Mari’n Mwydro!
Ffônaholic

Mari ydw i a dwi’n gaeth i fy ffôn.
Ges i sioc cyn ’Dolig wrth edrych be oedd fy screen time am y tro cyntaf erioed a gweld ‘mod i ar fy ffôn tua 4 awr bob dydd. Cyfanswm o 28 awr yr wythnos!! Sef basically eistedd yn syllu ar fy ffôn drwy’r dydd a’r nos cyn penderfynu gwylio Titanic drwyddi ac wedyn gorffen efo pennod fach o Friends (yndw, dwi’n sdyc yn y 90au). Ma hynna’n lot o amser.
Dwi ’di bod yn meddwl dipyn am sut dwi’n defnyddio fy ffôn ers dysgu hyn, ac mae ’di gneud i fi deimlo reit anghyfforddus. Mae yna ran fawr ohona i sy wir yn meddwl bysa bywyd gymaint gwell heb fodolaeth ffonau symudol o gwbl. Drastic ella, ond meddyliwch am y peth. Maen nhw wedi tyfu i fod yn rhan rhy bwysig o’n bywydau. Y teimlad yna mae rhywun yn ei gael o fod wedi colli eu ffôn, neu ei dorri... neu’r ‘hunllef’ o fod wedi anghofio’ch ffôn adra am ddiwrnod cyfan!!
Dwi am ddangos fy oedran rŵan (er dwi’n siŵr oedd y Titanic/Friends reference yn ‘chydig bach o giveaway); ges i ddim ffôn tan o’n i’n tua 14 oed. Dwi’n cofio’r buzz o gerdded lawr y stryd a ffonio fy ffrind Ffion - “Hei, nei di byth gesho lle ydw i?! Dwi ar y ffor’ i tŷ chdi, a ti’n gellu clywed fi’n siarad achos DWI AR MOBILE FFÔN!” Roedd y syniad o allu siarad efo’ch ffrindiau neu yrru negeseuon iddyn nhw lle bynnag oeddech chi yn un hollol boncyrs ar y pryd. Erbyn hyn, mae o weithia’n teimlo fatha niwsans pa mor hawdd ydi hi i gadw mewn cysylltiad efo pawb...
Dwi’n hogan sy’n licio lists, felly dyma’r prif bethau sy’n fy mhoeni am y ffons:
1. Wastad ar gael
Mae hi’n rhy hawdd cadw mewn cysylltiad. Whatsapp, Messenger, Instagram, Snapchat, e-byst... mae’r rhestr yn un hir. Peidiwch a ‘nghael i’n rong, dwi’n mwynhau’r ffaith mod i’n gellu cadw mewn cysylltiad efo ffrindiau a theulu, yn enwedig gan fy mod i’n byw yng nghanol nunlle, ond weithia dwi’n poeni ei fod o’n ormod. Ydi cyfathrebu drwy’r ffôn wedi cymryd lle cyfathrebu go iawn? Ydi cyfathrebu drwy’r ffôn yn fwy deniadol i lot na chyfathrebu yn y cnawd? Hynny ydi, mae’n hawdd cuddio tu ôl i filter, ac yn hawdd bod mwy diddorol a doniol os ’da chi’n cymryd amser i feddwl am y tweet perffaith yn eich pyjamas. Oes yna beryg i bobl fynd yn fwy hyderus a chyfforddus tu ôl i sgrin ffôn nes bod mynd allan i’r byd go iawn yn teimlo fel gormod o ymdrech?
Y cwestiwn mawr ydi - oeddan ni fel pobl yn fwy rhydd pan oedd hi ddim mor hawdd cael gafael arnom ni? Y dyddiau pan oeddech chi’n mynd ar eich gwyliau, a neb yn disgwyl clywed gennych heblaw drwy dderbyn cerdyn post ella? Mi rydan ni rŵan yn ffeindio’n hunain yn poeni a hel meddyliau os nad ydan ni'n gallu cael gafael ar rywun. Yn bendant mae ‘na bethau da a drwg am allu cadw mewn cysylltiad mor hawdd, dwi jyst methu helpu teimlo ein bod ni mewn gormod o gysylltiad cyber efo’n gilydd, sy’n amlwg yn distraction mawr o fyw bywyd go iawn. A does 'na ddim byd gwell na hongian allan efo’ch hoff bobl wyneb yn wyneb yn fy marn bach i. Dim otsh pa mor gry’ di’ch GIF game chi.

2. Cofnodi bob dim
Dwi’n gellu bod yn ddrwg am hyn. Y teimlad yna ‘dach chi’n ei gael ar unrhyw foment sbeshal neu ddoniol - ‘w ma raid i fi ffilmio/dynnu llun/tweetio am hyn’! Cwic ma’r foment yma’n InstaStory GOLD - ffôn allan! Ydi’r urges yma i ddal y foment ar ein ffonau yn ein stopio rhag mwynhau’r foment yn iawn fel ma’n digwydd? Mae yna gymaint mwy o luniau a fideos o fy mhlant i na sydd yna ohona i’n fach - miloedd ar filoedd - bron fod eu bywydau i gyd yn cael ei gofnodi. Ydi o’n ormod?
3. Filters
Apps i neud i chi edrych yn ddelach. Yn deneuach. Dwi’m yn ffan (wel OK, ella bo fi’n licio pose-io efo’r apps ma weithia ond plîs peidiwch â deud wrth neb). Ond go iawn, pa effaith ma’r Apps ma’n eu cael arnom ni - yn enwedig teenagers ansicr? Constantly yn deud wrthym ni bo ni ddim digon da fel ydan ni. Dwi weithia’n gweld rhywun yn dewis llun profile Facebook newydd sy’n amlwg wedi ei ffiltro’n reit drwm (y rhei od yna sy’n gneud eich llygaid yn fwy a’ch trwyn yn llai ac yn gwneud i’ch croen edrych fel cymeriad Disney); ac i wneud o'n waeth mae 'na fel arfer degau o sylwadau o dan y llun yn dweud pa mor dda mae’r person yn edrych! Felly mae’r ffôn yn bendant yn gallu gwneud i bobl deimlo’n wael am eu hunain - drwy wthio filters arnom ni, a drwy neud i ni gymharu’n hunain efo pobl eraill yn ddyddiol. Plîs cofiwch fod y busnes cymharu ma’n wast o amser llwyr. Ma’r dyfyniad yma’n ei ddeud o mor dda - ‘Don’t compare your real life to someone else’s controlled online content’. Amen.

4. Facebook
Hwn dwi’n teimlo sy’n fwya peryg o ran gwastraffu amser. Wna i ddisgyn mewn i dwll du Facebook a 45 munud yn ddiweddarach dwi’n edrych ar luniau gwyliau rhywun oedd flwyddyn yn iau na fi yn yr ysgol (dwi’n meddwl). Rhywun dwi erioed ’di deud mwy na “Haia” wrthi yn fy mywyd. Rhywun dwi heb weld ers 20 mlynedd. Ac yn waeth na hynny, dwi’n darllen y comments o dan y lluniau hefyd. PAM?! Am be dwi’n chwilio?! Ac mae son am y sylwadau o dan y lluniau yn fy arwain i'n dwt at...
5. Likes
Pam bo ni’n poeni gymaint am y likes a’r ymateb mae’r stwff ‘dan ni’n eu rannu yn ei gael? Pam bo ni’n mynd nôl i weld faint o ymateb mae’r llun yn ei gael bob deg munud, ac yn teimlo ‘chydig yn fflat ac ella’n embarassed os nad oes yna lot o sylw i’r post? Os ydan ni’n licio rhywbeth ac yn dewis ei rannu, ddyla hynny fod yn ddigon! Own your shit b*tches! Ateb arall fysa cael gwared â’r botwm likes a’r opsiwn i adael sylwadau yn gyfan gwbl. O weld pa mor gas ma rhai pobl yn gallu bod, ella bod hyn yn saffach i bawb? Dwi wir methu dallt pobl sy’n mynd allan o’u ffordd i ddeud petha cas a brifo teimladau pobl. Fel ma Mam di drilio fewn i fi ers on i’n eiliadau oed siŵr o fod, “Os oes gen ti’m byd neis i’w ddeud, paid â’i ddeud o”. Cyngor syml ond HOLLBWYSIG gen Leri Lovgreen fanna.
