top of page

Tlodi’r Mislif -
Y Gôst Annheg

Mae cynnyrch mislif yn angenrheidiol, boed nhw’n rai ail-ddefnyddiadwy neu’n rhai untro. Y gwir amdani yw does dim opsiwn rhad pan mae’n dod i gynnyrch mislif. Nid yn unig y mae’n broblem i ni yma yng Nghymru - mae’n broblem fyd-eang ac mae’n bwnc sy’n effeithio ar bob un person sy’n profi’r mislif.
 

pink-menstrual-cup-in-box-1560288.jpg

Ymysg ein darllenwyr, mae’r farn yn unfrydol: mae cynnyrch mislif yn ddrud. Rhy ddrud. Gyda chostau byw yn uchel, mae 40% o ddarllenwyr Lysh wedi rhannu eu bod nhw’n teimlo pwysau ariannol wrth iddyn nhw fynd ati i brynu cynnyrch mislif.

Mae diffyg cynnyrch mislif yn brofiad annifyr sy’n gallu cyfyngu bywydau o ddydd i ddydd - mae sawl un yn penderfynu peidio â chymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol oherwydd eu bod yn gwaedu. Yn ôl yr elusen Action Aid, roedd un arolwg yn dangos fod 14% o’r rheini gymerodd rhan yn yr arolwg yn dweud eu bod wedi osgoi mynd i’w gwaith yn ystod eu mislif. Yn ogystal, roedd 13% wedi osgoi mynd i’r ysgol, coleg neu brifysgol. Credai rhai bod diffyg cynnyrch mislif yn cyfyngu’r profiadau sydd ar gael i ferched ac eraill sy’n profi’r mislif ac, oherwydd hyn, mae’n rhaid ymgyrchu i sicrhau cynnyrch mislif am ddim, gan fod cynnyrch mislif am ddim yn gam yn nes at gydraddoldeb.

 

Eich Barn Chi

Yn yr Alban, mae cynnyrch mislif ar gael i bawb yn hygyrch ac am ddim fel rhan o gynllun y llywodraeth ers 2021. Er bod cynnyrch mislif ar gael am ddim mewn ambell i le yng ngweddill y DU, fel mewn banciau bwyd neu ysgolion, credai rhai y dylai cynnyrch mislif fod am ddim i bawb, a dylai cael gafael ar y cynnyrch mislif am ddim fod yn haws.

Criw sy’n barod i leisio eu barn yw darllenwyr Lysh ac, wrth ofyn ar ein Instagram Stories, roedd thema’r atebion yn glir; dylai cynnyrch mislif fod ar gael am ddim i bawb. Dyma gasgliad o’r atebion:

 

Interior of Pharmacy
Hygiene Products

“Mae bod ag access i gynnyrch mislif heb orfod gwario lot bob mis yn bwysig, ond dydi’r byd heb gael ei adeiladu ar gyfer pobl sy’n profi’r mislif.”     - Sian

“Dydi o ddim yn deg ein bod ni’n gorfod gwario gymaint. Dydw i ddim ishe hyd yn oed meddwl faint dwi’n gwario mewn blwyddyn ar gynnyrch mislif.”     - Eleri

“Wrth gwrs dylai cynnyrch mislif fod am ddim. Mae’n beth naturiol, felly dylsa fo fod am ddim i’w cael nhw. Dwi’n meddwl bysa fo’n helpu cael gwared o’r stigma, hefyd.”     - Tesni

“Dwi’n gwybod bod nhw ar gael mewn banciau bwyd, ond dydw i ddim eisiau mynd yno i gael nhw. Dwi’n meddwl fod rhaid creu cynllun ble mae cynnyrch mislif ar gael yn hawdd, heb orfod gofyn i neb amdanyn nhw.”     - Elin

 

Beth ydi dy farn di am gynnych mislif am ddim? Wyt ti’n cytuno gyda’r farn uchod, neu oes gen ti farn wahanol? Byddwn ni wrth ein boddau yn clywed gen ti.

Rhow wybod i ni drwy anfon e-bost at
gol@lysh.cymru neu drwy anfon neges ar ein socials.

 

bottom of page