top of page
Hysbysebu Gyda Ni 3.png

Hysbysebu Gyda Ni

Pam hysbysebu gyda ni?

Cynulleidfa Unigryw

Cylchgrawn ar-lein di-elw yw Lysh.Cymru ar gyfer pobl ifanc 11-14 oed yn eu harddegau. Ein nod yw cynnig cynnwys hwyliog i'n darllenwyr i'w darllen yn eu hamser hamdden a ffordd o gyfathrebu, yn y Gymraeg, drwy gyfrwng cyfryngau cyfoes fel ffonau clyfar. Bonws Lysh yw y gallwn hefyd ddechrau cyfathrebu dwy ffordd, uniongyrchol â'n cynulleidfa a chael eu barn er mwyn eu rhannu â chynulleidfa ehangach. Mae gan y gynulleidfa ifanc hon lais erbyn hyn, trwy gyfrwng Lysh!

Pwy yw ein Cynulleidfa?

• Pobl ifanc, yn enwedig merched 16+

• Rhieni pobl ifanc yn eu harddegau

• Ysgolion

• Canolfannau ieuenctid

• Dysgwyr

Mae cynnwys Lysh ar gael am ddim trwy ein gwefan, www.lysh.cymru ar gyfrifiadur, ar dabled neu ffôn clyfar. Rydym hefyd yn postio'n aml ar Instagram, Twitter a Facebook. Wedi lansio ym mis Mai 2019, mae gennym eisoes ddilyniant cryf ar ein cyfryngau cymdeithasol gyda llawer o ddarllenwyr yn anfon eu cynnwys eu hunain atom i'w huwchlwytho i’n hadran gymunedol.

Effaith ddigidol ddwbl

Enghreifftiau o sut mae Lysh.Cymru yn edrych ar ffôn, tabled a chyfrifiadur.

Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'r arian rydym yn ei godi?

Bydd yr holl arian a godwn o roddion, tanysgrifiadau a hysbysebion yn cael ei fuddsoddi i wneud Lysh.Cymru y wefan orau i bobl ifanc yn eu harddegau. Bydd arian ychwanegol yn ein galluogi i gynyddu ein herthyglau a chynnwys cyfranwyr eraill i gwmpasu amrywiaeth ehangach o bynciau. Mwy o erthyglau a deunydd hwyliog!

Cyfraddau cystadleuol 

Mae tair banner hysbysebu ar gael ar y wefan sy'n ymddangos ar sail cylchdro. Dangosir y cyfraddau hysbysebu isod:-

Dimensiynau: 728 x 90 picsel

Baner ar ffurf JPEG neu PNG

Un linc i wefan allanol

  • 1 mis                    £150

  • 3 mis                    £400

  • 6 mis                    £700

  • 12 mis                  £1100

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech hysbysebu ar Lysh, cysylltwch gyda ryan@rily.co.uk.

Ystadegau.png

Ystadegau ar ein gynulleidfa cyn lansio yn ôl Instagram

Baner Meddwl.jpg
bottom of page