Neges atgoffa: cara dy gorff!
gyda Mari Gwenllian
Cer tu fas, cer i gerdded, dechreua arferion newydd (fi wrth fy modd yn mynd i'r gym a bydden i’n awgrymu gwneud hynny ond damo #covid). Dere o hyd i dy ‘chwaraeon’ dy hun a’i fwynhau. Os yw hynny'n codi pwysau neu'n rhedeg, ymarferion ioga ysgafn neu fynd am dro i dy siop goffi agosaf.
Dal ati i symud dy gorff a chael awyr iach. Ond paid â rhoi dy hun trwy rywbeth nad wyt ti'n ei fwynhau er mwyn i ti allu postio llun ohonot mewn bicini ym mis Mehefin pan fyddi di’n dala dy wynt ar gefn lilo yn dy ardd (eto, blydi #covid) a disgwyl iddo wneud ti'n hapus, yn wyrthiol.
Mae ‘mynd yn ôl i rwtin’, beth bynnag mae hynny’n ei olygu, yn iawn. Fi’n mynd nôl i fwyta llysiau a phrotein ac ymarfer corff yn amlach, ond mae hynny oherwydd mae’n wirioneddol fy ngwneud i'n hapus a dyna pryd dwi'n teimlo orau - yn fy nghorff ond yn bwysicach fyth, fy ymennydd. Rho gariad pur i dy gorff, nid cosb ❤️