top of page

teledu realiti:

Y Ddrama a’r Difrod

Mae’n wir nad oes prinder o deledu realiti ar y bocs, gydag I’m a Celebrity yn berchen ar y Gaeaf, Love Island yn hawlio’r haf a sawl un ohonom yn edrych ymlaen at groesawu hen ffrind, Big Brother.

Wrth i ni fwynhau’r ddrama, y ffraeo a’r chwerthin, mae’n rhaid i ni ystyried dwy ochr y geiniog. Er bod mwynhâd i’w gael wrth wylio’r rhaglenni yma, mae’n bwysig cofio fod elfen dywyll sy’n effeithio ar sawl ffactor; iechyd meddwl, cynrychiolaeth, llesiant a sawl peth arall.

Darllenwyr Lysh yw craidd ein gwefan ac roedd ein dilynwyr Instagram yn awyddus iawn i rannu eu barn nhw ar Love Island a’r amryw o raglenni realiti sydd ar gael.

 

Gwylwyr yn Gostwng

Dros y blynyddoedd, mae Love Island wedi denu cynulleidfaoedd enfawr ond, eleni, roedd cwymp yn y nifer o wylwyr oedd wedi mwynhau rhaglen gyntaf y gyfres. Dim ond 1.3 miliwn o bobl ddaru diwnio fewn eleni, sy’n isel i gymharu gyda 2.4 miliwn o bobl llynedd ac yn fwy isel fyth i gymharu gyda 3.3 miliwn o bobl nôl yn 2019.

Wrth ofyn i ddarllenwyr Lysh os fydden nhw’n troi’r rhaglen ymlaen eleni, dim ond 29% oedd yn bwriadu gwylio gyda 71% yn dewis gwylio rhywbeth arall!

Ymysg y rhai sy’n dewis newid y sianel, mae Begw a Manon.

Love Island logo 2.jpg

© Motion Content Group / Lifted Entertainment / ITV

“Dwi ddim yn meddwl ei fod yn iach i fy iechyd meddwl, gan ei fod mor ffug,” meddai Begw, a barn tebyg sydd gan Manon, hefyd.
“Nid yw’n dangos esiampl o ‘gariad diogel’ ac mae’r dynion yn anaeddfed,” dywedai.

Nid yn unig iechyd meddwl y gwylwyr sy’n cael ei effeithio wrth wylio’r rhaglen. Mae’r cystadleuwyr yn aml yn dioddef yn ystod ac ar ôl ffilmio, gyda negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn barnu’r sawl sy’n ymddangos ar y rhaglen. Am y rheswm yma mae nifer o wylwyr wedi penderfynu rhoi’r gorau i wylio.

Yn 2020, enillodd Paige Turley law yn llaw gyda Finley Tapp, ac roedd Paige yn agored iawn am y niwed cafodd ei greu gan gasineb.

“Roeddwn i’n gryf yn feddyliol cyn y rhaglen ond ar ôl hynny roedd gymaint o feirniadu. Ti’n dechrau cwestiynu ac yn cychwyn credu pethau. Mae’n mynd a ti i le ble ti’n edrych yn y drych ac yn cwestiynu dy hun yn gyson a ges i drafferth gyda hynny am sbel,” esboniai Paige.

 

Camera

Gwir neu Gau?

Wrth wylio rhaglenni realiti, mae’n bwysig cofio fod y cystadleuwyr yn cael eu ffilmio am oriau maith ar hyd y dyddiau, ac wrth wylio’r rhaglen nosol dim ond llai nag awr fyddwn ni’n ei weld. Mae’n bwysig cofio hefyd fod gan gynhyrchwyr rhan fawr i chwarae wrth lywio’r stori, gan olygu clips mewn ffyrdd gwahanol i bortreadu pobl mewn ffordd benodol ac i adrodd stori. Dyma ran bwysig a chlyfar wrth fynd ati i greu drama a denu gwylwyr!


Tra bod Tegwen yn cytuno fod rhaglenni realiti yn ffug, mae un peth sy’n ei chadw hi i wylio!
“Dydi’r rhaglenni ddim yn realistig ar y cyfan, ond dwi’n caru’r ddrama ychydig bach yn ormod i beidio gwylio,” eglurai Tegwen.

 

Amrywiaeth

Nid Love Island ydi’r gyfres realiti gyntaf. Yn wir, cychwynodd y gyfres yr holl ffordd nôl yn 2005 gyda selebs y dydd fel cystadleuwyr. Ond, ar ddechrau’r ganrif, Big Brother oedd yn gyfrifol am osod y llwyfan ar gyfer teledu realiti ac, wedi dros 40 cyfres yn y DU, mae ffans brwd yn edrych ymlaen yn eiddgar iddo ddychwelyd eleni.

Er i Big Brother osod y llwyfan, credai rhai bod y syniad o deledu realiti wedi amrywio tipyn ers y dyddiau hynny.
“Mae’r pwrpas a chymhelliant wedi newid llwyth ers dyddiau Big Brother yn 2000!” meddai Catrin.

Mae sawl un yn credu fod y cyfresi yma wedi gweld dyddiau gwell, neu’n ‘wast o amser’ fel dywed Begw. Dywedai Llinos nad ydi’r rhaglenni yma yn apelio ati o gwbl, ond mae Manon yn credu eu bod yn ‘ffordd dda o ddeall pobl wahanol’.

 

TV Screens

Tybed, byddwch chi’n tiwnio mewn i gyfres Love Island eleni neu oes cyfres arall sy’n denu eich sylw? Oes gennych chi farn i’w rannu? Cofiwch fod croeso mawr i chi gysylltu a chadwch lygaid allan ar ein stori Instagram am gyfle i ddweud eich dweud am bynciau sydd o bwys i chi.
 

bottom of page