Matilda - ffilm sydd allan ers oes pys slwtsh (ers cyn fy ngeni!) ond i fi, mae’r ffilm oesol, ryfeddol a hudolus sy’n seiliedig ar nofel gan Roald Dahl yn dal i apelio i blant ac oedolion o bob oed heddiw. Mae’r cymeriadau’n cipio dychymyg. Yr erchyll Agatha Trunchbull, y llyfrgellydd caredig, Mrs. Phelps, y brawd mawr annifyr Mikey, yr athrawes ryfeddol, berffaith, Miss Honey. A phwy all anghofio’r hud? Mae’n freuddwyd i bob plentyn, mae’n siŵr gen i, i geisio gwyrdroi anghyfiawnderau bywyd gydag ychydig o hud a lledrith. Pe bawn i ond fel Matilda, yn gallu rhoi popeth yn iawn gyda phwerau hud!
Mae bywyd fel plentyn yn wych ac yn hapus (ar y cyfan) ac yn gyffrous ond yn frawychus hefyd. Ac yn Matilda fe welwn bob elfen o blentyndod yn disgleirio gan berfformiadau chwerthinllyd, dros-ben-llestri Danny DeVito (tad Matilda), Rhea Perlman (mam), a Pam Ferris (Ms Trunchbull, y pennaeth). Oes, mae yna elfen frawychus i'r ffilm - yr helfa yn nhŷ Ms. Trunchbull; y "Chokey"; yr olygfa arswydus o Matilda yn dwyn "Lizzie Doll" yn ôl oddi wrth Ms Trunchbull wrth ‘arswydo’ ei thŷ. Digon i roi llond twll tin o ofn ond er gwaethaf hyn, ry’n ni’n GWYBOD yn y bôn - Matilda a Miss Honey a'u ffrindiau i gyd fydd yn fuddugol.