top of page
10 Mlynedd o Ddydd Miwsig Cymru!

Dydd Miwsig Cymru hapus i chi! Eleni, mae’r ŵyl yn dathlu 10 mlynedd o gigs a dathlu gyda hyd yn oed mwy o gigs a digonedd o sŵn.
Band sy’n dychwelyd i berfformio eleni ydi Cordia, ffrindiau oes sydd wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd ers eu harddegau. Cewch gyfle i wylio Cordia ar nos Sadwrn, yr 8fed o Chwefror 2025, yng Ngwesty’r Bull, Llangefni. Ond, tan hynny, dewch i ni ddod i adnabod y tair yn well...
​
Lysh Cymru: Mor lyfli siarad efo chi, a diolch am gytuno i ateb ychydig o gwestiynau i ni! Y cwestiwn cyntaf ydi; ers pryd ydau chi wedi bod yn perfformio efo’ch gilydd?
Manon: Croeso siŵr! Da ni wedi bod yn canu hefo’n gilydd ers oeddan ni’n tua 15 i 16 oed, yn perfformio mewn gigs bach a chyngherddau ac ati. Wedyn mi wnaethom gystadlu ym Mrwydr y Bandiau yn 2015 a chael perfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod wrth gyrraedd y rownd derfynol!
LC: Be ydi’r peth gorau am berfformio fel triawd gyda’ch gilydd?
Manon: Y peth gorau ydi ein bod ni wirioneddol yn mwynhau ac yn ffrindiau oes, felly mae ymarferion, recordio a pherfformio yn rhywbeth da ni’n mwynhau oherwydd ein bod ni hefo’n gilydd.
LC: Beth yw eich hoff gân i berfformio?
Ffion Elin: Allan o’r tair sengl newydd, da ni'n licio perfformio ‘Chei Di Fyth’, ond o ran hen ganeuon mae ‘Dim Ond Un’ a ‘Dyddiau’r Haf’ bendant yn ffefrynnau. Mae 'na un newydd ar y ffordd lle mae’r band i gyd yn mwynhau ora’, ond mi fydd rhaid i chi gadw llygaid allan i’r chlywed hi!


LC: Edrych ymlaen at glywed honno! Pwy sy’n ysgrifennu’r caneuon?
Manon: Ffion Elin a Rhys fydd yn ysgrifennu a gwneud y gerddoriaeth hefyd!
Ffion Elin: Mae Ffion a Manon wastad yn cynnig syniadau hefyd o gerddoriaeth maen nhw wedi gwrando arno, syniadau am gynnwys caneuon ac mae hynny wedi ysbrydoli sawl cân dwi’n ‘sgwennu.
LC: Mor lyfli eich bod yn ysbrydoli’ch gilydd! Be arall sy’n ysbrydoli’r caneuon?
Ffion Elin: Da ni wedi bod yn gweithio ar y caneuon newydd ers tua blwyddyn bellach ac mae’n ddiddorol sut mae sefyllfa bywyd personol rhywun yn gallu dylanwadu naratif geiriau caneuon. Mae lot wedi digwydd i ni'n tair dros yr 8 mlynedd diwethaf’ ac mae’r caneuon newydd yn bendant cyffwrdd ar ein profiadau bywyd yn y cyfnod yna. Pan oeddem ni’n 18, nid oeddem yn ‘sgwennu lot am berthnasau, cariadon a hogia' ond dwi’n meddwl bod hynny’n reit amlwg yn y caneuon newydd! Wrth gyfarfod am y tro cyntaf eto fis Mawrth 2024, nes i eistedd lawr efo’r genod a gofyn “Reit, be da ni isio canu am tro yma?” ac yn ddiddorol iawn, petha’ oedd wedi digwydd i ni yn y cyfnod yna o 8 mlynedd oeddem ni’n drafod.
LC: Oes gyna chi gigs ar y gweill eleni?
Ffion Wynn: Oes! Dipyn o gigs yn dod i fyny, yn cychwyn efo cwpwl o rai lleol i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Da ni’n edrych ymlaen at gychwyn gigio efo’n gilydd eto fel band, yn enwedig pan fydd yr albwm newydd allan hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!
LC: Edrych ymlaen at glywed chi dros y misoedd nesaf! Os fyswch chi’n gallu perfformio ar unrhyw lwyfan yn y byd, ar ba lwyfan yda chi’n licio perfformio?
Ffion Wynn: Llwyfan y Maes a Glastonbury!
​
LC: Y cwestiwn olaf... ffasiwn! Be ydi’ch tips chi ar gyfer y wisg gigio a pherfformio gora?
Ffion Elin: Rhywbeth cyfforddus - da chi isio teimlo mor hyderus â phosib ar lwyfan. Da ni’n dueddol o wisgo heel bach sydd yn helpu hyder rhywun hefyd.
_edited.jpg)
Manon: Hefyd cael rhywbeth sy’n cyd-fynd! Da ni licio meddwl ein bod ni’n dwt a thaclus... yn ogystal â bod yn gyfforddus! Mae cyd-fynd efo’r tymhorau yn helpu, yn enwedig pan mae hi’n oeri!
Ffion Wynn: Unrhyw beth da chi’n gyfforddus yn wrth ganu ar lwyfan, ac ella bach o liw neu glitz neith sefyll allan!
bottom of page