top of page
#NidYwCymruArWerth!

gan Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Mae gan bawb yr hawl i gartref yn eu cymuned.
Ond ar hyn o bryd, mae pobl ifanc ar draws Cymru’n cael trafferth fforddio byw yn eu cymuned oherwydd prisiau tai a rhent sydd wedi cynyddu i’r fath raddau eu bod allan o gyrraedd pobl ar gyflogau cyffredin.
Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith bod llywodraethau dros y degawdau wedi trin tai fel eiddo i wneud elw, yn lle cartrefi. Mae’r canlyniadau wedi bod yn drychinebus i bobl gyffredin Cymru, ein cymunedau a’r Gymraeg — ac maen nhw’n gwaethygu.
Mae Shelter Cymru’n amcangyfrif bod 1 ymhob 3 o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng tai, ac mae’n broblem benodol i bobl ifanc, gyda’r genhedlaeth iau yn cael eu galw’n Genhedlaeth Rhent (Generation Rent) am nad ydynt yn gallu fforddio prynu tŷ ac yn gorfod gwario rhan fawr o’u hincwm ar rent, gan adael llai o arian i bethau eraill mewn bywyd ac arbed i’r dyfodol.
Dw i’n dod o ardal Grangetown yng Nghaerdydd lle mae prisiau tai wedi ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf, a phobl ifanc wnaeth dyfu lan yna ddim yn gallu fforddio rhentu neu brynu. Mewn ardaloedd eraill, yn enwedig ar yr arfordir ac mewn cymunedau gwledig, mae’r cynnydd mewn tai sy’n cael eu defnyddio fel ail dai neu dai gwyliau wedi gwthio prisiau lan a chymryd tai dylai fod yn gartrefi allan o ddwylo’r gymuned. O ganlyniad, dydy pobl ifanc ddim yn gallu fforddio tŷ yn lleol ac mae nifer yn gadael — ac yn cymryd y Gymraeg gyda nhw.
Mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le mewn cymdeithas lle mae gan rai pobl dau dŷ, tra bod eraill yn ddigartref. Lle mae ein diffiniad o dŷ ‘fforddiadwy’ tu hwnt i gyrraedd pobl ar gyflogau arferol. A lle gall datblygwyr a’r cyfoethog ddod mewn i gymuned o’r tu fas a gwneud be’ bynnag maen nhw moyn, dim ots am farn y bobl leol neu’r effaith arnynt.


Ond canlyniad penderfyniadau gwleidyddol yw’r rhain i gyd, nid rhywbeth anochel — felly mae modd eu newid.
Dyna pam mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu i alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yn gallu cael cartref yn eu cymuned a bod y Gymraeg yn parhau fel iaith byw ar lawr gwlad. Yn ddiweddar, gynhalion ni rali enfawr Nid yw Cymru ar Werth ar safle argae Tryweryn lle daeth dros 1,000 o bobl at ei gilydd i fynnu bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu, a byddwn ni’n ymgynnull eto mewn rali tu fas i’r Senedd yng Nghaerdydd ar y 13eg o Dachwedd.
Mae gan Gymdeithas yr Iaith sawl cynnig am sut i ddatrys y broblem, yr hyn sydd ei angen ydy ewyllys gan wleidyddion i weithredu.
Fel man cychwyn, rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i gymryd camau brys yn cynnwys cyflwyno trethi newydd ar dwristiaeth, ail dai ac AirBnB a buddsoddi’r elw mewn i gymunedau a thai lleol. Ac wedyn mae angen Deddf Eiddo, fydd yn cynnwys gosod cap ar ganran yr ail dai neu dai haf sydd mewn cymuned; rheoli prisiau tai a rhent fel bod nhw’n fforddiadwy a rhoi cymorth penodol i bobl ifanc aros yn eu cymunedau.
Rhaid cofio hefyd fod yr hawl i fyw adra am fwy na thai yn unig. Mae hefyd yn golygu cyfleoedd i bobl ifanc ym mhob rhan o’r wlad, buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol a chadw ein hysgolion bychain. Bydd yr iaith yn fyw mewn cymunedau byw.
Ond — un peth mae Cymdeithas yr Iaith yn gwybod ers bron i 60 mlynedd o ymgyrchu — ni fydd gwleidyddion yn gwneud yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau, ein hiaith a phobl gyffredin, oni bai ein bod ni’n sicrhau hynny. Mae angen ymgyrchu, ac mae angen pob un ohonon ni i wneud hynny. Yn enwedig pobl ifanc!
Gyda’n gilydd mae’r grym gennyn ni. Rydyn ni wedi ennill sawl brwydr dros yr iaith o’r blaen — o arwyddion ffordd Cymraeg i sefydlu S4C ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel — ac enillwn ni’r frwydr hon hefyd.
Os oes gennych chi’r un tân yn eich bol, codwch lais ar y materion sy’n bwysig i chi a helpwch ni i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn gallu fforddio byw yn lleol, a byw yn Gymraeg.

* Hawlfraint lluniau: Lluniau Lleucu
Bydd rali genedlaethol nesaf Nid yw Cymru ar Werth ar ddydd Sadwrn y 13eg o Dachwedd tu fas i’r Senedd yng Nghaerdydd.
Gallwch ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith trwy fynd at cymdeithas.cymru/ymaelodi. Mae aelodaeth dim ond £1 y mis i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr!
Dilynwch Cymdeithas yr Iaith ar Instagram, Twitter a Facebook.
bottom of page