top of page

Elin Williams -
Fy Steil a’r CamsyniadaU

Mae ffasiwn yn cael ei gysidro fel rhywbeth gweledol iawn. Mae’r farchnad wedi ei seilio ar estheteg gyda chylchgronau, catwalks a lluniau Instagram i gyd yn ysgogi llaw i estyn am y cerdyn credyd o ganlyniad i rywun yn hoffi be maen nhw’n ei weld.

Ond be os nad ydych chi’n gallu gweld? Does yna ddim posib meddu ar ddiddordeb mewn ffasiwn felly, nagoes? 

Anghywir. 

Cefais i ddiagnosis o gyflwr llygaid o’r enw Retinitis Pigmentosa (RP) pan oeddwn i’n chwe blwydd oed. Mae’n gyflwr dirywiol sy’n golygu fy mod i wedi colli fy ngolwg yn raddol dros y blynyddoedd. Rŵan yn fy ugeiniau, dwi’n gweld golau, lliwiau a siapiau, ond dim unrhyw fath o fanylder. Felly pan dwi’n dweud wrth rywun mai un o fy mhrif ddiddordebau ydi ffasiwn, mae’n denu tipyn o syndod.

 

Ystradebau (Stereoteipiau)

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, mi wnes i dderbyn neges Instagram gan rywun yn gofyn pam fy mod i’n poeni am ffasiwn a sut dwi’n edrych os nad ydw i’n gallu gweld. Mi wnes i ysgrifennu erthygl ar fy mlog,
My Blurred World, fel ymateb - sut fedrwn i beidio? Ond yr ateb syml ydi bod ffasiwn a steilio yn ffordd o fynegiant i fi; dwi wrth fy modd yn cymryd elfennau o’r ‘trends’ diweddaraf a’u plethu nhw mewn i fy steil i. Dwi yn sicr ddim yn gadael i nam golwg fy stopio i rhag gwneud hynny!

Nid dyma’r tro cyntaf i fi ddod ar draws camsyniad o’r fath. Mae’r stereoteio, neu’r ystrydeb bobl sydd â nam golwg fel pobl anffasiynol yn rhywbeth sydd wedi ei blethu mewn i wead cymdeithas diolch i flynyddoedd o gael ein portreadu felly yn y cyfryngau, mewn rhaglenni teledu, ffilmiau a llyfrau. 

Mae’n anodd i lawer feddwl am bobl sy’n byw hefo nam golwg fel pobl sy’n gallu ymfalchïo yn ein hedrychiad oherwydd mae’r diwydiant yn dweud stori sy’n ein gadael ni allan o’r naratif. Ond y gwir ydi bod dillad a steil yn gymaint mwy na beth sydd ar yr arwyneb.

 

Siopa

Pan wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn ffasiwn yn fy arddegau, roedd y profiad o siopa yn edrych ychydig yn wahanol i fi o’i gymharu hefo fy ffrindiau. Tra bod nhw’n gweld eitem oeddan nhw’n hoffi ym mhen draw’r siop, mi fyswn i’n cymryd amser i deimlo ar hyd y rheiliau a phigo eitem o ganlyniad i sut roedd yn teimlo. Roedd y ffaith fy mod i’n gallu gweld lliw i ryw raddau yn fy helpu i beintio darlun yn fy mhen hefyd ac roedd disgrifiad gan fy ffrindiau o hyd yn mynd yn bell. 

Y disgrifiadau yma oedd yn fy helpu i wneud penderfyniad yn yr ystafell newid hefyd. Mae gen i ffrindiau a theulu gonest felly dwi’n gwybod y galla i ddibynnu arnyn nhw i ddweud os dydi rhywbeth ddim yn edrych yn iawn, ac yn aml iawn dwi’n gallu dweud fy hun os dydi dilledyn ddim i fi yn ddibynnol ar sut mae o’n gwneud i fi deimlo pan dwi’n ei wisgo. Teimlad ydi popeth. 

 

Dwi’n gwneud y rhan fwyaf o fy siopa ar-lein y dyddiau yma. Mae’n llawer haws gen i drio pethau ymlaen yn fy nghartref fy hun. Dwi’n defnyddio technoleg i fy helpu i ddefnyddio’r we; mae darllenydd sgrin yn siarad pob gair a dwi’n gallu chwyddo’r sgrin ar brydiau i weld lliw eitemau yn well. Ond mae yna nifer o rwystrau, wrth gwrs. Nid pob gwefan sy’n hygyrch a phur anaml mae brandiau yn rhoi disgrifiad manwl o’r eitemau maen nhw’n eu gwerthu.

Mae llawer angen newid i wneud y profiad o siopa ar-lein yn well i bobl sydd â nam golwg, er dydi’r rhwystrau ddim yn atal parsel o ddillad rhag glanio ar fy stepen drws bob hyn a hyn chwaith!

 

Gwisgo

Mi oeddwn i’n traddodi sgwrs i blant ysgol gynradd yn ddiweddar a gofynnodd un plentyn i mi, heb unrhyw ffilter, sut dwi’n gwisgo. Yr ateb oedd ‘Wel, fel pawb arall,’ ond es i ymlaen i egluro fy mod i’n trefnu fy nghwpwrdd dillad fel bod mathau penodol o ddillad wedi eu categoreiddio hefo’i gilydd; siwmperi mewn un darn, ffrogiau mewn rhan arall ac ati.

Dwi hefyd yn cofio sut mae eitemau penodol yn teimlo, er mae’n ychydig o broblem pan mae gen i ddau o’r un peth mewn gwahanol liwiau - dwi wedi cael ambell i anffawd, neu ‘fashion faux pas’ os hoffwch chi, o ganlyniad i hynny ond wnawn ni ddim sôn am rheini!

Mae yna gymaint o dechnegau gwahanol dwi’n defnyddio o ddydd i ddydd wrth roi gwisg at ei gilydd a rheini sy’n helpu i godi fy hyder wrth chwarae hefo ffasiwn a steil fel rhywun sydd hefo nam golwg. 

Fy ngôl i ydi i deimlo’n hyderus yn y ffordd dwi’n cyflwyno fy hun a dylai’r ysfa sydd ynof i wneud hynny ddim gorfod dirywio ynghyd â fy ngolwg.

Y tro nesaf ‘da chi'n gweld gwisg rydych chi'n ei hoffi, meddyliwch am y ffaith y gellir ei werthfawrogi mewn cymaint o wahanol ffyrdd. A chofiwch, efallai bod gan y person sy'n gwisgo'r wisg honno nam ar ei olwg.

 

bottom of page