Noddir gan Lywodraeth Cymru_Gwyn.png

Cefnogir Lysh gyda chymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru. 

Hawlfraint © 2019 Lysh Cymru. Nid yw Lysh Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Gwlychu  Pig

Does dim byd gwell na diotyn bach iach. Dyma ‘Llymaid Diiii-lish Lysh’!
  • Melon ddŵr

  • Twba 225g o fefus, torra’r gwyrddni i ffwrdd

  • Sudd 2 leim

1. Torra’r melon ddŵr i mewn i ddarnau, gan waredu’r croen a’r hadau. Rho hanner y darnau mewn bag rhewgell, a’u rhewi am gwpwl o oriau

2. Ar ôl i’r darnau hynny rewi, chwyrlia’r darnau gyda gweddill y melon ddŵr, mefus a sudd leim tan ddaw’r slysh yn lysh. Arllwysa’r cyfan i mewn i wydrau, a cher amdani.

Cofia dynnu llun o dy Slysh a defnyddio #LyshCymru