top of page
Rhestr Darllen Lysh
Wrth i ni sleifio draw i dymor yr haf, mae’n hen bryd i ni sortio ein nofelau er mwyn mwynhau darllen yn yr haul. Mae ‘na rywbeth arbennig am ddarllen tu allan yn yr haf, yn does? Mae yna lu o nofelau arbennig ar silffoedd y siop llyfrau a’r llyfrgelloedd, felly yma ein rhestr fer ni i roi ychydig o ysbrydoliaeth i chi.
Secs ac Ati
Mae gofod saff i drafod pynciau fel rhyw yn hynod o bwysig a dyma’n union mae’r llyfr yma yn ei gynnig. Yn addasiad Llio Maddocks, does dim nonsens pan mae’n dod i drafod y ffeithiau a geiriau doeth o gyngor.
Sêr y Nos yn Gwenu
Dilynwn hanes Leia yn y nofel arbennig yma gan Casia Wiliam. O gariad i gymuned, mae’r nofel cwmpasu amryw i themau gwahanol sy’n cyffwrdd ein bywydau ni i gyd.
Cwlwm
Mae’r nofel yma gan Ffion Enlli yn rhoi mewnwelediad i fywyd Lydia, merch yn ei ugeiniau sydd wedi symud oddi gartref. Trigai’r nofel ar y thema cenedlaetholdeb, gan ystyried pwysigrwydd ffrindiau, cymdogion a sefyllfa fregus cydraddoldeb i ferched.
Y Pump
Yn y gyfres boblogaidd yma, cawn wybod mwy am hanes pum cymeriad gwahanol. Mae’r brosiect yma yn unigyrw, gan uno pum awdur gyda phum cyd-awdur i rannu straeon sy’n bwysig iawn yn ein cymdeithas.
bottom of page