Noddir gan Lywodraeth Cymru_Gwyn.png

Cefnogir Lysh gyda chymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru. 

Hawlfraint © 2019 Lysh Cymru. Nid yw Lysh Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Mynd DAn Groen Gorbryder 

Pwl o banig yn ystod ei harddegau oedd y dechrau i un ferch o Rydaman - ac mae hi’n dal i fyw gyda gorbryder. Dyma stori bersonol Megan Martin, sy’n un o’r tîm y tu ôl i’r wefan Meddwl.org...

Dechreuodd fy mhroblemau iechyd meddwl yn dilyn pwl o banig a gefais yn yr ysgol yn bymtheg oed. Doedd iechyd meddwl ddim yn rhywbeth oeddwn i wir yn ymwybodol ohono bryd hynny. Doeddwn i erioed wedi clywed am byliau o banig. Felly pan ddechreuais i deimlo’n sâl y diwrnod hwnnw, â fy nghalon ar garlam, fy anadlu’n mynd allan o reolaeth, a minnau’n teimlo fy mod ar fin llewygu, aeth fy meddwl i’r lle gwaetha’. Ro’n i wirioneddol yn meddwl mod i’n cal heart attack! Yn y diwedd bu’n rhaid i mi rhedeg allan o’r dosbarth. Ymhen ryw hanner awr, ro’n i’n teimlo’n normal eto, ond yn sicr fe wnaeth adael ei ôl arna i. 

Ches i ddim un arall am chwe mis, ond yna dechreuais brofi nhw’n rheolaidd yn ystod fy arholiadau TGAU. Am ryw rheswm, fe wnes i gadw’n dawel am y peth, yn meddwl mai straen arholiadau oedd y tu ôl i bopeth. Ond parhaodd y pyliau erchyll hyn drwy gydol yr haf, ac wrth i mi ddechrau yn y chweched dosbarth. Erbyn hyn, roedden nhw’n cael effaith ar y ffordd oeddwn i’n byw fy mywyd.

Roedd gen i lai o ddiddordeb yn y pethau oedd yn fy ngwneud yn hapus. Roeddwn i’n llai cyffrous am ddigwyddiadau cymdeithasol, ac ambell waith yn eu hosgoi’n llwyr oherwydd yr ofn grymus oedd yn codi ynof cyn gorfod mynd. Dechreuais ofni unrhyw sefyllfa lle’r oeddwn i’n teimlo’n ‘gaeth’, neu lle byddai’n anodd neu’n embarrassing i adael petawn i’n cael pwl o banig, er enghraifft dosbarthiadau yn yr ysgol, gwersi gyrru, gwersi offerynnol, awyrennau, bysiau, siopau trin gwallt, y sinema, partïon. Cefais ddiagnosis o orbryder yn 17 oed, gyda phresgripsiwn am dabledi gwrth-iselder, a gorchymyn gan y meddyg i ‘ymlacio’ rhywfaint, sef, gyda llaw, un o’r pethau mwyaf annefnyddiol allwch chi ddweud wrth rywun sy’n dioddef â gorbryder! 

Araf bach a fesul dipyn...

Mae’n anodd dweud beth yn union wnaeth sbarduno fy salwch. Dwi’n credu ei fod yn gyfuniad o bethau, a dweud y gwir, gan gynnwys y ffaith mod i wedi gosod cymaint o bwysau ar fy hun i wneud yn dda’n academaidd, ac i blesio eraill. Does dim rhyfedd bod pobl sydd â gorbryder hefyd yn debygol o fod yn berffeithwyr!

Ers fy arddegau, dwi wedi cael cyfnodau da, a chyfnodau eithriadol o isel. Dwi wedi bod ar dabledi gwahanol ac wedi derbyn sawl math o therapi. Erbyn hyn, dwi o hyd ddim lle’r hoffwn i fod, ond dwi wedi gwella lot. Dwi wedi cyflawni cymaint yn fwy nag oeddwn i wedi disgwyl o’n hun pan oeddwn i yn fy arddegau. Dwi wedi cwblhau gradd, wedi symud i Baris ar ben fy hun ar gyfer fy mlwyddyn dramor, a bellach yn gweithio fel cyfieithydd. Mae gorbryder wedi effeithio ar bob agwedd o fy mywyd, fy nheulu a fy ffrindiau, perthnasau, bywyd cymdeithasol a gwaith. Ond gyda chymorth y bobl cywir, a thrwy weithredoedd bach bob dydd, dwi’n parhau i wella yn fy ffordd fy hun. 

Troi at wirfoddoli

Un o’r pethau sydd wedi fy helpu fwyaf yw gwirfoddoli dros achos da. Mae hyn yn gallu tynnu sylw o broblemau eich hun am ychydig, gan roi rhywbeth cadarnhaol i chi ganolbwyntio arno. Dechreuais gyfieithu dros meddwl.org yn 2017, pan oeddwn i mewn cyfnod gwael o ran fy iechyd meddwl. Roedd hi’n deimlad da i wneud rhywbeth i rywun arall, a hynny at achos oedd yn golygu llawer i mi’n bersonol. Erbyn hyn, dwi’n aelod o dîm rheoli’r wefan ac yn falch iawn o gael bod yn rhan o fudiad sy’n cynnig lle i bobl gael rhannu a darllen profiadau yn eu mamiaith, rhywbeth y byddwn i wedi’i werthfawrogi yn ystod cyfnodau mwy tywyll.

Y peth pwysicaf dwi wedi’i ddysgu efallai, yw nad oes cywilydd os ydych yn byw â gorbryder, nac unrhyw fath arall o salwch meddwl. Mae derbyn y ffaith bod gen i salwch meddwl wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Dwi ddim yn gosod pwysau ar fy hun i fod yn iawn 100% o’r amser. Dwi’n gwybod y byddaf yn byw â’r salwch i ryw raddau am weddill fy mywyd, y peth pwysig yw bod gen i ffyrdd o’i reoli. Dim ond ymddiried mewn un person sy’n rhaid i chi wneud, dechreuwch y sgwrs, a dwi’n addo y bydd y baich yn codi rhywfaint. Mae cymorth ar gael i chi, ac mae ‘na wastad rhywun a fydd yn fodlon gwrando. 

Gair o gyngor – a goroesi’r gaeaf

1

Hunan-ofal

Mae hunan-ofal yn un o’r buzzwords ‘na y mae pobl yn defnyddio’n aml y dyddiau hyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond pan rydych yn byw â salwch meddwl, mae’n chwarae rôl allweddol yn eich bywyd o ddydd i ddydd, yn enwedig yn ystod y gaeaf, adeg y mae llawer ohonom yn ei weld yn anodd. Gall fod yn unrhyw beth rydych chi’n ei wneud dros eich hun. Yn dibynnu ar y math o berson ydych chi, gallai enghreifftiau o hunan-ofal gynnwys mynd am dro ar ddiwrnod braf, coginio, cymryd awr fach i ddarllen llyfr neu gylchgrawn, rhedeg bath cynnes, defnyddio ap ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness), neu unrhyw beth arall sydd at eich dant. Mae’r gweithredoedd bach hyn yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’ch hwyliau ac yn y pen draw’n cyfrannu at iechyd meddwl da.

2

Ymarfer corff


Mae hyn efallai’n anoddach yn ystod y gaeaf, ond mae gwneud rhywfaint o ymarfer corff yn rheolaidd yn hynod o fuddiol i’ch iechyd meddwl. Dwi ddim yn un sy’n hoff o mynd i’r gym, ond dwi’n ceisio cerdded y ci bob dydd ac mae hyn yn ddigon i wneud i mi deimlo’n well. Y rhan anoddaf yw penderfynu mynd, a dwi byth yn difaru mynd ar ôl i mi wneud e.

3

Siarad

Mae siarad â phobl rydych yn ymddiried ynddynt yn bwysig drwy gydol y flwyddyn, ond mae angen cofio gwneud hynny yn ystod y gaeaf hefyd. Mae rhai ohonom yn teimlo pwysau yn ystod adeg sydd i fod mor lawen a chyffrous wrth i ni nesáu at y Nadolig. Rhaid cofio y bydd ein teulu a’n ffrindiau yna i’n cefnogi ac mae siarad bob amser yn lleihau’r baich.

4

Cwsg


Yn ystod y gaeaf, efallai byddwn ni’n teimlo ein bod yn fwy blinedig ac yn fwy tebygol o gysgu mewn yn y bore (dwi’n un o’r rhai hynny, yn bendant!). Un o’r pethau sy’n fy helpu i yw cynnal patrwm cwsg rheolaidd, hynny yw, ceisio mynd i’r gwely a chodi yr un amser bob dydd. Dyw hynny ddim wastad yn bosib, ond ansawdd cwsg yw un o’r pethau pwysicaf wrth ddelio â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig pan rydych chi yn eich arddegau.

5

Gwirfoddoli / gwneud rhywbeth dros eraill

I mi’n bersonol, dyma un o’r pethau sy’n fy helpu fwyaf. Boed yn gwneud gwaith gwirfoddol dros meddwl.org neu’n pobi cacen i fy nheulu a ffrindiau, mae gwneud pethau dros eraill yn cyfrannu at hunan-hyder ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi. Mae hefyd yn tynnu sylw oddi ar eich meddyliau am ychydig ac yn canolbwyntio eich egni ar rywbeth cadarnhaol. 

6

Bod yn garedig i’ch hun

​Mae hwn yn un bwysig i’w gofio ac mae angen i mi ddilyn cyngor fy hun yma! Yn aml, mae salwch meddwl yn gallu cael effaith ar y ffordd yr ydym yn gweld ein hunain, ac yn ei dro, y ffordd yr ydym yn trin ein hunain. Ceisiwch siarad â’ch hun fel y byddech â ffrind yn yr un sefyllfa. Ceisiwch beidio â gosod safonau eithriadol o uchel i’ch hun - mae’r rhain yn afrealistig ac yn gallu arwain at ymdeimlad o fethiant. 

Meddwl, moes, mwy...

Mae meddwl.org yn dathlu tair mlynedd ers ei sefydlu eleni, ac mae’n le i gael cefnogaeth, dysgu am anhwylderau iechyd meddwl gwahanol, darllen am brofiadau eraill a chael gwybodaeth am ble i gael cymorth – y cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Sefydlwyd y wefan fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, sydd wedi tyfu eleni o dri i chwech aelod. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg. 
 

Fy rôl i fel rhan o’r tîm rheoli yw cynnal tudalennau cyflyrau’r wefan, trefnu’r gwaith cyfieithu ac ychwanegu erthyglau a newyddion i’r wefan. 

Os hoffech gyfrannu blog i’n gwefan, neu ein helpu mewn unrhyw ffordd arall, cysylltwch â ni ar post@meddwl.org