top of page

Ysbryd-oliaeth Coginio - Rysáit Calan Gaeaf

Trick or Treat
Rhysait calan gaeaf still 1.png

‘Dach chi’n gwybod y dyluniadau cacennau anhygoel fyddwch chi’n gweld ar Pinterest, TikTok neu Instagram - a dydyn nhw byth yn diweddu’n edrych yn debyg i’r llun sydd ar eich ffôn? Wel, dyma ddyluniad mor syml, gall PAWB ei gyflawni!

Gwyliwch y fideo isod a rhowch gynnig arni! Gall y dyluniad yma gael ei ddefnyddio gydag unrhyw rysáit cacennau bach, ond dyma rysáit Lysh i’ch rhoi ar ben ffordd:

100g menyn
100g siwgr mân
2 wy
100g blawd codi
Eisin parod (neu gallwch chi wneud peth eich hun)
Siocledi bach

 

1.    Cymysgwch y menyn a’r siwgr mân gyda'i gilydd ac unwaith mae’r cyfan yn edrych yn esmwyth, rhowch y wyau i mewn a chymysgu eto.
2.    Wrth barhau i gymysgu, rhowch y blawd i mewn.
3.    Gosodwch 12 cês cacennau bach yna a pharatowch peli bach o ffoil a’u gosod nhw i siapio’r cês cacennau bach (gwyliwch y fideo i weld sut!)
4.    Unwaith mae’r cynhwysion wedi’u cymysgu, rho’r cymysgedd yn y cesys.
5.    Rhowch y cyfan yn y popty am oddeutu 15 munud – a chadw golwg arnyn nhw!
6.    Pan mae’r cacennau wedi oeri, rhowch yr eisin gwyn a cheisio cadw siâp yr ysbryd cyn gosod dau ddarn o siocled bach fel llygaid.
7.    Mwynhewch!

 

Rhysait calan gaeaf still 3.png
bottom of page