top of page

- Harddwch Mewn Amrywiaeth

Wythnos Niwroamrywiaeth

Mae pob un ohonom ni yn unigryw a rydym yn meddwl, yn prosesu gwybodaeth ac yn cyfathrebu mewn amryw o ffyrdd gwahanol.

Yn ystod Wythnos Cenedlaethol Niwroamrywiaeth, dyma gyfle i ni ddathlu’r harddwch sydd mewn gwahaniaeth, i godi ymwybyddiaeth am yr heriau a’r doniau sy’n dod law yn llaw gyda niwroamrywiaeth a sut i gefnogi ein ffrindiau ac eraill o’n cwmpas.

Niwroamrywiaeth yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amryw o bethau, gan gynnwys Dyslecsia, Awtistiaeth ac ADHD. Yn ôl y wefan neurodivergencyweek.com, mae oddeutu 15-20% o’r boblogaeth yn niwroamrywiol ac felly mae’n ddigon posib eich bod chi’n adnabod unigolion sydd â chyflwr niwroamrywiol, boed nhw yn eich ysgol neu’n perthyn i chi.

 

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Efallai y byddwch chi wedi gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, yn bennaf TikTok ac Instagam, fod sawl trafodaeth am niwroamrywiaeth yn ddiweddar a fideos yn cael eu uwchlwytho gyda negeseuon fel; “Efallai fod gennyt ADHD os - ” neu “Dyma ddydd ym mywyd person gydag Awtistiaeth”. Yn y fideos byr yma, maent yn egluro eu symptomau a sut mae hyn yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. 

Mae’r fideos yma yn gallu bod o gymorth i nifer ond, fel sawl cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid ymdrin â’r rhain yn bwyllog iawn. Mae’r cynnwys yn gallu bod yn destun poendod ac yn peri gofid i rai.

Bydd rhai yn adnabod y symptomau sy’n cael eu trafod arlein yn eu hunain ac efallai bydd rhai yn mynd ymlaen i dderbyn diagnosis proffesiynol. Mae canfod diagnosis proffesiynnol yn bwysig er mwyn sicrhau eich bod chi a’r rhai o’ch cwmpas yn gwybod sut i ymdrin â hyn a sut i gefnogi.

 

Mae ambell un yn adnabod y symptomau yn eu hunain ddim yn mynd ymlaen i ganfod diagnosis proffesiynol ac yn cadw eu poendod i’w hunain. Mae hyn yn broblem, oherwydd mae’n gallu golygu fod unigolion yn dioddef yn ddiangen. Efallai fod unigolyn niwroamrywiol heb ddiagnosis yn methu allan ar fynediad i gymorth addas. 

Mae’n bwysig siarad gyda rhywun os fyddwch chi’n poeni ac mae’n bosib fod gan eich ysgol dîm bugeiliol sy’n gallu cynnig arweiniad. Mae’n bosib mynd i’r meddyg teulu os ydych chi’n credu bod rhai o’ch symptomau yn symptomau niwroamrywiol. Efallai y cewch chi ddiagnosis ac yna’n derbyn y cymorth priodol gan gynnwys cymorth addysg. Ar y llaw arall, os na fyddwch chi’n derbyn diagnosis wrth ymweld â meddygon proffesiynol, gallai hynny roi mymryn o dawelwch meddwl i chi.

 

Cefnogi Eraill

Tybed, ydach chi’n adnabod unigolyn niwroamrywiol?

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut i gefnogi ein ffrindiau. Efallai na fydd eich ffrind eisiau trafod gyda chi, ac mae hynny’n iawn. Yn yr achos yma, rhowch amser ac amynedd iddyn nhw.

Cofiwch, rydym ni i gyd yn wahanol. Mae hyn yn wir hefyd am unigolion sydd yn niwroamrywiol. Mae’n bosib eich bod chi’n adnabod mwy nag un person gyda ADHD, er enghraifft, ond fydd y bobl yno’n hollol wahanol i’w gilydd o ran eu doniau a’u heriau.

Mae’n bwysig hefyd cofio mai nid gwendid ydi niwroamrywiaeth. Mewn gwirionedd, mae unigolion niwroamrywiol yn edrych ar y byd mewn ffyrdd gwahanol, yn greadigol mewn ffyrdd gwahanol ac yn gallu cynnig safbwyntiau pwysig iawn fydd eraill heb ei ystyried.

 

antonino-visalli-RNiBLy7aHck-unsplash.jpg

Siarad!

Rydym ni i gyd yn gwybod fod rhannu problem gydag eraill yn hanneru’r broblem honno. Os ydych chi’n poeni, am niwroamrywiaeth neu unrhyw gyflwr neu cynnwys digidol arall, mae’n syniad da i siarad gydag oedolyn rydych chi’n ei drystio.
 

bottom of page