Y GYFRAITH
Yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig, mae gan bobl ifanc 16 oed yr hawl i briodi, cael rhyw a chael plant. Erbyn i ni droi’n 17 oed, mae gennyn ni’r hawl i yrru car. Os felly, mae’n gwneud synnwyr i ni gael yr hawl i bleidleisio. Mae penderfynu priodi a chael plant yn benderfyniad anferthol sy’n mynd i gael effaith ar eich bywyd am byth. Ar ben hynny, os ydych chi’n cael plentyn cyn i chi gael pleidleisio, mae’n debygol iawn y buasech chi eisiau pleidleisio er mwyn dyfodol eich plentyn, yn dydi?! Wrth gwrs, mae gyrru car yn gyfrifoldeb anferthol pan mae gennych chi bobl yn y car gyda chi; siawns bod rhoi croes mewn bocs ar ddarn o bapur yn gymaint o gyfrifoldeb â gorfod bod yn gyfrifol am sawl person mewn car?
Rydyn ni’n haeddu cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau ac unrhyw refferendwm tu allan i Gymru tra rydyn ni’n rhan o’r Deyrnas Unedig! Mae’r cenedlaethau hŷn yn pleidleisio ar faterion sydd ddim yn mynd i’w heffeithio nhw, ond sy’n mynd i’n heffeithio ni a’r cenedlaethau nesaf! NI sy’n ganol newid y byd felly rydyn NI’N haeddu’r hawl i bleidleisio fel pawb arall! Peidiwch â gwrando ar y gwleidyddion neu unrhyw un sy’n dweud “nad ydi pobl ifanc yn ddigon aeddfed”! Yn dilyn gwleidyddiaeth y tair blynedd diwethaf, nid NI sydd wedi bod yn anaeddfed ac anhrefnus! Buasai cael gostwng yr oedran bleidleisio i 16 yn fuddiol i ni AC i’r gymdeithas. Buasai’n newid yr agwedd sydd gan y gymdeithas sy’n datgan bod pobl ifanc yn rhy anaeddfed i bleidleisio. Gan ystyried y digwyddiadau rhyngwladol rydyn ni wedi arwain yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi profi ein bod ni’n aeddfed. Felly, mae’r amser wedi dod i newid yr oedran bleidleisio eto i bawb ar draws y Deyrnas Unedig!