Ti'n iwsles
gan Gwenno Roberts

Dyma waith buddugol enillydd y Gadair yn Steddfod y Sgrin 2021 Ysgol Bro Myrddin yn ddiweddar.

*Rhybudd*

Mae’r stori hon yn trafod problemau iechyd meddwl dwys, yn cynnwys hunanladdiad.

 

Llŷr

Bȋp bȋp bȋp.

 

8.30. Cau llygaid. Agor llygaid. 9.40.

 

Bȋp bȋp bȋp.

 

Oreit dwi’n blydi dod y diawl. Damo. Fi’n hwyr. Eto.

 

Ti’n iwsles ti’n iwsles ti’n iwsles.

Fi’n llusgo’n hunan mas o’n harbwr, fi’n lico ei alw’n hwnna, neud sens nagyw e gan mai na ble dwi’n hala orie, ar ben fy hun. A fi’n credu tase fi’n storio’r holl ddagrau sy’n dod mas o’n lyged i bydde fi di rhoi shot dda ar neud llyn i’n hun fyd. Ond just i’w neud yn glir, so chi’n mynd i ddeall pam, just felna mae, falle bo fi bach yn iwsles a bach yn hôples a

ca dy ben Llŷr achan. Sneb yn becso.

Fi’n llwyddo i lusgo’n hunan fel sloth ar drygs i’r ddesg. Sori hwnna odd y peth cynta feddylies i am, fi’n caru biol t’wel, ma fe’n ddiddorol deall a gweld sut mae’n siapo’r byd a phopeth, ond ma fe’n ddanjeris braidd, gwbod pa mor glou allen i fennu popeth. Ond bydde gwell siawns i’r byd orffen fel ma pethe nawr, marw eisiau mynd mas ond marw wrth fynd mas, croeso i...fyd y pandemig neu ddy wôcing ded fydd hi cyn hir. Os ti’n darllen hwn mewn blynydde cer i gwglo 2020 nawr (os ma gwgl dal yn thing??) sioe fawr y politisians, na beth yw e rili. Dim bod da unrhywun actiwal diddordeb i ddarllen am fy mywyd, neu hyd yn oed ishe wasto’i amser ma. Ond falle, falle?

Ca dy ben, stop gobeithio eith pethe yn well, ti’n iwsles ti’n iwsles ti’n iwsles.

Ma whyran y cyfrifiadur yn neud i fi jwmpo fel rhyw groten fach. Gwan. Yn y broses fi’n bwrw yr hen gwpaned o de a watsio fe’n llifo fel ffownten dros bobman a lando ar y carpet gwyn. Cachu hwch.

Ti’n iwsles ti’n iwsles ti’n iwsles.

Fi’n codi ar hast ac yn llwyddo i sefyll yn y potsh fyd, sane gwyn wedi difetha, fel pob peth a pherson arall sy’n dod yn agos atai. Fi’n trial hopo nôl i’r gader a’n miso ac yn lando yn bendramwnwgl ar lawr. Er mwyn dyn, pam i fi ffaelu neud unrhyw beth yn iawn?

Ti’n iwsles ti’n iwsles ti’n iwsles.

Syniad mam oedd cael y carpet angylaidd gwyn, doedd hi’n amlwg ddim yn gwbod faint o fes oedd ei mab hi bryd ny, dim bod hi’n gwbod nawr tabeth. Gadodd hi cyn gynted a welodd hi fi, neis i gael cadarnhad o faint fi werth. Zilch. Mae’r papur tŷ bach yn llowcio'r te i fyny o’r carped, fwy awchus na dwi di bwyta ers oese, ond ma staen stwbwrn wedi’i fewnblannu i’r carped yn edrych fel tase rhywun di cael damwain fochaidd, os chi’n deall be dwi’n feddwl, os chi dal na? Dim bod neb byth di deall fi rili. Na aros da fi am rhy hir. 

Stop bod mor despret. Ti’n iwsles ti’n iwsles ti’n iwsles.

Reit, digon o wastraffu amser a well fi droi lan i wers ar lein 92,745, os bydd unrhywbeth yn digwydd leni llygaid sgwâr sydd ar dop y rhestr, os fyddwn ni dal ma am sbel. I neud pethe yn well fyth fydd rhaid fi droi lan i ugen munud olaf fy ngwers màths gyda’r Cwîn Lloyd. Gwallt sidan sy’n ishte yn dwt ar ei hysgwyddau main wrth iddi ishte yn ei chegin cystym med yn ei thŷ crand yn ei bybl perffaith hi. OMG, fi’n credu nath ychydig o sic godi wrth feddwl amdani. R’yn ni’n hollol groes ym mhob ffordd, am fil o resyme. Dwi’n gwasgu’r botwm ‘join’, co ni off. Gwell hwyr na hwyrach? Ife?

‘Llŷr Rhys has joined, wel haleliwia am hynny, beth yw dy esgus di heddi grwt?’ mae’i llais ffroenuchel hi’n crynu drwydda i a chwys yn bygwth bownso a raso lawr fy nhalcen. Damo. Neith y gwir ddim dolur na neith? Bach yn hwyr i ddechrau gweud y gwir nawr mewn bywyd yn dyw e.

‘Sori, Dad newydd gyrraedd nôl o’i ‘night shift’ yn sbyty so nes i frecwast iddo fe, gweithiwr allweddol yn cadw ni fynd’ roedd dweud celwydd yn dod yn llawer rhy rhwydd i mi, acto fel tase popeth yn oce, fi’n ffed yp o neud e. Ffed yp o fyw felma. ‘lot yn bwysicach na dy sỳms di.’ O damo wedes i’r rhan ola na mas yn uchel naddo fe?

Ti’n iwsles ti’n iwsles ti’n iwsles.

 

Ma croen tîn Cwîn Lloyd ar ei thalcen, roedd hi’n acto fel tase fi newydd roi slap iddi ar draws i hwyneb. ‘You have been removed from the meeting by the host’ ie ie twll tȋn ti'r cwȋn.

Dwi’n diolch iddi’n dawel, dim bod fi am gyfaddef ny, na unrhywbeth arall dwi’n teimlo go wir. Dwi’n rhoi un pip clou ar fy ffôn ac edrych ar storis snapchat pobl, fi’n tapo trwyddo yn ffast cyn dod ar draws lôds o fideos o’r wers màths. O na na na.

Ti’n iwsles ti’n iwsles ti’n iwsles.

‘wot a lad @llŷr.rh01, twll tȋn sỳms😜🤙’
‘@llŷr.rh01 tn lejynd!’
‘piss off mrs maths🥊 @llŷr.rh01 gwboi chan💪’
Na’r peth, fi yn “un o’r lads” a ‘ma digon o lêdis ar yn hôl i fyd, lwcus ife, aparantli. Ond so nhw’n gwybod pa mor wan i fi rili. Ma nhw’n wasto’i amser yn hala amser da rhyw ‘low life’ fel fi, so nhw’n gwybod y fi go iawn. Sneb yn. Sneb moyn. Fi’n twlu’r ffôn ar y gwely a watsio fe’n bownso fel basgetbôl cyn sgorio a lando ar lawr. Liability.

 

Ma pethe lot gwell sy eisiau i fi neud, sy’n bryd neud. Dwi’n agor y drôr yn y bathrwm yn ara’ bach, ac am y tro olaf yn gwrando ar glecio'r pren wrth iddyn nhw lithro heibio’i gilydd yn ddi-broblem ac yn hapus â’i rôl mewn bywyd. Jelys. Dwi’n cydio yn y casgliad o focsys dwi di llwyddo i’w neud, ac ar dop y pentwr dwi’n watsio cornel siarp y bocs yn tywyllu ac yn pylu dan bwysau'r dagrau. Crap. Nes i addo na fydden i’n llefen. Nes i addo lot o bethe. Gwan. Dwi’n agor y bocsys ac edrych ar y swîts sy’n crynu yn naeargrynfeydd fy nwylo. Sori Dad. Nath y nghariad at fioleg neud hwn lot rhy rwydd.

Geraint

Egwyl. Dod at ddiwedd y ‘night shift’ yma, diwrnod bant yfory diolch byth. Pawb allan yn gollwng eu llanast ar lawr ymhob man ac rydym ni yma i lanhau ar eu holau, i’w hachub ac i fod yn arwyr. Mae’n anodd i chwarae rôl yr arwr clên, cymwynasgar tra dy fod mor, fel ddylswn i gyfaddef hyn, mor andros o grac. Dwi eisiau ffrwydro a gwasgaru'r holl lafa heintiog sy’n dod allan o ngheg i dros bob un dyn sy’n meddwl mai jôc yw hwn. Diawled bach. Mae’n hollol bathetig bod pobl yn credu bod clapio bob nos Iau yn esgus, yn faddeuant, yn anogaeth. Ydyn nhw wir yn credu bod clapio yn achub bywyd?

Cefais i fy mhenodi yn brif ddoctor ar yr adran gofal ddwys nôl ym mis Mawrth, roeddwn i’n barod amdani, yn barod am sialens fach. Taswn i mond yn gwbod am y corwynt a oedd yn disgwyl amdanom ni rownd y gornel. Taswn i mond yn gwbod. Golchi dwylo rhwng bob cyffyrddiad nes eu bod yn amrwd ac yn crefu am hydradiad. A’r masgiau. Hunllefus. Un ar ben y llall yn gwasgu i’r cnawd ac yn bwyta o f’enaid ar bob cam. Er fy mod yn gwybod ac yn deall mai creithiau arwynebol fydd y rhein ar fy ngwyneb, maent yn gwreiddio yn llawer dyfnach ac yn rhwydwaith o greithiau bythol ar fy hunaniaeth. Allai ddim goddef colled arall yn fy nwylo.

Awr i fynd. Y sbrint olaf. Dwi’n camu allan i’r ward, fy ysbryd mor fflat â phancwsen ar ddiwedd y shift pymtheg awr. Dwi’n gweld yr holl diwbiau yn nadreddu allan o gyrff difywyd o f’amgylch, yn fy meirniadu yn dawel am beidio â’i bywhau ac ail-roi eu bywyd iddynt ar blât. Dwi’n diolch am y masg. Yn diolch am y cyfle i guddio o’r pwysau sy’n adeiladu ar f’ysgwyddau. Awr i fynd.

Dwi’n anfon neges destun gyflym at Llŷr cyn neidio yn y car ‘Cychwyn y ffordd adref, brecwast llawn heddi?😋’

Dwi’n disgwyl ateb syth bin ganddo oherwydd na gyd mae e’n neud yw hala oriau ar y teclyn sgwâr yna. Rhyfedd. Ail neges.

‘Caru ti❤️’

Dwi’m yn becso rhagor am fod yn rhy “cringe” fel ddywedai Llŷr, wedi blino gormod i fecso.

Anfon.

Clywaf wich y brêc mewn rhybudd wrth i mi barcio'r fiat 500 o flaen drws y tŷ, yn gwahodd y car i mewn bron a bod. Dwi’n cerdded i mewn i’r tŷ yn teimlo fel cawr yn sgathru ar lawr bedd. Tawelwch.

‘Llŷr! Dwi nôl boi! Ffansi brecwast llawn?!’

Dim ateb. Od. Dwi’n drybowndio i fyny’r grisiau.

‘Llŷr!!’

Yn uwch tro yma. Dim ateb. Edrych yn ei stafell wely. Dyw e ddim yma.

‘Llŷr Rhys!! Mab i, dere ma!!’

Panig yn corddi yng ngwaelod fy stumog. Yn wyllt dwi’n gobeithio i’w weld yn ymddangos fel angel o’r nef. Dim ateb. Dwi’n taranu i mewn i’r ystafell ymolchi. Ac yna dwi’n ei weld e.

Dwi’n cydio yn ei gorff llipa. Oer. Na.
Na.
Na.
Na.

Beth wnes i o’i le? Sut na wnes i sylwi? Sut? Pam? Fel? Na. Dim Llŷr fi. Na.

Na.

Na.

Na.

Mae fy neigryn yn glanio ar ei foch gwelw, a dwi’n sylwi mai dyma’r peth cyntaf i mi roi iddo ers tro byd, ei rannu gyda fe hyd yn oed. A’r peth olaf hefyd. Dwi’n gafael yn ei gorff ac yn gadael i’r rhaeadrau gwympo, a dwi’m yn mentro ei adael.

Gair o gyngor

Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:

Meic Cymru -  neu Rhadffôn 080880 23456

Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)

info@mind.org.uk

86463
mind.org.uk

Noddir gan Lywodraeth Cymru_Gwyn.png

Cefnogir Lysh gyda chymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru. 

Hawlfraint © 2021 Lysh Cymru. Nid yw Lysh Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.