Gwthio ffiniau trwy gelfyddyd
Holi Heti ac Ella

Heti_edited.jpg

Heti Hywel
 

Mae artistiaid ifanc Cymru efo rhywbeth pwysig i’w ddweud ac maen nhw’n erfyn arnoch chi wrando trwy eu gwaith celf amrywiol a heriol.

Mae Heti Hywel yn ffotograffydd o fri ac yn defnyddio ei dawn i adrodd negeseuon sy’n bwysig iddi. Wedi iddi arddangos ei phrosiect Lefel A, ‘Torri Normau Newydd’, mae Heti wrthi’n paratoi ar gyfer parhau gyda’i addysg celf yn y coleg a gymaint o syniadau i’w gwireddu yn y dyfodol.

Un sydd wrthi yn y coleg ydi Ella Owen, sy’n cyfuno crefftau traddodiadol gyda dulliau celf gyfoes i archwilio ei dealltwriaeth hi o Gymru yn ogystal â chreu penwisgoedd ar gyfer fideos cerddoriaeth Cymraeg!

Aeth Lysh Cymru ati i holi’r ddwy am eu gwaith a’u hysbrydoliaeth, ond yn gyntaf roedd rhaid i ni wybod beth mae celf yn ei olygu iddyn nhw?

 

Ella.jpg

Ella Owen
 

Heti Hywel: Mae celf yn hynod o bwysig i fi. Byddai’n cael fy nghanlyniadau Lefel A yn fuan a dim ond celf fi’n poeni amdano. ‘Sdim ots gen i am y pynciau eraill! Mae’n bwysig i mi oherwydd os oes gen i rywbeth i’w ddweud, mae’n haws i mi gyfleu'r neges yna drwy fy ngwaith. Dwi’n ddyslecsig ac weithiau fydda i’n ffeindio fe’n eithaf anodd i ysgrifennu ac i siarad, rili. Pan fi’n tynnu lluniau, fi’n ceisio siarad trwy’r llun.

Ella Owen: Mae celf yn rhan o bob dim. Tydi pobl ddim i’w weld yn sylweddoli pa mor eang ydi ystyr y term ‘celf’. Yn bersonol, mae celf yn fy helpu i i ymdopi efo gor-bryder a straen. Dwi’n meddwl bod gan gelf botensial fawr i helpu pobl gyda’u hiechyd meddwl a does dim rhaid i chi fod yn artist traddodiadol i gael y manteision o greu celf.

O ble ddoth y diddordeb a’r ddawn o greu celf?

HH:
Fi wastad wedi bod yn tynnu lluniau, ers on i’n ddeg. Roeddwn i’n gwneud cystadlaethau ffotograffiaeth Heno, stwff fel ‘na. Yn yr ysgol, roedd fy athrawes gelf yn berson rili agored oedd yn annog ni i fynd ar ôl y themâu oedd efallai ychydig yn ddadleuol.

EO: Mae celf wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd i ers on i’n ifanc iawn. Roedd fy mam yn fy ysbrydoli trwy ei chrefftau ac roeddwn i’n ei gwylio hi yn creu teganau meddal, yn gwau a gwnïo dillad. Roedd hi’n dysgu fi sut i wneud, hefyd. Yn yr ysgol uwchradd, fy athrawon celf wnaeth i mi eisiau parhau gydag addysg bellach ac astudio celf a helpu fi i ddatblygu steil fy hun.

 

Heti 2.jpg
Ella 3.jpg

Mae eich prosiectau diweddaraf yn canolbwyntio ar ddwy thema gwbl wahanol. Allwch chi ddweud mwy am eich prosiect?

HH:
Fy mhrosiect Lefel A i oedd ‘Torri Normau Rhywedd’. Roeddwn i’n teimlo bod y themâu o rhywedd yn rili bwysig, yn enwedig yn fy ardal i, Caerfyrddin, lle mae e’n eithaf styc mewn amser. Ni heb rili symud ymlaen mewn ffordd falle dylen ni wedi erbyn hyn, felly roeddwn i eisiau chwarae rhan mewn rhyw fath o normaleiddio delweddau gwahanol. Mewn ardal fel hyn, falle trwy gelf, fe allwn ni gyfathrebu negeseuon pwysig, fel fy neges i, mewn ffordd sydd llai in your face. Mewn ardal lle dyw pobl ddim yn gweld rhyweddau gwahanol bob dydd nac yn ei drafod mewn ffordd agored a theg, efallai byddai celf fel hyn yn helpu cyfathrebu’r neges yn haws.

EO: Yn y coleg, cawsom brief gan Storiel ym Mangor i archwilio i mewn i dirwedd llechi gogledd Cymru a wnes i sylweddoli nad yw i’n gwybod gymaint â hynny am yr hanes a diwylliant fy nghartref. Dyma wnaeth fy ysbrydoli i i ddysgu mwy o Gymraeg.

Mae fy arddangosiad diweddaraf, sef “Yr Adfywiad” yn cynrychioli fy nealltwriaeth i o Gymru a fy siwrnai i o ddysgu am fy nghartref. Mae’n rhannu lluniau does neb wedi eu gweld o’r blaen mewn ffordd gyfoes gan ddefnyddio pwythau - crefft wnes i fwynhau ei archwilio. Dwi’n mwynhau cyfuno crefft draddodiadol gydag elfennau modern.

 

Mae tecstilau a defnydd yn chwarae rhan fawr yn eich gwaith. Pam mae hynny?

HH: Fi’n rili mwynhau dewis y dillad ar gyfer fy ngwaith. Yn fy nosbarth celf Lefel A, dim ond tair ohonom ni oedd yn y dosbarth ac roedd un yn gweithio gyda thecstilau. Roeddwn i’n cyd-weithio lot gyda hi, gan ei bod hi’n gwneud lot o bethau ffasiwn a dwi wrth fy modd gyda ffotograffiaeth ffasiwn a phethau fel ‘na. Os byddai hi’n gweithio ar ffrog neu rywbeth, bydden i’n tynnu lluniau wedyn!

Mae dewis y dillad iawn ar gyfer y shoot yn bwysig, oherwydd mae’n rhaid iddo gyfleu'r thema a chreu’r darlun cywir ond hefyd mae’n rhaid i’r model teimlo’n gyffyrddus yn ei wisgo.

EO: Mae tecstilau yn rhywbeth wnes i ddechrau datblygu yn y coleg. Cefais fy ysbrydoli gan artistiaid tecstilau cyfoes wrth i mi ymchwilio i mewn i brosiectau gwahanol. Mae gweithio efo tecstilau yn dod a chysur i mi. Dwi’n mwynhau’r natur ailadroddus ac mae creu darn o waith efo tecstilau yn broses sy’n tawelu’r meddwl.

 

Ella 2.jpg
Heti 3.jpg

Mae eich darnau i’w weld yn gwthio’r ffin o’ch themâu dewisedig. Pa mor bwysig ydi celf sy’n gwthio’r ffin?

HH:  
Beth bynnag fydda i’n ei greu, pa bynnag fformat, dwi wastad yn mynd i wthio pethe dros y ffin o beth sy’n cael ei ‘dderbyn’. Fi eisie gwthio mwy. Er roedd fy mhrosiect Lefel A, ‘Torri Normau Rhywedd’, yn gwthio yn erbyn y norm yn fy ardal, ond fi eisie gwthio ymhellach.

EO: Does yna ddim celf heb wthio’r ffin! Mae celf wastad wedi bod yn ffordd o wrthryfela ac mae sawl darn o waith celf Cymraeg wedi cael ei greu mewn protest - perfformiad Welsh Not gan Paul Davies, er enghraifft.

Yn fy ngwaith fy hun, dwi’n trio gwthio’r ffin er mwyn creu rhywbeth newydd, diddorol a rhywbeth sy’n datblygu fy nealltwriaeth o fy hunan. Dwi’n anelu at dorri lawr fy nealltwriaeth i o gelf a’i ail-ddiffinio. Dyma pan dwi’n hoff o gyfuno crefft gyda chelfyddyd gain.

Mae’r ddwy artist yn edrych ymlaen at barhau yn eu crefftau amrywiol ac archwilio i mewn i wahanol themâu. Gwnewch yn siŵr i gadw llygaid allan am eu gwaith yn y dyfodol agos, ar eu cyfrifon celf Instagram
@heti.hywel ac @ellaowenart

 

Ella 1.jpg