y Bêl gron a'r geNOD



Mae pêl-droed wedi dod yn rhan fawr o fywyd cyfoes Cymru. Ac ar ôl buddugoliaeth hanesyddol y tîm dynion nos Sul, bydd y son am y bêl gron ym mhob man wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
Pan mae gem fawr yn cael ei chwarae mae pawb yn gwybod amdani ac mae Cymru gyfan yn troi i fod yn dorf o hetiau bwced a phawb o bob cefndir yn gyfarwydd efo enwau’r chwaraewyr.
Wyddoch chi, yn 1922 fe wnaeth Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (neu’r FAW) wahardd merched rhag cymryd rhan mewn unrhyw gêm bêl-droed? Er bod rhai yn son bod gemau merched wedi bod yn llawer mwy poblogaidd na gemau’r dynion yn ystod y cyfnod yma, aeth y gymdeithas ymlaen efo’u penderfyniad a gafodd hynny effaith mawr ar boblogrwydd y gêm yn gyffredinol am ddegawdau.
Wrth neidio ymlaen i 2016, cyrhaeddodd tîm dynion semi-ffeinal yr Ewros a dyma, i sawl ffan modern pêl-droed Cymru, wnaeth ddeffro'r diddordeb a’r dathlu.
Mae’n amlwg bod achlysuron fel gemau rhyngwladol pêl-droed wedi esblygu. Ambell ddegawd yn ôl, roedd pêl-droed yn hynod o bwysig i ffans angerddol yn unig, gyda’r stereoteip o ddynion yn gwylio’r gêm dros beint. Bellach, mae’r gamp wedi agor ei freichiau i fwy a mwy o bobl. Heddiw, mae’n gêm genedlaethol gyda phawb o bob tras yn clodfori timau Cymru.
Ond, ydi pêl-droed yn fwy na jest gêm o gicio pêl rownd cae? Oes rhywbeth mwy na dau dîm yn ymladd am gôl? Ble mae wir ysbryd pêl-droed yn gorwedd? Creda rhai bod y gêm yn fwy ‘na jest cystadleuaeth sgorio gôls, gan son mai’r dorf sy’n gyfrifol am y bwrlwm a’r brawdgarwch. Wel, mae Lysh Cymru wedi mynd i holi merched Cymru am eu barn nhw.

Oddi ar dudalen Twitter @Cymru

(h) Steindy, Wikipedia
Heledd, Llanrwst
“Dwi wrth fy modd yn gwylio’r gemau, ond dwi’n teimlo weithiau nad ydi o’n deg fod gemau pêl-droed merched yn cael yr un sylw. Bydd unrhyw yn un adnabod enwau o leiaf llond llaw o chwaraewyr y tîm dynion, ond dim dyma yw’r achos pan mae’n dod at y merched. Maen nhw’n haeddu'r un hype, hype cyfartal! Mae gan y cyfryngau rôl hanfodol mewn gwireddu hyn, dwi’n meddwl.
Mi fydda i yn mynd allan i wylio’r gêm ac yn joio a dathlu be bynnag fydd y canlyniad. Mae timau Cymru wedi dod yn bell iawn, felly mae’n hynny’n achos dathlu, bendant.”
Erin, Benllech
“Bod yng nghanol y dathlu sy’n bwysig i fi. Dydi’r gêm ddim mor bwysig â hynna rili. I fi, esgus ydi o i fod efo ffrindiau, yn dathlu ac yn canu a jest cael hwyl! Mae o’n braf iawn cael bod efo’n gilydd unwaith eto, a rhywsut mae achlysur fel hyn, fel gêm pêl-droed, yn fwy melys rŵan nag oedd o arfer bod. Mae rhywun yn dal arno’n dynnach i amseroedd da dyddiau yma, dydyn?”
Glesni, Caerdydd
“Dwi ddim rili’n gwylio pêl-droed. Dwi yn adnabod enwau’r chwaraewyr, ond mae hynny ond oherwydd bod hysbysebion yn bob man a bod pawb arall yn siarad amdanyn nhw! Na, tydw i ddim yn ffan fawr a fydda i ddim yn ei wylio nac yn dathlu ond mae rhywbeth neis mewn gwylio eraill yn mwynhau ac yn dod at ei gilydd a jest joio mwy na dim byd.”
Cara, Caerdydd
“Dwi’n smalio ‘mod i’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen, ond i fi ma’ fe’n esgus mynd mas i ddathlu! Mae gen i’r bucket hat eiconig, wrth gwrs. Nes i gael un sawl blwyddyn nôl a ma’ fe dal gyda fi!”
Ceindeg, Ynys Môn
“Roeddwn i arfer gwylio pêl-droed lot pan on i’n fach efo fy nheulu, felly heddiw dwi’n gwylio’r gemau am resymau sentimental mwy na dim byd. Fydda i bob tro yn cefnogi Cymru, ond tydw i ddim yn cymryd canlyniadau gwael i galon rili. Jest gem ydi o ar ddiwedd y dydd!”

