Mewn Datblygiad
Oes 'na fasiwn beth â normal?
Mewn Datblygiad.
Drwy’r amser, am byth.
Camwch mewn i fyd amlddisgyblaethol o brofiadau cyntaf pobl ifanc wrth iddynt drawsnewid siop yng nghanol dinas Bangor.
Mewn Datblygiad yw archwiliad Cwmni Ifanc Frân Wen o’r camau cyntaf enfawr mae pobl ifanc yn eu cymryd, y profiadau cyntaf sy’n ein diffinio a’r disgwyliadau a ddaw gyda hynny.
Mae’r grŵp ifanc, gyda chefnogaeth artistiaid proffesiynol, wedi cymryd drosodd y siop yng Nghanolfan Siopa Deiniol Bangor i greu gofod sy’n archwilio a rhannu drwy fideo, cerddoriaeth, ‘spoken word’ a chelf weledol.
Gan weithio gyda’r artist gweledol Rhys Grail, y cerddor Ifan Pritchard a’r awdur Mared Llywelyn, mae’r bobl ifanc wedi mynd i’r afael â materion fel y pwysau a’r disgwyliad ar bobl ifanc heddiw, beth yw’r diffiniad o berson ifanc arferol a sut mae’n teimlo i fod yn berson ifanc heddiw?
Mae Cwmni Ifanc Frân Wen yn creu theatr amlddisgyblaethol uchelgeisiol sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.
Bydd Mewn Datblygiad ar agor i ymwelwyr tan Medi 28.
Dyma flas ar y sleid yma o luniau:




Lluniau: Kristina Banholzer
O'r sgwrsio i'r synhwyrau...
“I ddechrau, roedd cael creu rhywbeth y byddai pobl ifanc eraill yn gallu cysylltu ag o yn fraint i’w wneud. Roedd cael siarad am betha nad ydw i yn cael y cyfle i siarad lot amdano gyda phobl ifanc fy oed i yn braf ofnadwy.
Mae’r prosiect yma wedi canolbwyntio ar ein teimladau a’r newidiadau yn ein hymennydd wrth i ni dyfu’n hŷn. Yn ystod y tair wythnos, rydym wedi dod i sylweddoli bod llawer o bobl wedi cael ei galw yn ‘od’ a ‘ddim yn normal’. Felly ein cwestiwn mawr trwy’r prosiect yma yw: Beth yw ‘normal’?”
- Lois Gwilym, aelod o'r Cwmni Ifanc
“Mae’r profiad synhwyrol sydd i’w weld yn y siop yn benllanw blwyddyn o sgyrsiau a chreu hefo’n Cwmni Ifanc ni, ac yn bendant yn adlewyrchiad o deimladau’r criw am y pwysau sydd arnyn nhw i fod yn datblygu, yn addasu, ac yn newid o hyd.
Mae teitlau'r gweithiau sydd i’w gweld - fel ‘Nain Fyddai’n Fine’ a ‘This is All The Shit In My Brain’ - yn dangos perchnogaeth y bobl ifanc yn y syniad bod dilyn dy drwyn yn hollol dderbyniol, a dydi diwrnod i ffwrdd i fwynhau’r olygfa ddim yn lladd neb!
Dwi’n meddwl bod pawb wedi cael budd o weithio hefyd hefo’n hartistiaid ni, Hedydd Ioan, Rhys Grail, ac Ifan Pritchard, i greu celfyddyd sy’n crynhoi’r teimladau yma - mae rhannu teimladau a meddyliau ynysig yn dod â chysur a hyder nad oes ’na ffasiwn beth â normal dwi’n meddwl.”
- Nia Hâf, Cyfarwyddwr Cwmni Ifanc Frân Wen a chydlynydd y prosiect