top of page

PAM Y PROTESTIO?

Protest Signs

Does dim wythnos yn mynd heibio heb yn ddiweddar fod rhywun yn protestio yn rhywle. Boed y streic ar ein stepen drws yma yng Nghymru, drws nesaf yn Lloegr neu draw ym Mharis, mae’n anodd iawn cadw trac ar bwy sy’n protestio a pham. Mae’n hawdd iawn gwylltio gyda’r rhai sy’n gweithredu pan mae’r protestio yn effeithio ein bywydau ddydd i ddydd. Felly, dewch i ni gymryd saib i ystyried beth yn union ydi protestio a beth yw pwysigrwydd y weithred yma.
 

Pam Protestio?

Yn syml, mae protestio neu fynd ar streic yn weithred sydd yn digwydd pan nad oes opsiwn arall ar ôl. Mae’n weithred sy’n rhoi pwysau ar y rhai sydd mewn pŵer i wrando. Er enghraifft, yn ddiweddar mae undebau wedi bod yn ceisio dygymod gyda’r llywodraethau er mwyn cynyddu tâl gweithwyr, a phan nad ydi’r llywodraethau yn cytuno i drafod, mynd ar streic yw’r opsiwn olaf.

Ond beth yn union ydi ‘undeb’? Wel, sefydliad sy’n cynrychioli gweithwyr ac sy’n gweithio er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr. Mae sawl undeb gwahanol ar gyfer gweithwyr gwahanol. Efallai eich bod chi’n gyfarwydd gyda’r RMT (Undeb Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth) neu’r RCN (Coleg Brenhinol Nyrsys). Pan fydd undeb wedi methu dygymod gyda llywodraeth, weithiau fydd undeb yn holi’r holl aelodau am eu barn ar streicio. Yn dilyn cyfnod byr o bleidleisio, efallai fydd undeb yn mynd ymlaen i drefnu streic a phrotest.

Wrth gwrs mae grwpiau a mudiadau eraill sydd yn protestio, ac am amryw eang o resymau. Cawn drafod mwy ar hyn yn y man.

 

Protest
Microphones

Pwy sy’n Protestio?

Dros y blynyddoedd, mae amryw o grwpiau wedi protestio. Efallai y byddwch chi wedi clywed hanes Merched Beca, Meibion Glyndŵr, Cymdeithas yr Iaith ac, yn ddiweddar iawn, ralis Nid Yw Cymru Ar Werth. Yn aml iawn, y werin bobl neu grwpiau lleiafrifol sy’n protestio yn erbyn penderfyniadau'r rhai sydd â phŵer. Mae rhai yn protestio er mwyn amddiffyn eu hawliau, am gydraddoldeb ac am degwch.

Eleni, mae sawl grŵp gwahanol wedi bod ar streic, gan gynnwys athrawon, gweithwyr sifil a gweithwyr y Post Brenhinol. Mae mudiadau, megis Extinction Rebellion, hefyd wrthi’n protestio er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar yr argyfwng newid hinsawdd.

 

Byddwch chi wedi clywed sôn am nyrsys yn mynd ar streic er mwyn sicrhau tâl teg. Er i nyrsys yng Nghymru fynd ar streic yn gynharach yn y flwyddyn, mae’r undeb wedi llwyddo i sicrhau tâl teg gyda Llywodraeth Cymru felly does dim bwriad pellach i brotestio. Felly, pam mae nyrsys yn Lloegr yn streicio o hyd? Mae hyn am fod materion iechyd wedi eu datganoli ac mae hynny’n golygu mai Llywodraeth Cymru sydd â’r hawl i wneud penderfyniadau ynglŷn â materion iechyd. Nid yw Llywodraeth y DU ac undeb RCN wedi cyrraedd cytundeb, ac felly mae'n debyg y bydd y streicio draw yn Lloegr yn parhau.
 

Pam fod o’n bwysig?

Mae’r hawl i brotestio yn werthfawr iawn ac mae protestio heddychlon yn hawl dynol. Mae’n ffordd o ddod at ein gilydd gyda neges bwysig er mwyn rhoi pwysau ar y rhai sydd â phŵer, fel llywodraethau, i wrando ar ein barn neu ofynion.

Dros y canrifoedd, mae protestio wedi arwain at newidiadau mawr a phwysig yn y byd. Os edrychwn yn ôl at fudiad y Suffragetes, roedd y grŵp dewr yma o ferched yn brwydro ar gyfer hawl merched i bleidleisio. I’r rhai ohonoch chi ferched sydd dros 16, fyddwch chi’n ymwybodol eu bod nhw wedi llwyddo!

 

Protesters

Felly, yn fras, mae’r hawl i brotestio a mynd ar streic yn bwysig gan ei fod yn fodd o gyfathrebu a rhoi pwysau ar y rhai sydd â pŵer pan nad oes opsiwn arall ar ôl ac mae’n arf hollbwysig i werin bobl, grwpiau lleiafrifol a mudiadau er mwyn brwydro am newid a chydraddoldeb.

Pan mae protest neu streic yn effeithio ar eich bywyd dydd i ddydd, fel pan oedd y Post Brenhinol ar streic dros gyfnod y Nadolig a sawl parsel yn cymryd oes i gyrraedd, mae’n gallu bod yn rhwystredig iawn. Rydym yn gallu gweld bai ar y rhai sy’n protestio, heb ddeall ystyr eu gweithredoedd. Mae’n bwysig, felly, i bwyllo a cheisio dod i ddeall pob ochr y ddadl os am benderfynu ar ochr i’w chefnogi.

 

bottom of page