top of page

Tri Dilledyn 
Cip ar dri dilledyn sy’n bwysig i Mali Hâf

gyda Llio Angharad

mali haf.jpg

Mae miwsig a ffasiwn wastad yn mynd law yn llaw. Mae gwisgoedd yn chwarae rhan fawr mewn perfformiadau i gyfleu personoliaeth yr artist neu i greu golygfa’r gân a’i neges.

Ar lwyfan Cân i Gymru eleni, ymddangosodd “brenhines Geltaidd” fel mae hi’n galw ei hun. Mali Hâf yw ei enw go iawn. Roedd ei ffrog ar y noson yn cyfleu Mali fel person i’r dim, yn awgrymu cymeriad hapus a rhydd, ac mae ei chyfrif Instagram yn brolio gwisgoedd lyfli. Wedi fy ysbrydoli gan wisgoedd Mali, es i i’w holi am ei wardrob cyfan! Ond i ddechrau, pa ddilledyn mae hi’n ei drysori fwyaf? Dangosodd Mali gardigan wedi ei wau gyda manylder anhygoel.

 

3.jpg

Mali Hâf: Dwi ddim yn gwisgo fo llawer ond wnaeth Nanna fi gwau hon. Sut, sai’n gwybod! Mae hi mor dalentog ac mae’r detail yn crazy!

Llio Angharad: Mae’n siŵr bod hynna wedi cymryd gymaint o amser i’w wau! Wyt ti erioed wedi meddwl dysgu gwau?

MH: Fi methu eistedd lawr! Dwi’n hoffi pethau creadigol, ond mae gwau yn y math o gelf greadigol ble chi angen dilyn patrwm, a fi mwy spur of the moment kind of person! Mae fy ewythr i’n gwau felly o leiaf mae e wedi cael ei basio ymlaen at rywun!

LA: Mae’n siŵr fyddi di’n pasio’r gardigan yna ymlaen wedyn i’r person nesa. Mae o’n edrych fel y math o ddilledyn sy’n cael ei basio lawr drwy’r cenhedlaethau.

MH: Yn union!

 

LA: Be ydi’r fargen orau ti rioed wedi ffeindio?

MH: Hon. Cot ffwr print sebra! Mae gen i lawer o fargeinion a dwi’n caru siopa mewn siop elusen. Oedd e’n anodd dewis rhywbeth. Dwi’n gwisgo hon drwy’r amser - a dim ond £10 oedd hi! Roedd hi’n cuddio tu ol i rac o ddillad a dywedais wrth fy ffrind... “OMG edrych be sy’ tu ôl i'r dillad yna!” Oedd yr hen fenywod yn y siop yn dweud, “When I was your age, love, I’d have loved that! Cer amdani!” Wnes i drio hi mlaen ac oedd pawb yn y siop fel... “It’s only a tenner!”.

LA: Mae o’n anhygoel sut mae hynna wedi gallu cuddio mewn siop! O leia fod o’n profi fod camouflage anifeiliaid yn gweithio!

MH: Mae hi’n mynd efo popeth hefyd!

 

unnamed.png
unnamed1.jpg

LA: Pa ddilledyn fysa chdi methu byw hebddo?

MH: Unrhyw ddyngarîs! Dwi eisiau casgliad mawr, ond does dim pwynt achos ti’n gallu newid gwisg jest efo un eitem. Maen nhw’n ideal, dwi methu byw hebddyn nhw. Dwi’n gwisgo un nawr ac mae tri arall ‘da fi hefyd.

Fi hefyd yn prynu dyngarîs i bawb ar eu penblwyddi. Dwi wastad yn eu rhoi nhw, ac maen nhw fel, ‘OMG pam dwi heb gael y rhain o’r blaen’? A dwi fel ‘I know’! Wedyn maen nhw’n byw ynddyn nhw!

LA: Dwi’n gwybod rwan pwy sy’n ffrindiau efo chdi - byddan nhw i gyd yn gwisgo dyngarîs!

Mae sengl ddiweddaraf Mali Hâf, ‘Paid Newid dy Liw’ allan nawr ar lwyfannau ffrydio.

 

bottom of page