gen ti dalent am ladd planhigion heb drio? O ti'n gwybod bod yna rhai planhigion sydd mor galed a chryf mae bron yn amhosib i'w difa, hyd yn oed i'r rhai mwyaf talentog yn ein plith? O gactws i blanhigyn neidr, mae yna blanhigyn i bawb.


Goleuadau
Er bod golau dydd yn ymestyn bob dydd, mae gwahanol fathau o olau yn dy glydfan dal yn bwysig!
Yn union fel planhigion, mae yna olau perffaith i bawb. Efallai dy fod yn un am oleuadau tylwyth teg (sydd ddim yn olau Nadolig yn unig!) neu efallai byddi di'n ffafrio goleuadau lliwgar. Mae'r golau cywir i ti yn gallu trawsnewid dy ofod a dy deimladau, felly paid ag anwybyddu'r cam yma o ailosod dy ofod.
Os wyt ti ddigon ffodus gyda golau dydd sy'n dod trwy'r ffenestri, gwna'r mwyaf ohono! Paid â chau'r llenni yn rhy gynnar gyda'r nos ac agora'r llenni mor fuan â phosib - mae gweld golau dydd yn arwydd i dy gorff ei bod hi'n amser deffro go iawn!
Trysorau
'Da ni'n byw mewn byd ble mae geiriach addurno ymhob man, yn ddeniadol ac yn ddigon rhad. Rhy hawdd ydi prynu potyn ciwt neu gannwyll (neu dri) pan fyddi di'n siopa bwyd, ond y gwir amdani ydi dydi'r "stwff" yma'n golygu dim i ni ac, yn y pendraw, maen nhw'n hen bethau niwsans er mwyn hel llwch.
Dyda ni ddim yn awgrymu peidio addurno eich gofod o gwbl, yn hytrach addurnwch eich gofod gyda thrysorau sy'n golygu rhywbeth i chi - y pethau dyda chi ddim yn meindio dystio! O luniau ffrindiau a theulu i anrhegion o bedwar ban byd, amgylcha dy hun gyda thrysorau sy'n gwneud i ti wenu.

bottom of page
