Rocio’r radical
Sgwrs gyda Izzy Morgana Rabey

Wrth i ni eistedd yng nghanol tymor yr Eisteddfodau, ffarwelio gyda gŵyl yr Urdd ac edrych ymlaen at y Genedlaethol, mae’n amser delfrydol i fyfyrio ar ein hasedau fel Cymry... ein hunaniaeth, ein hiaith, ein ffordd o fyw...
Nid gwyrth a rhodd ar ddamwain a hap yw’r asedau yma ond yn hytrach canlyniad i brotest a brwydro, yn ôl y cyfarwyddwr a cherddor Izzy Morgana Rabey.
Gyda’i cherdd brotest ‘Comisiwn’, cerdd sy’n siarad yn erbyn presenoldeb yr heddlu ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni, hawliodd Izzy ein sylw. Mewn sgwrs gyda Lysh Cymru, mae'n son am eu gwaith protest a phwysigrwydd protest i fodolaeth ein hunaniaeth.

Lysh Cymru: Wnes di ysgrifennu cerdd brotest yn erbyn presenoldeb yr heddlu ar y maes, sonia mwy am hynny ...
Izzy Morgana Rabey: Gwelais ar Instagram Story fy ffrind i, Llinos Annwyl, am gerdd wedi ei chomisiynu i glodfori’r heddlu. Roeddwn i fel, ‘OMG, mae hwnna’n hollol wallgo'!”.
Wnes i hefyd weld ar eu Stories bod yna bresenoldeb mawr o’r heddlu ar y maes. Yn y cyd-destun o beth sydd wedi bod yn digwydd yn y tair blynedd diwethaf a’r ffaith fod yna ddau gwr ifanc wedi marw yn nalfa’r heddlu... Mae rhai yn dweud, “Mae angen cynyddu ffydd yn yr heddlu eto...” Ond mae’r ffeithiau yn dangos dyw beth sy’n digwydd yn yr heddlu ar y foment, o ystyried hefyd beth ddigwyddodd i Sarah Everard a gyda Child Q, den ni’n gweld gymaint o enghreifftiau o’r llygredigaeth, y corruption, yr hiliaeth, trais a’r rhywiaeth sydd yn yr heddlu.
Fi’n credu bod o’n rili bwysig fod pobl fel Eadyth, Lem Freck ac eraill yn teimlo fel eu bod nhw wedi eu croesawu i’r Eisteddfod a dy’n ni ddim jest yn diversity hires. Mae Eisteddfod yr Urdd yn dweud “Ie, ry’n ni isie bod yn fwy croesawgar...” Ond pan chi’n rhoi'r heddlu ar y maes, mae hwnna yn syth yn golygu nad yw pobl sydd ddim yn wyn yn mynd i deimlo’n ddiogel. Dy’n nhw ddim! Mae’n ffaith!
LC: Felly, es di ati i ysgrifennu cerdd... Wnes di ysgrifennu honno’n syth?
IMR: I mi, mae gweld yr heddlu mewn gŵyl fel’na, gŵyl ar gyfer plant a phobl ifanc... On i mor grac am y peth. Mae’r rhan fwyaf o’r stwff fi’n ‘sgwennu yn dod o bryd fi’n grac ynglŷn â rhywbeth, felly wnes i sgwennu fe noson cyn gig gyda Eadyth mewn un go. Nes i anfon neges i Eadyth yn gofyn ”Sut wyt ti’n teimlo amdana i’n gwneud hyn fory?”, ac oedd hi fel... “Let’s go for it!”.
Wnes i gwrdd lan gyda fy ffrind Llinos cyn y gig ac oedd yr heddlu wedi gadael eu car nhw... Felly on i fel “Reit, be fi’n mynd i wneud yw cuddio tu ôl i’r car a ffilmio fi’n darllen y gerdd!”.
Mae’n bwysig cofio fod yr Eisteddfod, yn enwedig yr Urdd, yn le i stwff radical i ddigwydd ac yn le ar gyfer i sgyrsiau pwysig fel hyn i ddigwydd. Dyna sut mae symud ymlaen.

