top of page

Mari’n Mwydro!

Slofi lawr

Mari Lovgreen.jpeg
Image by Jen P.

Helo ddarllenwyr lyfli Lysh! Gobeithio eich bod chi gyd yn OK?

 

Ma hi di bod yn flwyddyn mor od dydi? Dwi’n gobeithio’ch bod chi’n edrych ar ôl eich hunan yn y cyfnod heriol yma, a phob lwc i chi os ydach chi’n cael mynd nôl i’r ysgol am dipyn cyn yr Haf.

 

Ma cyfnodau o newid fel hyn yn gallu bod reit unsettling felly dwi jyst am rannu rhestr o betha sydd bob amser yn gneud i fi deimlo’n well. Ma rhestr pawb am fod yn wahanol i’w gilydd; be am i chi greu rhestr eich hun a throi ato fo os ydach chi’n teimlo’n isel, rhyfedd, nerfus, ofnus neu ar goll ’chydig bach?

 

Ma 2020 bendant di atgoffa fi pa mor bwysig ydi self care ac wedi fy annog i i slofi lawr a gwerthfawrogi’r petha bach sy’n rhoi pleser mewn bywyd.

Dyma fy rhestr bach i, edrych mlaen i ddarllen eich rhai chi❤

  • Mynd am gawod hir a defnyddio shower gel neis

  • Rhoi colur mlaen

  • Ymarfer corff (boring iawn ond bob amser yn gneud i fi deimlo’n well)

  • Rhoi un o fy hoff ganeuon mlaen yn UCHEL a dawnsio

  • Facetime efo ffrind

  • Tacluso fy ystafell wely

  • Brechdan fish fingers efo lot o sôs coch

  • Mynd am dro ar ben fy hun ac edrych ar y blodau gwyllt

  • Tanio cannwyll ogla neis

  • Sortio drwy gwpwrdd/ddrôr/cael clear out bach (pwysig peidio gneud gormod yr un pryd neu mae’n gallu bod yn overwhelming)

  • Edrych drwy hen luniau

  • Darllen

  • Gwylio out-takes rhaglenni comedi ar YouTube

  • Bath bybyls

  • Cream egg a phaned o de

  • Peintio fy ngwinedd

  • Gwrando ar bodcast

  • Chydig o banter ar Whatsapp

  • Instastories

  • Pampro’r corff – shafio, moisturisio, plycio, facemask

  • Postio cerdyn, llythyr neu bresant bach at rywun

  • Sheets gwely ffresh a pajamas glân zzzzzzzzzzzzzzzz

Image by Marvin Meyer
Image by Max van den Oetelaar

I fi mae dillad cyfforddus wedi bod yn hanfodol yn ystod y lockdown, felly rhowch eich loungewear ’mlaen ac anadlwch yn ddwfn! Wnes i ddarllen rywla bod anadlu’n ddwfn fatha rhoi cwtsh i’ch enaid.

Dwi’n licio meddwl ein bod ni fel planhigion sy angen y petha iawn i dyfu a bod yn iach – dŵr, awyr iach, yr holl stwff sy’n dda i’r enaid (ein rhestrau bach personol ni), ac ma chydig bach o haul bob amser yn help!

 

Peidiwch ac anghofio pa mor bwysig ydi llonydd hefyd; mewn cyfnod lle dan ni ’di treulio mwy o amser nac erioed efo’n teuluoedd, cofiwch bod pawb angen headspace a llonydd ar ryw bwynt bob dydd.

Off a fi i ferwi’r tegell ac estyn cream egg bach slei o’r ffrij. Be dach chi am neud i treatio’ch hun heddiw?

Mari  x

bottom of page