top of page

AI a’r Iaith Gymraeg

AI.png

Mae byd deallusrwydd artiffisial, neu artificial intellienge, yn faith, ac yn tyfu o hyd.

Er bod y cynnydd yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn gallu bod yn frawychus, mae datblygiadau dal i deimlo’n bell i ffwrdd o Gymru. Wedi’r cyfan, pan fo sgamwyr yn ceisio manteisio arnom gydag e-bost sydd wedi’i gyfieithu gyda theclynnau cyfieithu artiffisial, dydi dod o hyd i wallau yn fawr o her!

Does dim dwywaith bod datblygiadau technoleg yn symud yn sydyn, yn disodli cyfathrebiad dynol. Wedi’r cyfan, mae aps ar gyfer cynnig therapi artiffisial bellach yn bodoli. Mae yna aps artiffisial sy’n cynnig cyngor ariannol ac iechyd, hyd yn oed! Weithiau, da ni’n defnyddio deallusrwydd artiffisial heb sylwi, fel gyda aps sy’n helpu ni i ddysgu ieithoedd gwahanol drwy gasglu data er mwyn cynnig profiad wedi ei bersonoli. Er bod deallusrwydd artiffisial yn gallu hwyluso ein bywydau, mae’n hollbwysig troedio’n ofalus a chofio na ddylai deallusrwydd artiffisial disodli cyfathrebiad go iawn!

 

Gyda’r holl dechnoleg sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial, mae sawl cwestiwn yn codi. Ydi deallusrwydd artiffisial yn mynd i ddisodli swyddi pobl go iawn? Oes yna beryg y bydd pobl yn dibynnu arno ormod? Beth fyddai’n digwydd pan mae’n dod i greadigrwydd, a sut fydd yr iaith Gymraeg yn cael ei effeithio yn yr holl ddatblygiadau? Sut mae mynd ati i reoli’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial? Mae’n teimlo fel bod mwy o gwestiynau nag atebion, ac i bwy ddylwn i ofyn?

Wel... beth am ofyn i declyn deallusrwydd artiffisial?


Lysh: Pa effaith gall deallusrwydd artiffisial yn ei gael ar yr Iaith Gymraeg?

Deallusrwydd artiffisial: Mae deallusrwydd artiffisial eisoes wedi cychwyn siapio sawl agwedd o fywyd modern, o’r ffordd rydym yn gweithio i’r ffordd rydym yn cyfathrebu. Wrth ystyried yr Iaith Gymraeg, mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig potensial sylweddol ond hefyd sawl her. Un o’r ffyrdd mae deallusrwydd artiffisial yn gallu cefnogi’r iaith Gymraeg ydi trwy gynnig hygyrchedd. Mae teclynnau deallusrwydd artiffisial fel adnabod lleferydd, testun-i-leferydd, a chyfieithu cyflym yn gallu gwneud yr iaith Gymraeg yn fwy hygyrch, ar gyfer siaradwyr Cymraeg brodorol a dysgwyr.
 

Programming Console
Laptop

Lysh: Mae teclynnau cyfieithu cyflym yn wych i raddau, ond maent yn cynnig cyfieithu anghywir yn aml. Onid ydi o’n well defnyddio cyfieithwyr Cymraeg go iawn yn hytrach ‘na dibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial?

DA: Rwyt ti’n llygad dy le, mae yna gyfyngiad i declynnau cyfieithu cyflym, yn arbennig pan mae’n dod i gyfieithu ieithoedd sydd gyda dyfnder diwylliannol fel y Gymraeg. Tra bod teclynnau cyfieithu cyflym yn ateb cyfleus ar gyfer cyfieithu sydyn, dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer pynciau sensitif neu broffesiynol a dydyn nhw ddim yn gallu cymryd lle cyfieithwyr go iawn. Ar gyfer busnesau a sefydliadau, cyflogi cyfieithwr go iawn yw’r ffordd orau o sicrhau ansawdd a chywirdeb ieithyddol.

Lysh: Oes yna beryg i ddeallusrwydd artiffisial niweidio creadigrwydd?

DA: Oes, mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i gyfyngu creadigrwydd mewn sawl ffordd, yn arbennig os daw deallusrwydd artiffisial yn fwy poblogaidd neu yn cymryd lle ffyrdd dynol o fynegiant.
 

"Wel, mae’n deg i ddweud bod y teclyn deallusrwydd artiffisial ei hun yn cytuno nad ydi datblygiadau mewn technoleg yn gallu disodli pobl go iawn a chyfathrebiad rhwng pobl. Ond, dydyn ni heb gyffwrdd eto ar yr effaith amgylcheddol. Hawdd yw tybio nad ydi deallusrwydd artiffisial yn dylanwadu ar yr amgylchedd – wedi’r cyfan, dydi o ddim yn wrthrych sy’n achosi gwastraff gweledol. Yn hytrach, mae deallusrwydd artiffisial yn gofyn am swm mawr o egni i’w gynnal, ei ôl-troed caron yn fwy ‘na’r disgwyl i’r defnyddwyr.
 
Beth wyt ti’n feddwl? Wyt ti’n defnyddio deallusrwydd artiffisial, neu oes well gen ti ei osgoi am y tro? Wyt ti’n gwybod am yr effaith amgylcheddol sy’n dod gyda defnyddio deallusrwydd artiffisial? Rho wybod i ni drwy anfon neges!"

 

bottom of page