top of page
Silff-Mobile.png
Silff Final 2.png
tu ôl i'r awyr
Tu ol i'r Awyr - Megan Angharad Hunter.j
Awdur 
Megan Angharad Hunter
Cyhoeddwr
Y Lolfa
Dyddiad Cyhoeddi
Tachwedd 2020
Pris
£9.99

“Chwip o nofel, sydd yn sefyll mewn cae ar ei phen ei hun.”

*Rhybudd*

Mae’r nofel hon yn trafod problemau iechyd meddwl dwys, yn cynnwys hunan-niweidio.

Rydym yn byw yng nghanol pandemig- mae’r wlad o dan reolau pendant, nifer wedi cau eu drysau, wedi gohirio eu cynlluniau, wedi ail drefnu digwyddiadau. Ond wrth gwrs ma hynny’n amlwg yn dydy? Does dim angen i mi eich atgoffa am hynny nagoes?

Y gwir yw, rydym yn byw yng nghanol sawl pandemig -  efallai nad ydynt yn weladwy. Dim ond i restru un ymhlith nifer- rydym yn byw yng nghanol pandemig iechyd meddwl. Iechyd meddwl yw’r thema sydd yn sefyll allan drwy gydol nofel Megan Hunter, tu ôl i’r awyr, ond cawn hefyd gyffyrddiadau ar gyfeillgarwch ac ymddiriaeth.

Mae darllen tu ôl i’r awyr yn brofiad bythgofiadwy. Llwydda’r awdur i ddal ein lleisiau ni fel pobl ifanc, ac i adlewyrchu ein bywydau.

Cawn ddilyn teithiau Anest a Deian, wrth i’r ddau gyfarfod tra yn yr ysbyty ar ddiwedd gwyliau’r haf, wrth i’r ddau frwydro efo’u hiechyd meddwl. Maent yn cael eu carcharu ym mrwydr eu meddyliau, tra oedd pawb arall yn mwynhau ac yn partio ym maes B, ac yn meddwi o dan fachlud haul ar faes yr Eisteddfod. Ond y cwbl sydd ganddynt i’w wneud bellach yw syllu allan ar y sêr.

Ond, yn wahanol i Anest, dyw Deian ddim yn poeni am Maes B, a bydd well ganddo i gadw iddo fo ei hun, a mynegi ei deimladau trwy gelf a barddoni. Mae Deian yn gymeriad eithriadol o swil, ac nid yw’n gadael fawr o neb i mewn i’w fywyd, ac yn sicr i mewn i’w feddyliau. Er hynny, cyfaill pennaf iddo mae’n debyg heblaw am ei deulu yw Vincent Van Gogh, ac y mae’r llyfr ‘The Letters of Vincent Van Gogh’ yn agos i’w galon. Ond, a fydd creadigrwydd yn ddigon i achub Deian?

Wedi gwyliau’r haf, mae’r ddau bellach yn ddisgyblion yn yr un chweched dosbarth, ac y mae’r ddau wedi eu cloi allan o’r byd o’u cwmpas, fel petai dwy seren y nofel yma, ddim yn rhan o’r un system solar â phawb arall. Maent yn ffurfio cyfeillgarwch, ac ymddiriaeth, er nad yw’r ddau yn deall pam mae’r llall yn ffrindiau efo nhw. Cynnig cymorth i’w gilydd wna’r ddau, ond nid yw’r ddau yn methu cymryd cyngor eu hunain. Mae mor drist i weld faint maen nhw’n becso am beth y mae pawb arall yn eu meddwl amdanynt, ond ni allan nhw guddio eu holl gyfrinachau.

Wrth i’r nofel mynd yn ei blaen, rydym yn dod i adnabod Anest a Deian yn well, a chawn glywed am eu problemau a’u teimladau dyfnaf. Llwydda’r awdur i gynnal llais Anest fel petai hi’n siarad gyda ni’n go iawn, a chawn nifer o gyffyrddiadau barddonol yng nghanol y ddeialog realaidd. Teimla’r ddau, fel pobl yr oeddwn wedi eu hadnabod am oesoedd erbyn diwedd y nofel, nid ond cymeriadau mewn llyfr yn unig.

Yn sicr, mae hon yn chwip o nofel, sydd yn sefyll mewn cae ar ei phen ei hun. Yn nhudalennau olaf y nofel, cawn restr o gysylltiadau all fod o gymorth. Os ydych yn dioddef, neu’n gwybod am aelod o’ch teulu, neu ffrind sy’n dioddef, mae’n bwysig i ymestyn allan at y bobl gywir, ac i wybod nad ydych ar eich pen eich hun.

Kayley Sydenham,

Ysgol Gyfun Gwynllyw

Dyma flas o’r nofel, gydag Owain Siôn yn darllen, gyda chaniatâd gwasg Y Lolfa i rannu’r fideo.

Gair o gyngor

Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:

Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456

Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd 
Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

bottom of page